Ymchwiliad yn amlygu “diffygion trychinebus” o ran y driniaeth i bobl sydd â sgitsoffrenia a seicosis yn Lloegr

Mae ymchwiliad annibynnol i gyflwr y gofal sydd yn cael ei roi i bobl sydd â sgitsoffrenia a seicosis yn Lloegr yn galw am ddiwygio’r system yn gyfan gwbl.

Mae’n dweud fod llawer gormod yn cael ei wario ar y ffurfiau mwyaf drud o ofal, sef gofal diogel, a dylid buddsoddi mwy mewn atal a chymorth cymunedol.

Mae’r Comisiwn Sgitsoffrenia, a sefydlwyd ym 2011 gan yr elusen Seisnig Rethink Mental Illness, yn adrodd bod y gofal sydd yn cael ei roi i bobl sydd â sgitsoffrenia a seicosis yn Lloegr yn “drychinebus o ddiffygiol”. Mae’n dweud fod gwelliannau yn y ddealltwriaeth a thriniaeth o’r cyflwr yn golygu na ddylid ei ystyried mwyach yn “ddiagnosis o drallod.”

Mae’r adroddiad, “An Abandoned Illness”, yn disgrifio safonau “gwarthus” o ofal mewn rhai wardiau iechyd meddwl aciwt, sydd yn medru “gwneud rhai cleifion yn waeth yn hytrach na’n well”. Mae’n galw ar bob ward yn Lloegr i fabwysiadu safonau lle y byddai pobl yn eu hargymell i ffrind neu berthynas.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r anghysondeb rhwng yr arian sydd yn cael ei wario ar bobl sydd â salwch corfforol a’r rhai hynny sydd ag afiechyd meddwl; dim ond 13% o gyllid y GIG sydd yn mynd tuag at iechyd meddwl er bod 23% o’r cyflyrau y mae’r GIG yn deilo gyda hwy yn rhai meddyliol yn hytrach na chorfforol. Mae hefyd yn mynegi pryder bod timau triniaeth ymyrraeth gynnar sydd yn hynod effeithiol yn cael eu torri mewn rhai meysydd; mae yna amcangyfrif fod y rhain yn arbed tua £16,000 y person i’r GIG dros dair blynedd gyntaf eu hafiechyd.

Dywedodd yr Athro Syr Robin Murray, cadeirydd y comisiwn: “Rydym wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gwrando ar weithwyr proffesiynol arbenigol, ac yn fwy pwysig, y profiadau’r bobl hynny sydd â sgitsoffrenia, a seicosis a’u teuluoedd.

“Mae’r neges sydd wedi dod i law yn neges uchel a chlir, sef bod pobl yn cael eu siomi’n aruthrol gan y system ym mhob agwedd o’u bywydau. Mae pobl sydd â seicosis angen derbyn y gobaith ei fod yn berffaith bosib i fyw bywyd llawn ar ôl derbyn diagnosis. Nid oes amheuaeth gennym nad yw hyn yn bosib.”

Dywedodd Paul Jenkins, Prif Weithredwr yr elsen Rethink Mental Illness, a fu’n aelod o’r comisiwn: “Mae wedi bod yn fwy na 100 mlynedd ers bathu’r term “sgitsoffrenia”, ond nid yw gofal a thriniaeth yn agos at fod yn ddigon da. Mae’n warth fod pobl ym 2012 sydd â sgitsoffrenia yn marw 15-20 mlynedd ynghynt na’r boblogaeth gyffredinol a dim ond 7% sydd yn medru cael swydd. Mae yna ormod o bobl yn disgyn drwy’r bylchau yn y system ac yn diweddu mewn carchar neu’n ddigartref.”

Wrth wneud sylw ar yr adroddiad, dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal: “Yn anffodus, nid oes yna unrhyw reswm dros feddwl fod profiadau pobl sydd â sgitsoffrenia a seicosis yng Nghymru unrhyw well na phrofiadau’r rhai hynny yn Lloegr. Yn wir, mewn rhai agweddau, mae ail-ddatblygu ystâd ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr. Mae’r adroddiad ardderchog hwn yn cynnig darlun realistig a gonest.

“Mae deddfwriaeth dda gennym nawr yng Nghymru a Strategaeth iechyd Meddwl gadarn ond y gwirionedd yw bod yna gryn dipyn o waith i’w wneud er mwyn unioni’r anghyfiawnder gwarthus o ran y ffordd y mae pobl ag afiechyd meddwl difrifol wedi cael eu trin. Yn fwy na dim, mae’r adroddiad hyn yn dweud wrthym mai’r flaenoriaeth yw clustnodi adnoddau ychwanegol ac ymdrech i ddarparu gwasanaeth safonol i bobl sydd â’r anghenion mwyaf.”

Roedd y dystiolaeth allweddol a gyflwynwyd i’r comisiwn yn cynnwys:

Mae pobl sydd â sgitsoffrenia yn marw 15-20 mlynedd ynghynt nag arfer yn bennaf yn sgil cyflyrau corfforol y mae modd eu hatal.

Dim ond 10% o’r boblogaeth sydd â sgitsoffrenia sydd yn cael cynnig therapïau siarad megis CBT a allai o bosib drawsnewid bywydau.

Mae wardiau iechyd meddwl yn aml yn llefydd mor ofnadwy fel eu bod yn gwneud cleifion yn waeth yn hytrach na’n well.

Mae 1 ym mhob 3 person sydd wedi eu heffeithio yn dweud nad ydynt yn medru cael mynediad cyflym at wasanaethau pan eu bod eu hangen – ac nid yw llawer yn gwybod ble i fynd am help.

Mae yna bryderon sylweddol dal yn bodoli ynghylch diffyg effeithiolrwydd a sgil-effeithiau cyffuriau anti-seicotig sydd yn medru arwain at unigolion yn magu pwysau’n gyflym, clefyd y siwgr a chlefyd y galon.

Ychydig iawn sydd yn derbyn y lefel o ofal y mae’r corff gwarchod iechyd NICE yn dweud y dylent ei dderbyn, a hynny er gwaetha’r ffaith fod triniaethau ar gael sydd yn gweithio yn well ac yn costio llai.

Mae yna ddiffog moral yn aml ymhlith staff sydd wedi gorflino ac mae pesimistiaeth yn aml drwy’r system
Mae argymhellion allweddol yn cynnwys:

Diwygiad llawn o unedau cleifion mewnol gan gynnwys defnydd mwy eang o “dai adferiad” sydd wedi eu selio yn y gymuned

Ailgyfeirio cyllid o unedau diogel i mewn i wasanaethau ymyrraeth gynnar sydd yn arbed arian i’r trethdalwyr ac yn atal pobl rhag cyrraedd pwynt argyfwng.

Mwy o ymchwil ar achosion a thriniaeth sgitsoffrenia a seicosis gan gynnwys datblygu cyffuriau gwell gyda llai o sgil-effeithiau.

Dileu unrhyw bresgripsiynu gwael gan seiciatryddion a’r hawl i dderbyn ail farn ar feddyginiaeth i gleifion.
Ymestyn mynediad at therapïau seicolegol ac ymyriadau iechyd meddwl pendant gan ddechrau ar y wardiau cleifion mewnol.

Ffocws cryfach ar ymyrraeth, gan gynnwys rhybuddion clir am beryglon canabis.

Mwy o bartneriaeth gyda phobl sydd â seicosis – yn gwerthfawrogi eu profiadau a sicrhau bod yr hyn y maent yn ffafrio a’u hamcanion yn ganolog i’w hadferiad.

Gweithredu i ddiwallu anghenion yr holl grwpiau ymylol ac yn enwedig y rhai hynny o gymunedau Affricanaidd a Charibî.

Cytundeb gwell ar gyfer gofalwyr tymor hir a ddylai gael eu trin fel partneriaid yn hytrach na phroblemau.

Er mwyn darllen yr adroddiad, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.schizophreniacommission.org.uk/the-report/