“Nid yw 3 o bob 10 person ag anhwylder bwyta yn cael eu hatgyfeirio i dderbyn triniaeth”

Mae ymchwil newydd yn awgrymu nad yw tri o bob deg person ag anhwylderau bwyta  yn cael eu hatgyfeirio  gan eu Meddygon Teulu at wasanaeth er mwyn derbyn triniaeth, a hynny er bod canllawiau meddygol yn pwysleisio’r angen am atgyfeirio pobl ar frys. Tra bod hanner o’r bobl hynny ag anhwylder bwyta wedi derbyn gofal ‘da neu da iawn’ gan eu Meddygon Teulu, mae hanner yn credu fod y gwasanaeth a dderbyniwyd yn druenus neu’n druenus iawn, a hynny yn ôl arolwg o bron i 1,700 o bobl.

Mae Beat, sef elusen anhwylder bwyta y DU sydd wedi cynnal yr ymchwil, yn galw am fwy o hyfforddiant i fyfyrwyr meddygol sydd yn arbenigo mewn practis cyffredinol fel bod yr holl Feddygon Teulu yn medru cynnig diagnosis i symptomau seicolegol ac ymddygiadol o anhwylderau bwyta fel bod modd atgyfeirio yn syth.

Mae’r arolwg, a gyhoeddwyd i gydfynd ag wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, sy’n dechrau ar ddydd Llun, 27ain Chwefror, wedi gofyn i bobl am eu barn ynghylch eu hymweliad cyntaf i weld eu Meddygon Teulu am eu hanhwylder bwyta.  Dangosodd y canlyniadau fod 55 y cant yn teimlo nad oedd y Meddyg Teulu yn deall y pwysigrwydd o ymyrraeth gynnar ac mai ond 34% oedd yn teimlo fod eu Meddygon Teulu yn gwybod sut i’w helpu.

At hyn, roedd yr arolwg hefyd wedi datgelu mai ond yn ym mhob pump Meddyg Teulu sydd yn rhoi gwybodaeth i’w cleifion am anhwylderau bwyta, er bod hyn wedi ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros ragoriaeth Mewn Iechyd Gofal, neu sydd wedi eu hatgyfeirio at wasanaethau a fydd yn eu helpu, megis rhwydweithiau cymorth gan gyfoedion neu linell gymorth cenedlaethol Beat. Yn y cyfamser, roedd bron i un ym mhob chwech, bron i 200, o’r sawl a ymatebodd wedi mynd i weld Meddyg Teulu arall gan iddynt fethu â derbyn y gofal neu’r help a oedd angen arnynt ar gyfer eu hanhwylder bwyta. Roedd mwy wedi sôn eu bod wedi cael profiad mwy positif gyda’r ail Feddyg Teulu iddynt ei weld.

Mae Beat yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau bod Meddygon Teulu ac aelodau teulu a ffrindiau yn fwy parod i adnabod y symptomau. Mae hyn yn cynnwys llyfryn i ofalwyr,  canllaw gwybodaeth er mwyn gwarantu eu bod yn  sicrhau’r canlyniadau gorau ar ôl ymweld â Meddyg Teulu ynghyd â phoster er mwyn rhoi cyngor ynglŷn â sut i adnabod arwyddion cyntaf anhwylder bwyta a gosod person ar y trywydd cywir er mwyn sicrhau adferiad.  Mae’r rhain ar gael yma – www.b-eat.co.uk/tips

Mae’r elusen hefyd yn galw am fwy o gyllid fel bod pawb yn medru derbyn y driniaeth sydd angen arnynt unwaith eu bod wedi cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl.

Dywedodd Prif Weithredwr Beat, Andrew Radford: “Rydym yn gwybod sut y mae ymyrraeth gynnar ac atgyfeirio pobl ag anhwylderau bwyta yn gyflym yn hanfodol ar gyfer gwneud yr adferiad gorau posib.

“Mae’n cymryd cryn dipyn o ddewrder i bobl sydd yn dioddef anhwylderau bwyta i ddod ymlaen, a’r person cyntaf y maent yn aml yn siarad ag ef yw’r Meddyg Teulu.  Yn  anffodus, roedd llawer iawn o’r bobl a ymatebodd wedi dweud eu bod wedi cael gofal truenus gan eu Meddygon Teulu gan nad oedd y meddygon yn gwybod  beth yw’r arwyddion a’r symptomau go iawn.

“Rydym yn galw am fwy o hyfforddiant ar anhwylder bwyta i fyfyrwyr meddygol sydd yn arbenigo mewn practis cyffredinol fel bod Meddygon Teulu yn fwy parod i fedru helpu dioddefwyr anhwylderau bwyta.

“Nid yw hyn yn ymwneud â beio Meddygon Teulu, ond mae’n ymwneud â sicrhau bod y 50 y cant o Feddygon Teulu na sydd yn darparu gofal da, yn medru bod mor gefnogol tuag at yr unigolion sy’n dioddef anhwylderau bwyta â’r Meddygon Teulu hynny sydd eisoes yn gefnogol.”

Dywedodd Dr. Elizabeth McNaught, 25, sef meddyg iau iddi ddioddef anhwylderau bwyta pan oedd yn iau. Ers hynny, mae wedi derbyn pum mlynedd o hyfforddiant meddygol.

Dywedodd hi: “Mae cymryd y cam cyntaf i ymweld â’r Meddyg Teulu yn medru bod yn brofiad positif iawn neu’n brofiad negatif iawn. Yn anffodus, yr olaf oedd yn wir i mi. Nid oedd fy Meddyg Teulu yn gwybod rhyw lawer am y pwnc. Roedd hi’n ansensitif, yn gwneud sylwadau na oedd yn ddefnyddiol ac yn gofyn cwestiynau amhriodol. Nid yw fy stori yn anarferol. Nid yw llawer o feddygon yn gwybod digon am anhwylderau bwyta am nad ydynt yn chwarae rhan amlwg mewn hyfforddiant meddygol. Dim ond dwy awr a roddwyd i’r pwnc, er gwaethaf pum mlynedd o hyfforddiant. Gan nad oedd llawr o’r myfyrwyr yn gweld hyn fel rhywbeth a oedd yn hanfodol i’w hyfforddiant,  dim ond hanner y myfyrwyr a fynychodd. Mae anhwylderau bwyta yn cynyddu ar raddfa ddychrynllyd ac mae’r cymhlethdod sydd yn eu nodweddu yn golygu nad yw dwy awr o hyfforddiant yn ddigon. Petai fy Meddyg Teulu wedi derbyn hyfforddiant, ni fyddwn wedi colli cynifer o flynyddoedd o’m mywyd. Gallai ac mi ddylai pob dim wedi bod yn wahanol.”

Dywedodd un Meddyg Teulu sydd yn darparu hyfforddiant ar anhwylderau bwyta: “Rwyf wedi bod yn feddyg ers 1993 ac yn Feddyg Teulu ers 1998. Nid oeddwn wedi cael unrhyw hyfforddiant swyddogol ar anhwylderau bwyta pan oeddwn yn hyfforddi. Rwy’n gwybod wrth siarad gyda meddygon iau fod hyn dal yn broblem.

“Wedi datblygu diddordeb arbennig mewn anhwylderau bwyta dros y 18 mlynedd ddiwethaf, rwyf yn darparu sesiwn hyfforddi am brynhawn ar gyfer yr holl  Gofrestryddion yn Lerpwl  ac maent wedi bod yn ddiolchgar iawn ac nid yw wedi bod yn faich o gwbl.

“Mae Meddygon Teulu, yn fy mhrofiad i, wedi ymrwymo i gefnogi cleifion sy’n cael anhwylderau bwyta ond gan nad oes llawer o brofiad ganddynt o ran hyfforddiant a phractis, maent wedi gwerthfawrogi fod cymorth a chanllawiau yn medru helpu i ennyn hyder. Mae Meddygon Teulu yn gymwys i adnabod eu hanghenion hyfforddi a’r cyrsiau sydd ar gael ond bydd cyfle i dderbyn y fath hyfforddiant ar ddechrau eu gyrfaoedd yn fuddiol.

“Efallai mai nyrsys practis yw’r pwynt cyswllt cyntaf  ar gyfer person sydd yn dioddef anhwylder bwyta ac maent hwy hefyd wedi elwa o’r sesiynau hyfforddi.”