“Gofalwyr di-dâl  saith gwaith yn fwy unig na’r cyhoedd yn gyffredinol”

Mae gofalwyr di-dâl sydd yn gofalu am anwyliaid sydd â salwch, anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu wrth iddynt dyfu’n hŷn, yn saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn unig o gymharu gyda’r cyhoedd yn gyffredinol, yn ôl adroddiad newydd.

Mae diffyg arian, neu amser, i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ynghyd â’r stigma o fod yn ofalwr, yn golygu fod un ym mhob tri gofalwr di-dâl (35 y cant) yn teimlo’n unig yn aml neu’n barhaol, a hynny o gymharu gydag un ym mhob ugain (5 y cant) o’r boblogaeth yn gyffredinol.

Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Wythnos Gofalwyr 2019 (10fed- 16eg Mehefin) hefyd yn awgrymu fod gofalwyr di-dal yn teimlo fod yr hyn y maent yn gwneud yn eu bywydau dipyn yn llai gwerth chweil o gymharu gyda gweddill y boblogaeth, gyda’r rhai hynny sydd yn profi trafferthion ariannol mwy na thraean yn fwy tebygol o deimlo fod eu bywydau yn llai gwerth chweil.  Mae hyn er gwaetha’r cymorth hanfodol y mae gofalwyr yn rhoi i anwyliaid a’u cyfraniad sylweddol i gymdeithas.

Mae natur yr unigrwydd a lles gwael ymhlith gofalwyr yn cael ei ddatgelu wrth i amcangyfrifon  newydd awgrymu fod  mwy o bobl nawr yn ofalwyr di-dâl na’r hyn a gredwyd.

Mae yna 8.8 miliwn o ofalwyr sydd yn oedolion yn y DU, cynnydd o’r 6.3 miliwn a amcangyfrifwyd yng nghonsensws  2011– cynnydd sylweddol o draean.

Gydag un oedolyn ym mhob chwech nawr yn ymgymryd gyda rôl fel gofalwyr ac mewn risg gynyddol o unigrwydd – ac mae nifer yn cyfeirio at hyn fel un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf ein cyfnod  – mae saith elusen genedlaethol wedi dod ynghyd er mwyn amlygu’r angen brys i fynd i’r angen ag unigrwydd a gwella lles ymhlith gofalwyr y DU, sydd yn aml yn ystyried eu hanghenion eu hunain  ar ôl anghenion y sawl y maent yn gofalu amdano.

Ar ran elusennau Wythnos Gofalwyr, dywedodd  Helen Walker, Prif Weithredwr Wythnos Gofalwyr DU: “Gyda chynifer ag un ym mhob chwe oedolyn yn y DU erbyn hyn yn ymgymryd gyda rôl gofalu, mae’n hen bryd fod cymdeithas yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth hanfodol y maent yn darparu.

“Mae nifer o ofalwyr di-dâl yn cael trafferth ceisio ymdopi heb gefnogaeth.  Os ydym yn mynd i fynd i’r afael gyda’r epidemig yma o unigrwydd sydd yn eu hwynebu, mae’n hanfodol fod pawb – Llywodraeth, cyflogwyr, gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, ysgolion a phrifysgolion, a phob un ohonom yn unigol- yn chwarae rôl yn cysylltu gofalwyr gyda help ymarferol a chyllidol.

“Mae angen i ofalwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu deall ac wedi eu cysylltu gyda’u cymunedau.”

Mae’r ymchwil yn deillio o arolwg o ofalwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn darparu mwy na 50 awr o ofal ar gyfer anwylyd bob blwyddyn.

Mae tystiolaeth yn dangos bod y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan unigrwydd yn cynnwys gofalwyr sydd yn rhieni ac yn gofalu am blant anabl sydd o dan 18 mlwydd oed, gan eu bod ddengwaith yn fwy unig na’r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae gofalwyr di-dâl yn dweud eu bod ddwywaith mor orbryderus â’r cyhoedd yn gyffredinol ac mae’r rhai hynny sydd yn cael trafferth ariannol neu’n mynd heb gymorth ymarferol wrth iddynt ofalu, hanner mor fodlon gyda’u bywydau o gymharu gyda gweddill y boblogaeth.

Mae’r canfyddiadau yn dangos sut y mae cymorth ariannol ac ymarferol yn medru helpu gwella lles yr 8.8 miliwn o ofalwyr yn y DU a’u cysylltu yn well gyda’u cymunedau.

Mae modd i chi ddarllen yr adroddiad llawn yma.