Cyfrinachedd

Fe all gyfrinachedd fod yn fater cymhleth ym maes gwasanaethau iechyd meddwl, oherwydd mae’n rhaid i staff proffesiynol ystyried hawl y person i ddiogelu ei wybodaeth bersonol, pryderon teulu a ffrindiau agos a’u hawl i wybod beth sy’n digwydd i’r person maent yn gofalu amdano a, mewn rhai achosion, materion mwy eang o ddiogelwch y cyhoedd.

O dan gyfraith gwlad, ni ellir ddatgelu gwybodaeth bersonol heb gael caniatâd y person dan sylw. Os nad yw’r person yn medru cydsynio, gall ei feddyg neu aelod staff proffesiynol iechyd meddwl arall sy’n ei drin ddatgelu gwybodaeth os cred fod hynny er lles yr unigolyn.

Mae’n bosib y bydd rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol ystyried torri amodau cyfrinachedd o dan rai amgylchiadau megis, er enghraifft, pe bai peidio â datgelu ‘er lles y cyhoedd’ yn arwain at ddigwyddiad treisgar.

Mae cyrff proffesiynol megis Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer eu haelodau ar fater cyfrinachedd.

Nid oes yna adran benodol sy’n delio â chyfrinached yn y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac nid yw cyfrinachedd yn ‘egwyddor arweiniol’ yng Nghôd Ymarfer Cymru y Dyeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod rhaid i staff proffesiynol ystyried ffactorau gwahanol mewn sefyllfaoedd gwahanol. Fodd bynnag, mae yna nifer o gyfeiriadau pwysig i gyfrinachedd yn y Côd ac rydym yn crynhoi rhai ohonynt isod (mae’r ffigyrau mewn cromfachau yn cyfeirio i’r paragraff penodol yn y Côd).

·         Rhaid i staff Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (PIMC) datgelu eu hun i ‘deulu, ffrindiau neu gofalwyr y claf sy’n bresennol’ a’r claf ei hun (2.33), ond ‘fel arfer dylai’r claf gael cyfle i siarad â’r PIMC ar ei ben ei hun’ (2.37). Mewn rhai sefyllfaoedd, e.e. yn berthnasol i Adran 3, mae gan PIMC ddyletweydd statudol i roi gwybod i’r Perthynas Agosaf os gaiff y claf ei gadw’n orfodol (2.43). Fodd bynnag, rhaid i’r PIMC hefyd ystyried os byddai gwneud hwn yn camu ar ‘hawl y claf i barch am ei breifatrwydd’ (2.44).

·         Yn gyffelyb, rhaid i Reolwyr Ysbyty roi gwybodaeth bwysig i’r Perthynas Agosaf os mae claf yn gael ei gadw’n orfodol (22.39 i 22.42). Fodd bynnag ar yr un pryd mae gan claf yr hawl i ofyn bod y gwybodaeth hon diim yn cael ei datgelu i’w Berthynas Agosaf o dan Adran 132 o’r Ddeddf (22.41).

·         Mae Penodau 22 a 23 o’r Côd yn rhoi pwyslais ar bwysicrwydd o ymrwymo’r Perthynas Agosaf a Gofalwyr. Fodd bynnag, mae cyfeiriadau eraill yn y Côd yn ei wneud yn glir bod yr ymrwymiad hwn yn ‘dibynnu ar hawl y person i gyfrinachedd’ (e.e. 2.63 a 2.67). Yn gyffelyb, fe fydd gwybodaeth yn bendant o gael ei lledaenu rhwng asiantaethau gofal a chymorth sy yn y broses cynllunio gofal, ond dylai hwn fod ar sail ‘angen gwybod’ yn unig a dylai’r claf gael ei gynnwys ar bob adeg.

·         Mewn achosion ble mae’r claf yn derbyn cymorth oddi wrth Eiriolydd Annibynnol Iechyd Meddwl (EAIM), dylai staff proffesiynol roi i gyd o’r wybodaeth berthnasol i’r EAIM. Wedyn, rhaid i’r EAIM ddilyn ‘bolisi cyfrinachedd cymeradwy’ (25.21)

Mae’r cyfeiriadau hyn yn dangos sut gymaint o gydbwyso sy raid i staff proffesiynol wneud. Ar un llaw fe ddylent cynnwys teulu agos a gofalwyr mewn penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth a gofal rhywun ble bynnag mae’n bosib ac, yn bwysig, ddylen nhw ddim defnyddio ‘cyfrinachedd cleifion’ fel esgus i beidio eu cynnwys.

Ond, ar y llaw arall, ble mae person yn bendant nad yw yn eisiau cynnwys ei deulu neu gofalwr neu i roi gwybodaeth iddynt, dylai ei hawl i gyfrinachedd gael ei barchu, oni bod yna reswm hollbwysig i wrth-wneud hwn.

GWYBODAETH BELLACH

Mae pob un o brif ddogfennau ynglŷn â’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan gynnwys dudalennau gwybodaeth, i’w cael ar wefan Iechyd yng Nghymru .