“Chwarter miliwn o blant yn y DU yn anhapus”

Mae chwarter miliwn o blant yn y DU – sy’n cyfateb i  219,000 – yn dweud eu bod yn anhapus gyda’u bywydau ar y cyfan, a hynny yn ôl ffigyrau newydd gan Gymdeithas y Plant (The Children’s Society).

Mae adroddiad blynyddol yr elusen, ‘Good Childhood Report’, sydd yn asesu cyflwr lles plant yn y DU, hefyd wedi datgelu fod hapusrwydd plant gyda bywyd ar ei lefel waethaf ers 2009. Mae’n nodi materion ynglŷn â phryd a gwedd bechgyn, cyfeillgarwch ac ysgol fel y ffactorau posib sydd yn gyrru hyn.

Mae’r elusen yn rhybuddio fod y dirywiad hwn mewn hapusrwydd yn ‘sgandal cenedlaethol’ ac yn amlygu’r ffaith ein bod wedi methu plant mwyaf bregus y wlad.

Mae’r adroddiad yn canfod fod un ym mhob 12 bachgen (7.7%) rhwng 10 a 15 – sy’n cyfateb i 180,000 – yn anhapus gyda’u hymddangosiad. Roedd y sawl dros 13 mlwydd oed dipyn yn fwy anhapus gyda’r ffordd yr oeddynt yn edrych o gymharu gyda phlant rhwng 10 a 12 mlwydd oed. Yn hanesyddol, mae bechgyn wedi bod yn fwy hapus gyda’u hymddangosiad na merched ond mae’r gagendor yn lleihau.   .

Dywedodd un bachgen “Instagram a phethau felly, ie? Rydych yn gweld yr holl unigolion yma sy’n modelu, yn codi pwysau, yn adeiladu cyhyrau ac yn edrych ar eich hun ac yn meddwl – rwy’n teimlo mor denau. Rydym yn dod ar draws y pethau hyn mor aml fel ein bod yn teimlo’n llai sicr am ein hymddangosiad ein hunain.”

Mae un ym mhob wyth o bob plentyn (11.8%) hefyd yn anhapus gyda’r ysgol, sef mesur lles allweddol arall, sydd ar ei lefel isaf ers 2009. Mae tystiolaeth gan fyfyrwyr blwyddyn 10 (yn 14 a 15 mlwydd oed gan amlaf) wedi awgrymu fod bwlio a theimlo’n anniogel yn yr ysgol ymhlith ystod o ffactorau sydd yn gysylltiedig gyda lles isel. Mae’r ymchwil hefyd wedi datgelu cysylltiadau rhwng tlodi a straen ariannol ac anhapusrwydd gyda’r ysgol.

Dywedodd merch o’r ysgol uwchradd: “Mae llawer o bethau’n cael eu dwyn ac mae rhai pobl yn arw a’n ffiaidd. Ddoe, ciciodd rhywun fy mag a’m galw yn enw drwg a phoeri yn fy wyneb.”

Mae hapusrwydd plant gyda’r cyfeillgarwch sydd ganddynt ag eraill hefyd yn gwaethygu, gyda  2.8% o blant yn anhapus gyda’u ffrindiau. Mae’r ymchwil ehangach yn awgrymu fod hyn i’w briodoli i ffactorau sydd mor amrywiol â bwlio, methu treulio amser gyda ffrindiau y tu hwnt i’r ysgol, defnydd gormodol o’r cyfryngau cymdeithasol ac unigrwydd.

Roedd y ‘Good Childhood Report’ hefyd wedi canfod traean (33%) o’r sawl sydd rhwng 10 a 17 mlwydd oed yn pryderu ynglŷn ag a fydd digon o arian ganddynt yn y dyfodol, gyda mwy  na chwarter  (29%) yn poeni am sicrhau swydd.

Ond mae pobl mor ifanc â 10 hefyd yn pryderi am faterion cymdeithasol ehangach. Y pryderon mwyaf cyffredin rhwng y sawl rhwng 10 a 17 mlwydd oed oedd troseddau (42%), ac yna’r amgylchedd (41%) a rhannu gwybodaeth ar-lein (37%). Dim ond tua 20% oedd yn pryderi am yr economi a Brexit.

Mae Cymdeithas y Plant yn galw ar y Llywodraeth i  gyflwyno mesur cenedlaethol o ran lles ar gyfer plant rhwng 11 a 18 mlwydd oed, sef mesur sydd i’w gynnal mewn ysgolion a cholegau unwaith y flwyddyn. Byddai hyn yn caniatáu bod modd cofnodi profiadau pobl ifanc ac ymateb i unrhyw faterion er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Mark Russell, Prif Weithredwr Cymdeithas y Plant:  “Mae plentyndod modern yn gyfnod hapus iawn i’r rhan fwyaf, ond i lawer, nid yw hyn yn wir. Mae’n sgandal cenedlaethol fod anhapusrwydd ymhlith plant yn cynyddu mor gyflym.

“Mae pobl ifanc heddiw yn dod yn fwyfwy anhapus gyda’u cyfeillgarwch – un o sylfeini lles – ynghyd â’u hymddangosiad a’r ysgol.  Mae plant yn wynebu sawl baich gyda phryderon yn amrywio o boeni am y dyfodol, dim digon o arian a theimlo’n anniogel yn yr ysgol a bwlio. Mae llawer o bobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod wedi eu diystyru ac anwybyddu  gan y sawl sydd mewn grym. Mae Cymdeithas y Plant wedi ymrwymo i wrando ar bobl ifanc, a’n gweithio gyda hwy i siarad yn uchel ac yn gyhoeddus, fel bod modd i bob plentyn ffynnu, ac nid goroesi yn unig.

“Rydym yn annog y Llywodraeth i gyflwyno mesur cenedlaethol o les ar gyfer plant fel bod modd i ni wrando, ymateb a dangos pobl ifanc eu bod yn bwysig. Gyda’n gilydd, rydym yn medru adeiladu dyfodol mwy disglair a dwyn optimistiaeth a hyder yn ôl i bobl ifanc.”