Colegau’n cael eu gorfodi i ddanfon myfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl i’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Mae ymchwil sydd wedi ei gynnal gan y mudiad aelodaeth, Cymdeithas y Colegau (Association of Colleges), wedi datgelu fod tri chwarter (74%) o golegau addysg bellach yn Lloegr wedi gorfod danfon myfyrwyr sydd yn profi argyfyngau iechyd meddwl i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod y flwyddyn academaidd olaf (2015/16).

Mae’r nifer o fyfyrwyr coleg sydd yn profi problemau iechyd meddwl yn cynyddu. Dywedodd 85% o’r colegau a wnaeth ymateb i’r arolwg eu bod wedi profi cynnydd yn y tair blynedd ddiwethaf yn y nifer o fyfyrwyr sydd â phroblemau iechyd  meddwl. Roedd pedwar o bob pump (81%) hefyd wedi datgelu fod niferoedd sylweddol o fyfyrwyr ganddynt yn profi trafferthion iechyd meddwl nad oedd wedi eu datgelu.

Mae’r arolwg yn dangos fod pob un coleg bron (97%) yn darparu addysg ar welliant fel rhan o waith helaeth i gefnogi myfyrwyr  i ofalu ar ôl eu hiechyd meddwl. At hyn, mae’r mwyafrif yn cynnig staff cwnsela a lles er mwyn cefnogi ac atgyfeirio myfyrwyr sydd yn profi trafferthion at arbenigwyr.

Fodd bynnag, yn sgil y gostyngiadau sylweddol yng nghyllid colegau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf o golegau wedi gorfod cyfyngu ar y gwasanaethau hynny na sy’n ymwneud yn uniongyrchol  â dysgu ac mae llai na hanner o’r colegau nawr (40%) yn medru cynnig cwnselydd llawn amser neu weithiwr iechyd meddwl ar y campws. Mae’r astudiaeth yn datgelu loteri cod post yn y berthynas rhwng colegau a’u gwasanaethau iechyd meddwl lleol. Tra bod y mwyafrif o golegau yn meddu ar berthynas dda gyda’u gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed lleol  (CAMHS) a gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, nid yw hyn yn wir am bawb. Roedd bron i hanner (48%) wedi dweud nad oes ganddynt unrhyw berthynas o gwbl gyda grwpiau comisiynu clinigol lleol, sydd yn caffael ar y gwasanaethau iechyd meddwl.

Dywedodd Ian Ashman, Llywydd Cymdeithas y Colegau: “Mae gormod o bobl eisoes yn mynd i’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac nid yw’n iawn fod colegau yn cael eu gorfodi i gyfeirio cynifer o fyfyrwyr at y gwasanaethau yma, gan eu bod yn llefydd mor amhriodol ar eu cyfer. Nid yw colegau am ychwanegu at broblemau’r Adrannau Damweiniau ac Achosion ond nid oes dewis ganddynt weithiau gan fod yna ddiffyg buddsoddiad er mwyn cydlynu gwasanaethau arbenigol i bobl ifanc ac oedolion yn y gymuned.

“Mae colegau yn gwneud gwaith ardderchog yn helpu myfyrwyr i barhau’n iach ac i gefnogi’r rhai hynny sydd ag afiechyd meddwl. Fodd bynnag, pan mae perthynas dda ganddynt gyda’u gwasanaethau iechyd meddwl lleol, maent yn medru gwneud llawer iawn mwy er mwyn mynd i’r afael â materion cyn eu bod yn dod yn rhy ddifrifol. Mae ymyrraeth effeithiol o’r fath gan y fath bartneriaethau yn medru helpu myfyrwyr osgoi problemau mwy difrifol neu’n eu hatal cyn iddynt gyrraedd y pwynt o argyfwng iechyd meddwl.”

Mae Cymdeithas y Colegau yn galw ar gomisiynwyr ac ymddiriedolaethau GIG lleol i ddefnyddio cyllid gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn datblygu perthynas agosach gyda’r colegau. Mae yna gyfran sylweddol o bobl rhwng 16 ac 18 mlwydd ac oedolion yn astudio mewn colegau, a thrwy weithio gyda cholegau, mae timau CAMHS lleol  yn medru cefnogi’r bobl hynny sydd mewn peryg  a’u hatal rhag profi argyfwng. Mae gwasanaethau oedolion yn medru gwneud yr un peth. Mae addysg a hyfforddiant yn cael eu cydnabod fel pethau sydd yn cyfrannu at les.

Parhaodd Mr Ashman: “Mae modd atal gorfod danfon pobl ifanc ac oedolion at Adrannau Damweiniau ac Achosion yn sgil y ffaith eu bod yn profi argyfwng iechyd meddwl, a hynny os yw’r gwasanaethau cywir ar gael yn y gymuned. Rydym yn gwybod fod mwy a mwy o bobl ifanc yn profi rhyw fath o afiechyd meddwl a rhaid i ni sicrhau fod y gwasanaethau yma dal ar gael ar yr adeg y maent eu hangen.”

Os yw colegau yn mynd i weithio’n fwy agos gyda myfyrwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl, rhaid iddynt drefnu’r lefel gywir o gymorth. Rydym yn gwybod o’r enghreifftiau ardderchog o weithio mewn partneriaeth rhwng y gwasanaethau iechyd meddwl a cholegau fod modd gwneud hyn drwy ddarparu arbenigwyr iechyd meddwl i weithio mewn colegau, ar y cyd gyda hyfforddi staff y coleg i adnabod arwyddion  sydd yn dangos fod pobl yn profi problemau iechyd meddwl a gwneud yr atgyfeiriadau cywir.

Mae Cymdeithas y Colegau am weld gwasanaethau iechyd meddwl a cholegau yn datblygu perthynas waith gwell ac yn gofyn i golegau i flaenoriaethu lles eu myfyrwyr.

Mae Cymdeithas y Colegau wedi dynodi eleni fel blwyddyn iechyd meddwl ac mae’n gweithio gyda cholegau ac asiantaethau GIG er mwyn creu adnoddau a chanllawiau arferion gorau er mwyn dangos y berthynas bositif y mae colegau yn medru ei gael gyda gwasanaethau iechyd meddwl a chaniatáu’r rhain i gael eu datblygu a’u cynnal. Mae hefyd yn galw ar y Llywodraeth – drwy Gyllideb y Gwanwyn – i gynyddu cyllid i golegau fel bod modd iddynt ariannu’r gwasanaethau yma i fyfyrwyr a chynnwys staff y coleg yn y rhaglen o hyfforddi athrawon ysgol am iechyd meddwl, fel sydd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar gan y Prif Weinidog.