Darparwyr gofal iechyd yn rhuthro i ddiogelu iechyd meddwl y gweithlu

Roedd tri ym mhob pum darparwr wedi gorfod gwario eu harian eu hunain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ariannu swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl fel rhan o fesurau ataliol a weithredwyd er mwyn diogelu eu staff, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan yr elusen anableddau dysgu, Hft, wedi canfod fod Covid-19 wedi effeithio ar y gweithlu gofal iechyd, gyda 62% o ddarparwyr yn nodi cynnydd mewn absenoldeb yn ymwneud ag iechyd meddwl ers dechrau’r pandemig. O’i gymharu gyda’r llynedd, mae hyn yn gynnydd o 10% ar gyfartaledd ar draws y sector, yn ystod cyfnod pan y mae staff gofal yn chwarae rôl hanfodol ar y rheng flaen yn cefnogi oedolion bregus.

Mae’r adroddiad, sydd yn ymdrin â’r flwyddyn flaenorol, yn amlygu’r cynnydd mewn ystod o gamau sydd wedi eu cymryd er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl mewn ymgais i ddiogelu’r gweithlu, er gwaethaf y ffaith fod mwy na 56% o ddarparwyr yn nodi bod llai o arian wrth gefn neu eu bod eisoes mewn dyled. Mae bron i’r holl ddarparwyr (96%) wedi sôn fod atgyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu, i fyny o 67%, tra bod 87% wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl. Mae’r nifer sydd yn darparu swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl mewnol hefyd wedi cynyddu o 38% i 62%.

Dyma bedwerydd adroddiad blynyddol yr Hft, Sector Pulse Check, a luniwyd gan y cwmni ymgynghorol annibynnol mewn economeg a busnes, Cebr, dyma’r cyntaf o’i fath sydd yn ffocysu ar ddarparwyr anableddau dysgu. Yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r arolwg o ddarparwyr gofal cymdeithasol, mae’n cynnig ciplun blynyddol o’r iechyd ariannol a’r heriau sydd yn wynebu’r sector gofal cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn dynodi barn darparwyr ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd dros y deuddeg mis diwethaf.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu bod darparwyr gofal cymdeithasol hefyd yn ymddangos eu bod yn cyrraedd argyfwng ac wedi eu gorfodi i gymryd camau er mwyn lleihau capasiti er mwyn mynd i’r afael gyda’r pwysau ariannol cynyddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Y prif bwysau ariannol yw cyflogau sy’n cynyddu (79%), yna diffyg incwm (63%). O ganlyniad, mae mwy na hanner (62%) wedi dweud eu bod wedi gorfod cau rhai rhannau o’r mudiad neu wedi gorfod ildio contractau ymylol, a hynny wedi cynyddu o 45% yn yr adroddiad blaenorol.

Mae tua thraean (29%) o ddarparwyr wedi gwneud diswyddiadau, sy’n gyson gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf, gydag un ym mhob deg yn dweud eu bod wedi gorfod cynnig gofal i lai o unigolion. Mae’r duedd hon yn debygol o barhau, gyda mwy na hanner (51%) yn dweud eu bod yn fwy tebygol o gau rhai rhannau o’u mudiad neu’n gorfod ildio contractau ymylol a 47% yn debygol o wneud diswyddiadau mewn ymateb i bwysau ariannol sydd wedi eu creu gan Covid-19.

Mae’r ymchwil wedi arwain at alwadau gan yr elusen i ffocysu ar y gweithlu sydd wedi ei anghofio yn ystod y pandemig, drwy gydnabod eu hymdrechion yn gyhoeddus a buddsoddi yn y sector. Mae gwahoddiad agored wedi ei ddanfon at yr holl ASau, yn cynnig y cyfle i ddysgu mwy am yr adroddiad a’r heriau sydd wedi eu hwynebu gan y sector mewn digwyddiad Seneddol rhithwir ar ddydd Mercher 10 Mawrth 2021.

Dywedodd Kirsty Matthews, Prif Weithredwr Hft:

“Mae ein hadroddiad Sector Pulse fod y sector gofal iechyd – mewn blwyddyn lle y mae wedi chwarae rôl hanfodol ar y rheng flaen – wedi gwneud llawer i gefnogi staff, sydd yn hanfodol er mwyn i ni fedru cefnogi’r oedolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Mae’n amser i ni ffocysu ar y gweithlu yma na sydd yn cael ei werthfawrogi a’n cydnabod eu hymdrechion yn gyhoeddus. Mae’n hanfodol fod y llywodraeth yn buddsoddi arian er mwyn sicrhau bod staff rheng flaen yn derbyn y gefnogaeth iechyd meddwl y maent yn haeddu, a’n bod yn ymatal rhag cynnig hyn ar draul y sector sydd o dan gymaint o bwysau.

“Tra bod y pandemig Covid-19 wedi golygu bod y sector wedi derbyn mwy o arian, nid yw’n ddigon. Mae’r sefyllfa ariannol fregus yn ganlyniad i flynyddoedd o bwysau ariannol, sydd wedi gorfodi darparwyr i gymryd camau dramatig er mwyn parhau’n gynaliadwy. Mae’n hanfodol fod y llywodraeth yn cynnig datrysiad ariannu hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn diogelu dyfodol y sector.”

Mae’r Hft nawr yn galw ar y llywodraeth i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y sector gofal cymdeithasol drwy gynnig arian brys i sefydlogi’r system gofal iechyd tra hefyd yn gweithio at ddatrysiad cyllido mwy cydradd a chynaliadwy yn yr hirdymor.

Er mwyn darllen yr adroddiad llawn, ewch i www.hft.org.uk/sectorpulsecheckreport