Sêr Cymru’n Heidio i Stondin “Ydych Chi Wedi Clicio?” Hafal ar Faes y Sioe

Bu nifer o sêr Cymru yn ymweld â stondin yr elusen iechyd meddwl Hafal Ydych Chi Wedi Clicio? ar Faes y Sioe i gefnogi ei ymgyrch gwrth-stigma newydd.
Roedd Derek Quinnell, Scott Quinnell, Stuart Cable, Derek Brockway, Lembit Opik AS a Jamie Owen (yn y llun) ymysg nifer o unigolion o fyd gwleidyddiaeth ac adloniant a ddaeth i ddysgu mwy am sut i drechu’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.