CYFWELIAD: SOPHIE HOWE, COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, yn cynnig cyngor i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ar ddarparu llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol, ac mae’n asesu ac adrodd ynglŷn â sut y mae hyn oll yn ei gyflawni. Yma, mae’r Comisiynydd yn siarad gyda Matt Pearce am ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru – a’r angen i symud tuag at ataliaeth…

 

Beth yw’r prif ffyrdd yn eich barn chi o wella gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl i bobl fanc yng Nghymru yn y dyfodol?

Mae iechyd meddwl yn bryder cynyddol i genedlaethau’r dyfodol, ac wrth lunio’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, iechyd meddwl, a phryderon ynglŷn ag effaith afiechyd meddwl, oedd y mater a grybwyllwyd fwyaf.

Yn sydyn, mae’r heriau y mae pobl yn wynebu wedi dod yn fwy amlwg gyda phwysau Covid19 ac mae angen mynd i’r afael ar frys gyda pha mor gyffredin yw afiechyd meddwl. Bydd un ym mhob pedwar oedolyn yn profi problem iechyd meddwl bob blwyddyn. Mae ‘r ffaith fod problemau iechyd meddwl yn dod yn fwy ac yn fwy cyffredin yn gosod straen anghynaladwy ar y GIG ynghyd â gwasanaethau eraill yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Mae mynd i’r afael gydag iechyd meddwl yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ond mae angen cydlynu neu ystyried y ffactorau ehangach sydd yn dylanwadu ar iechyd er mwyn caniatáu i ni fabwysiadu dull ataliol fel rhan o’r system gyfan.

 

Rydych wedi sôn yn aml bwysigrwydd ataliaeth o fewn gofal iechyd. Sut y mae hyn yn medru gweithio o ran iechyd meddwl pobl ifanc? Er enghraifft, a fyddai angen i’r ‘llywodraeth gyfan’ wneud hyn? A beth fyddai’r manteision?

Mae yna dystiolaeth gref nad ydym yn buddsoddi yn y cydbwysedd gorau yn ein gwasanaethau sydd yn cadw pobl yn iach ac yn caniatáu iddynt fyw bywydau llawn. Mae cenedlaethau’r dyfodol yn wynebu problemau gwahanol i’r rhai a fodolai pan ddyluniwyd y GIG 70 mlynedd yn ôl, fel llygredd aer, tywydd eithafol, gordewdra cynyddol, datgysylltu o fyd natur, ymdeimlad o unigrwydd ac arwahanrwydd ac iechyd meddwl sydd yn dirywio. Nid oes modd trin y materion yma mewn sefydliad gofal iechyd neu glinigol, ac rydym wedi bod yn ffocysu’n rhy hir ar drin pobl pan eu bod yn sâl, yn hytrach na’u cadw’n iach.

Rwyf wedi cynnig newid i ataliaeth ynghyd â system iechyd da cenedlaethol a fyddai’n sicrhau bod gwasanaethau yn cefnogi pobl i ddeall yr ymddygiad a’r dewisiadau a fyddai’n elwa eu hiechyd yn y dyfodol, yn caniatáu pobl i fyw’r ansawdd uchaf o fywyd, gan leihau’r straen ar y GIG. Rwyf am weld y llywodraeth gyfan yn mabwysiadu hyn, sef cadw pob yn iach yn feddyliol, lle y mae yna gydnabyddiaeth o iechyd meddwl da a’i fod yn cael ei flaenoriaethu ym mywydau pob dydd pobl, fel ei fod yn rhan o’r ffordd yr ydym yn dylunio trafnidiaeth, tai a llefydd cyhoeddus.

Rhaid i ni ystyried ffyrdd amgen o gadw pobl yn iach a’r ffactorau sydd yn helpu sicrhau hyn fel cael mynediad at natur, ansawdd aer, tai, bwyd, y sgil-effeithiau negyddol ar iechyd meddwl sydd yn deillio o ddarpariaeth tai neu ddiffyg cyfleoedd cyflogaeth. Mae’n ffordd fwy rhagweithiol i aros yn iach ac atal problemau.

 

Mae cleifion a gofalwyr yn poeni na ddylid dargyfeirio cyllid ar gyfer iechyd meddwl i ffwrdd o’r sawl sydd â’r anghenion uchaf (e.e. tuag at gefnogi cyfrifoldebau’r gwasanaethau cyffredinol er mwyn amddiffyn lles eu cleientiaid). Beth yn eich barn chi yw’r blaenoriaethau o ran ariannu iechyd meddwl?

Iechyd Meddwl yw un o brif sylfeini cadw’n iach a chael cyfleodd. Mae caniatáu pobl i gael y safon uchaf o fywyd yn cynnwys eu cefnogi i fwynhau’r ansawdd uchaf posib o fywyd gan gynnwys eu cefnogi i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol. Un o elfennau ataliaeth yw’r cysyniad o ‘cyffredinoliaeth blaengar’, sydd yn golygu’r pendantrwydd i ddarparu cefnogaeth i bawb, yn rhoi llais i bawb a phopeth, ond yn cydnabod bod angen mwy o gefnogaeth ar y bobl hynny sydd â’r anghenion uchaf.

Rydym yn gwybod fod 50% o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaus yn profi symptomau cyn eu bod yn 14 mlwydd oed, ac felly, sut y mae cyrff cyhoeddus yn medru ymyrryd yn gynnar a pha newidiadau sydd angen eu gwneud i wasanaethau i blant a’r glasoed fel bod modd atal problemau pellach pan eu bod yn oedolion?

Rhaid deall yr arferion hynny sydd yn cefnogi iechyd meddwl da, a hynny o oedran cynnar. Rhaid i ni roi mwy o rôl i dechnoleg ddigidol ac ymyrryd mwy o ran gwasanaethau a chymunedau gan adnabod cyfleoedd i hyrwyddo lles meddyliol ac annog dull system gyfan ac arweinyddiaeth glir, a hynny ar frys.

 

Dysgwch mwy am waith y Comisiynydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol @ https://www.futuregenerations.wales/cy/

 

Matt Pearce, Hafal