Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i rym yn Ebrill 2016. Mae’n sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trawsnewid y modd y mae anghenion pobl am ofal a chymorth ac anghenion gofalwyr am ofal a chymorth yn mynd i gael eu diwallu gan wneud gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy. Mae’r Ddeddf yn gosod nifer o ddyletswyddau ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Gweinidogion Cymru fel bod:

  • Mae pobl yn cael mwy o reolaeth dros y cymorth y maent yn derbyn ac yn gwneud penderfyniadau am eu gofal a’u cymorth fel partner cydradd.
  • Mae pobl yn derbyn asesiad o’u hanghenion gofal a chymorth sydd yn edrych ar gapasiti, adnoddau a’r canlyniadau y mae pobl am gyflawni, ac i ganfod sut i fynd ati i’w cefnogi er mwyn cyflawni hyn
  • Mae gofalwyr yn meddu ar hawl cydradd i dderbyn asesiad, a hynny fel yr unigolyn y maent yn gofalu amdano
  • Mae mynediad hawdd at wybodaeth a chyngor ar gael i bawb
  • Mae’r pwerau i ddiogelu pobl yn gryfach
  • Arfer dull ataliol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth
  • Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dod at ei gilydd mewn partneriaethau statudol er mwyn gyrru integreiddio, arloesed a newid gwasanaeth

Mae’r Ddeddf yn anelu i hyrwyddo cydraddoldeb, gwella ansawdd gwasanaethau a mynediad at ddarpariaeth y wybodaeth y mae pobl yn derbyn. Mae hefyd yn ceisio annog ffocws o’r newydd ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Egwyddorion y ddeddf newydd

Mae egwyddorion sylfaenol y Ddeddf fel a ganlyn:

Llais a rheolaeth – gosod yr unigolyn a’u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais iddynt a rheolaeth dros gyflawni eu canlyniadau a sicrhau eu lles

Ataliaeth ac ymyrraeth gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned er mwyn osgoi’r angen am ofal critigol

Lles – cefnogi pobl i ofalu am eu lles a mesur llwyddiant y gofal a’r cymorth

Cyd-gynhyrchu – annog unigolion i chwarae mwy o ran yn y broses o ddylunio a darparu gwasanaethau

Asesu a Chynllunio Gofal

Dylid cynnal asesiadau yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion unigolion ac mae’r broses newydd yn anelu i fod yn syml ac osgoi unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen. Dylai’r asesiad ffocysu ar yr hyn sydd yn bwysig i’r person a sut y gallant ddefnyddio rhinweddau ac adnoddau er mwyn helpu i wneud y pethau hynny.

Dylai’r asesiad fod yn seiliedig ar yr egwyddor o gyd-gynhyrchu gan sicrhau ei fod yn cynnwys perthynas lle y mae ymarferwyr ac unigolion yn rhannu’r pŵer i gynllunio a darparu cymorth gyda’i gilydd a chydnabod fod yr holl bartneriaid yn gwneud cyfraniad hanfodol er mwyn helpu i gyflawni canlyniadau personol.

Mae asesiad yn medru dod i’r casgliad fod anghenion brys wedi eu diwallu ond mae angen asesiad mwy cynhwysfawr ac mae modd i ymarferydd unigol i wneud hyn gyda gwybodaeth bellach gan ffynonellau eraill. Fodd bynnag, ni ddylai’r angen am asesiad mwy arbenigol atal neu osgoi unrhyw wasanaethau priodol yn cael eu darparu.

Mae awdurdod lleol yn medru cyfuno asesiad anghenion gydag asesiad o anghenion ei g/ofalwr os yw’n credu bod hyn fuddiol i wneud hyn. Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol ond yn medru gwneud hyn os yw’r bobl hynny yn rhoi eu caniatâd.

Trosolwg o’r Ddeddf

Mae yna 11 rhan i’r Ddeddf:

Rhan 1: Cyflwyniad
Rhan 2: Swyddogaethau Cyffredinol
Rhan 3: Asesu Anghenion yr Unigolyn
Rhan 4: Diwallu Anghenion
Rhan 5: Asesiad Taliadau a Chyllidol
Rhan 6: Plant Sy’n Derbyn Gofal a Phlant Sy’n Cael Eu Lletya
Rhan 7: Diogelu
Rhan 8: Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhan 9: Cydweithredu a Phartneriaeth
Rhan 10: Cwynion, Cynrychioliadau a Gwasanaethau Eiriolaeth
Rhan 11: Amrywiol a Chyffredinol

Mae gwybodaeth fwy manwl am ddarpariaethau’r Ddeddf newydd, gan gynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf, y naw Cod Ymarfer unigol a chyngor a chanllaw cefnogol, i’w canfod yn hwn dysgu Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk/the-act