Mae elusennau’r Wythnos Gofalwyr yn galw am gynllun brys dros 12 mis er mwyn targedu cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl, wrth i nifer barhau i gael trafferth yn delio gyda sgil-effaith barhaus ynghyd â’r gwaddol sydd wedi ei greu gan y pandemig, a’r straen o ofal cymdeithasol a’r argyfwng o ran costau byw.
Am y tro cyntaf erioed, mae’r effaith o ofalu ar eu hiechyd corfforol a meddyliol ar frig pryderon y gofalwyr, gyda phryderon am arian yn dilyn hyn.
Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2022 (6-12 Mehefin), yn datgelu bod 84% o’r cyhoedd yn credu fod Llywodraeth y DU angen darparu cymorth i ofalwyr di-dâl gan gynnwys mwy o gymorth ariannol a buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal a chymorth fel bod gofalwyr di-dâl yn medru cael seibiant. Dim ond 3% a oedd yn anghytuno.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos fod y nifer o ofalwyr di-dâl yn parhau’n uwch na chyn y pandemig gydag un ym mhob pump o oedolion y DU (tua 10.58 miliwn o bobl) nawr yn cefnogi perthynas, ffrind agos neu gymydog yn sgil salwch cronig, gan gynnwys afiechyd meddwl, dementia, anabledd, neu fynd yn hŷn.
Mae dwyster y gofal sydd yn cael ei ddarparu wedi tyfu ers dechrau’r pandemig gyda sawl ffactor o bosib yn cael effaith. Mae nifer o wasanaethau wedi eu cwtogi neu ddod i ben, mae pobl fregus yn parhau i ynysu, pwysau ar ofal cynradd a’r prinder sylweddol mewn ofal cymdeithasol. Mae’r nifer o bobl sydd yn darparu mwy na 50 o oriau o ofal wedi cynyddu 30%.
Ar yr un pryd, mae gofalwyr sydd ag incwm isel yn fwy tebygol o ddarparu cyfnodau sylweddol o ofal (h.y. mwy nag 20 awr yr wythnos). Mae darparu mwy o ofal yn lleihau’r cyfle iddynt ymdopi gyda phethau’n ariannol gan fod gofalwyr yn llai tebygol o fedru ymdopi gyda gwaith a gofal.
Mae’r saith elusen sydd yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2022; Carers UK, Age UK, Carers Trust, MND Association, Rethink Mental Illness, Oxfam GB a’r Lewy Body Society oll yn galw am gynllun cymorth a seibiant sydd wedi ei ymrwymo at anghenion gofalwyr: buddsoddiad penodol ar gyfer eu cymorth iechyd meddwl, sicrhau bod seibiannau yn flaenoriaeth, help gyda chostau bwyd ac ynni a chyn y gaeaf, bydd angen blaenoriaethu y rhaglen frechu.
Wrth wneud sylw ar ran yr elusennau Wythnos Gofalwyr 2022, dywedodd Helen Walker, Prif Weithredwr Gofalwyr y DU: “Yn glir, tra bod y gymdeithas wedi agor lan i nifer o bobl, mae’n ddarlun gwahanol iawn i nifer sylweddol o ofalwyr.
“Mae cynifer wedi aberthu eu hiechyd corfforol a meddyliol yn gofalu am eu hanwyliaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac fel y dengys yr adroddiad hwn, mae’n hanfodol fod gofalwyr yn derbyn y cymorth sydd angen arnynt er mwyn aros yn iach fel eu bod yn medru parhau i ofalu am eu hanwyliaid, a bod gofalwyr sydd yn gweithio yn parhau i aros yn eu swyddi fel bod yr holl ofalwyr yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.”
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.