Pennaeth yr heddlu’n galw am gyllid teg ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru

Mae’r arweinydd cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl mewn plismona, y Prif Gwnstabl Mark Collins, yn galw ar y llywodraeth i efelychu Lloegr, o ran y cynnydd mewn arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, yng Nghymru.

Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales fore heddiw (2 Medi), disgrifiodd Mr Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, sut mae swyddogion heddlu’n cael eu llusgo i ffwrdd o’u dyletswyddau craidd er mwyn ymdrin â phobl sy’n dioddef salwch meddwl.

Meddai: “Yn y pen draw, mae’r heddlu yma i ddiogelu’r cyhoedd, ac mae’n iawn ein bod ni’n ymateb i rai galwadau gan bobl sy’n profi argyfwng o ran iechyd meddwl. Fodd bynnag, ni fyddai’r cyhoedd yn disgwyl i ni gefnogi pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl cymaint ag yr ydym. Mae gennym rôl i’w chwarae, ond ni allwn arwain. Er bod swyddogion heddlu wedi’u hyfforddi i roi cymorth i bobl mewn argyfwng, gall presenoldeb swyddog heddlu wneud i rai pobl deimlo’n waeth, ac nid yw hynny o fudd iddynt.

“Yng Nghymru, mae gennym dimoedd arbenigol sy’n medru ymateb i alwadau iechyd meddwl yn y lle cyntaf – mae’r tîm brysbennu iechyd meddwl yn fy heddlu’n ymdrin â 200 o alwadau’r wythnos – ond unwaith mae claf yn mynd i fan diogel neu’r uned damweiniau ac achosion brys, rydyn ni’n medru colli swyddog heddlu am hyd at 12 awr wrth i ni aros i drosglwyddo i’r gwasanaeth iechyd.

“Mae hyn yn golygu bod llai o amser gan swyddogion heddlu i ddatrys troseddau, rhoi cyngor atal trosedd gwerthfawr, a darparu presenoldeb amlwg yn ein cymunedau. Rwy’n falch bod GIG Lloegr wedi cael hwb ariannol o £2.3 biliwn, ond mae angen i Gymru gael ei hariannu’n deg yn awr er mwyn helpu i leddfu’r pwysau ar blismona rheng flaen.”

Daw’r alwad ar ôl i Mr Collins ddatgelu bod gwasanaethau heddlu’n gwario dros filiwn o bunnoedd ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol:

“Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru’n gwario £1.2 miliwn ar nyrsys iechyd meddwl. Rydyn ni’n prynu’r nyrsys hyn i mewn er mwyn iddynt roi cyngor arbenigol. Fodd bynnag, nid yw’r ffigwr hwn yn ystyried amser y swyddogion heddlu, na’r costau cudd, megis cerbydau a ddefnyddir i fynd â phobl i’r ysbyty.

“Mae galwadau’n ymwneud ag iechyd meddwl wedi cynyddu o 30% – 40% dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, ac mae gwelyau ar gyfer cleifion preswyl dal yn broblem – does dim digon o welyau ar gyfer cleifion iechyd meddwl.

“Fodd bynnag, mae gwelliannau’n digwydd – mae’r defnydd o gelloedd heddlu fel man diogel yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, ac mae sefydliad timoedd brysbennu iechyd meddwl yn rhoi gwell mynediad i ni at gynlluniau gofal cleifion, fel eu bod nhw’n medru cael mynediad at well cymorth.

“Yn fy heddlu, rydyn ni’n gweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynd i’r afael â heriau lleol, ac yn fy rôl genedlaethol, rwy’n dal i wthio am newid i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.”