Miloedd o bobl ag anhwylder meddwl yn cael eu danfon i’r carchar pan eu bod angen triniaeth, yn ôl adroddiad

Mae miloedd o bobl ag anhwylder iechyd meddwl yn y carchar gan nad oedd yna opsiynau amgen diogel ar gael pan oedd y llys wedi rhoi dedfryd iddynt, a hynny yn ôl adroddiad newydd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

Gall fod hyd at 8,000 o garcharorion – tua 10% o’r boblogaeth bresennol sydd mewn carchardai yn Lloegr a Chymru –  wedi colli’r cyfle i dderbyn dedfryd gymunedol neu ddedfryd carchar wedi’i gohirio drwy Ofyniad Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTR) oherwydd nid yw gwasanaethau iechyd meddwl yn meddu ar yr adnoddau sydd eu hangen er mwyn eu darparu.

Efallai bod opsiynau amgen cymunedol nid yn unig yn well i droseddwyr ond i’r gymuned yn fwy eang, gan aflonyddu ar y cylch o afiechyd-troseddu.

Mae’r gost o ddanfon rhywun i garchar am flwyddyn yn £35,000, sydd yn golygu y byddai’r arbedion yn £56 miliwn o leiaf, ac mae’n debygol o fod dipyn yn uwch, gan ddibynnu ar y nifer o bobl sydd yn medru elwa o MHTR.

Er mwyn gwella’r nifer o achosion o Ofyniad Triniaeth Iechyd Meddwl, mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cyhoeddi canllaw er mwyn annog seiciatryddion, doed a ddelo’r hyn yw eu harbenigedd, i’w darparu.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd yn galw ar y Llywodraeth am  £12 miliwn o gyllid am wasanaethau iechyd meddwl  fel bod pawb sydd yn medru elwa o MHTR yn medru derbyn un, gan sicrhau nad ydynt yn cael eu hamddifadu yn sgil y diffyg argaeledd o fewn gwasanaethau iechyd meddwl i’w darparu.

Dywedodd yr Athro Taylor, prif awdur adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion:

“Mae gormod o bobl ag anhwylder meddwl sydd yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol yn cael eu methu gan y system sydd yn diystyru MHTR. Mae eu danfon i garchar am fân-droseddau yn medru bod yn beryglus i’r troseddwyr-cleifion ac yn niweidio’r gymuned ehangach hefyd. Mae cyfraddau ail-droseddu yn uchel pan fydd pobl yn cael eu carcharu am gyfnod byr gan nad yw eu problemau yn cael eu datrys, neu maent yn gwaethygu.

“Gallai miloedd o bobl elwa o ofal a thriniaeth yn y gymuned sydd yn strwythuredig, ffurfiol  ond nid yw’r adnoddau gan y gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn darparu’r gofynion iechyd meddwl ar y raddfa sydd angen.

“Gyda’r canllaw, mae seiciatryddion yn ymrwymo i weithio yn fwy ac yn fwy effeithiol gyda’r grŵp hwn o bobl ond rhaid i’r Llywodraeth i chwarae ei rhan a rhoi’r cyllid i wasanaethau iechyd meddwl sydd angen arnynt.”

Dylid defnyddio’r cyllid er mwyn apwyntio arweinwyr, seiciatryddion ymgynghorol ac arbenigwyr eraill ym mhob ymddiriedaeth iechyd meddwl mawr er mwyn darparu’r driniaeth o fewn y fframwaith hwn.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn amcangyfrif fod tua 1,600 o bobl ag anhwylder iechyd meddwl difrifol yn y carchar gyda dedfryd o flwyddyn neu lai ac yn gymwys i dderbyn MHTR a byddent wedi elwa’n fwy o MHTR; mae 6,400 pellach sydd â dedfryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd  o bosib yn cwrdd â’r meini prawf yma.

Dedfryd carchar llai yw’r hyn sydd yn cael ei ffafrio gan amlaf i ddedfryd yn y gymuned, ond mae dau draean o bobl sydd yn cael eu dedfrydu yn ail-droseddu o fewn blwyddyn, o’u cymharu gyda thraean o ddynion a  15% of o fenywod sydd yn derbyn MHTR.

Mae’r Llywodraeth wedi ariannu prosiect peilot llwyddiannus sydd yn sicrhau bod cynifer o bobl ag sydd yn bosib sydd ond angen gofal iechyd meddwl drwy Feddyg Teulu, yn cael mynediad at y gorchmynion yma. Mae gwasanaethau ysbyty, sydd eisoes o dan bwysau sylweddol, wedi methu derbyn hyd yma achosion mwy difrifol.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod ond 278 o’r 72,274 dedfryd sydd wedi ei hatal yn cynnwys MHTR, tra bod dim ond 391 o’r 130,761 gorchmynion cymunedol yn cynnwys hyn.

Mae Lloegr a Chymru yn meddu ar y gyfradd garcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop ac uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer holl wledydd Cyngor Ewrop.

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y boblogaeth sydd yn y carchar ar hyn o bryd yw 78,618, ac mae disgwyl i hyn gynyddu i 98,700 erbyn Medi 2026.

Mae Cadeirydd Adran Fforensig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Dr Josanne Holloway yn ymddangos yn y Senedd heddiw (8 Mehefin) gerbron ymchwiliad Pwyllgor Cyfiawnder ar ofal iechyd meddwl yn y carchar. Bydd  Dr Holloway yn trafod yr angen i ddargyfeirio mwy o bobl ag afiechyd meddwl o garchardai a rhoi cymorth iechyd meddwl gwell i bobl sydd yn y carchar.

Darllenwch y datganiad ar Ofyniadau Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTRs) – Datganiad Polisi Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar deilwra dedfrydu cymunedol i droseddwyr ag anhwylder meddwl.