Rhybudd gan elusen bod y galw cynyddol am gymorth yn dynodi fod yna argyfwng iechyd meddwl ar y gorwel

Mae Rethink Mental Illness wedi profi cynnydd yn y galw am gyngor a gwybodaeth gan y cyhoedd ac mae’n galw ar y llywodraeth i weithredu yn gyflym er mwyn osgoi’r argyfwng iechyd meddwl sydd ar y gorwel.

Mae’r cynnydd sylweddol hwn mewn galw yn digwydd er bod data’r GIG yn awgrymu fod yna gwymp cychwynnol yn y nifer o atgyfeiriadau IAPT a gafwyd ar ddechrau’r pandemig ac mae’n destun pryder gan ei fod yn awgrymu fod yna argyfwng iechyd meddwl yn mynd i ddilyn o’r pandemig.

Mae dadansoddiad o’r traffig a fu’n ymweld gyda gwefan yr elusen yn datgelu cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sydd yn chwilio am gyngor am feysydd penodol o bryder. Mae hyn yn cynnwys:

· Cynnydd o 183% yn y nifer o bobl sydd yn chwilio am wybodaeth am anhwylderau gorbryder

· Cynnydd o 188% yn y nifer o bobl sydd yn gofyn am gyngor ynglŷn â sut i gefnogi rhywun sy’n ystyried hunanladdiad

· Cynnydd o 229% yn y nifer o bobl sydd yn adolygu’r cyngor a’r wybodaeth sydd ar gael am hunan-niwieidio

Roedd Rethink Mental Illness hefyd wedi nodi fod yna gynnydd o 99% mewn traffig i’r tudalennau cyngor a gwybodaeth sydd yn cefnogi gofalwyr a’n amlygu fod elusennau yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf i bobl sydd yn poeni am eu hiechyd meddwl. Dywedodd Laura Peters, Pennaeth Gwasanaethau Cyngor a Gwybodaeth Rethink Mental Illness:

“Os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl neu’n poeni am anwylyd, mae’n medru peri tipyn o benbleth ac ymdeimlad o arwahanrwydd. Mynd ar-lein yn aml yw’r cam cyntaf y mae pobl yn ei gymryd pam nad ydynt yn gwybod ble i droi, ac felly, mae’r ystadegau yma yn dynodi fod yn gydnabyddiaeth gyhoeddus gynyddol o effaith y pandemig ar ein hiechyd meddwl a’r angen am wybodaeth a chanllawiau dibynadwy.

“Mae’r galw cynyddol am gefnogaeth gyda materion fel hunan-niwed a hunanladdiad yn bryderus ond nid yw’n unig yn dynodi’r lefel o drallod y mae pobl yn profi. Mae hefyd yn awgrymu bod pobl yn cydnabod y pryderon yma, yn rhagweithiol wrth gymryd y camau cynaf er mwyn helpu rheoli cyfnod heriol a thrafferthus.

“Mae’n hanfodol fod pobl yn parhau i fynd ar y daith yma ac yn chwilio am gefnogaeth broffesiynol. Y neges yw nad oes rhaid i chi geisio delio gyda phob dim ar ben eich hun ac nid yw hyn erioed wedi bod mor bwysig a byddem yn eich annog i ofyn am help os yw eich iechyd meddwl yn dirywio.”

Dywedodd Mark Winstanley, Prif Weithredwr, Rethink Mental Illness:

“Mae’r twf aruthrol yn y galw am gyngor a gwybodaeth yn digwydd ar yr un pryd â’r pandemig ac yn arwydd ein bod yn wynebu rhywbeth problematig go iawn. Tra bod atgyfeiriadau’r GIG am wasanaethau’r IAPT wedi disgyn ym misoedd cychwynnol y cyfnod clo, nid yw’r data yn rhoi arwydd clir i ni am ba mor eang yw’r broblem. Rydym yn gwybod bod pobl yn cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl a bod problemau hefyd yn cael eu storio ar gyfer y dyfodol. Mae’n amlwg fod y llywodraeth angen buddsoddi’n briodol mewn iechyd meddwl nawr, a hynny ymhell uwchlaw’r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

“Mae hyn hefyd yn ein hatgoffa ni o’r cyfrifoldeb sydd gawn bawb ohonom i flaenoriaethu ein hiechyd meddwl a chefnogi’r bobl o’n cwmpas. Mae rôl gan bawb ohonom i’w chwarae yn hyn o beth. Tra bod yr ysbryd cymunedol a ddangoswyd yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig y tu nôl i ni, rhaid ni barhau i weithio gyda’n gilydd a chefnogi ein gilydd yn ystod argyfwng ar y raddfa yma.”

Mae Tom Dunning, 29, wedi derbyn diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol, anhwylder gorbryder cymdeithasol ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD):

“Roedd fy iechyd meddwl wedi dirywio i’r pwynt lle’r oedd fy mrwydrau gyda seicosis a meddwl am hunanladdiad yn golygu fy mod yn gorfod mynd i’r ysbyty yn y pendraw. Y cam lleiaf, ond mwyaf, yr oeddwn wedi gwneud oedd mynd ati i ofyn am help, ac nid oeddwn wedi dechrau sylweddoli fod rhywbeth o’i le a bod angen triniaeth a chymorth arnaf tan i ofyn am gefnogaeth gan fy ngwraig a’n Meddyg Teulu.

“Un o’r pethau a wnaeth gwahaniaeth mawr oedd dod o hyd i grŵp cymorth i ofalwyr lleol a gynhaliwyd gan Rethink Mental Illness. Roedd nid yn unig wedi darparu cymorth pwysig i’m gwraig ond roeddwn hefyd wedi cwrdd ag eraill a oedd wedi derbyn diagnosis fel fi. Roedd hyn wedi cynnig sicrwydd i mi, sef sicrwydd nad oeddwn ar ben fy hun ac rwyf wir yn credu ei fod yn iawn i deimlo nad ydych yn iawn.”

Mae’r ymchwil hwn yn cyfoethogi’r ymchwil blaenorol a gynhaliwyd gan yr elusen a oedd yn golygu fod 79% o bobl sydd yn byw ag afiechyd meddwl yn teimlo fod y coronafeirws, a’r mesurau a ddefnyddiwyd er mwyn eu rheoli, wedi achosi dirywiad yn eu hiechyd meddwl.