Derbyn Cleifion i’r Ysbyty a’u Rhyddhau

Meddygon Teulu neu Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) sy’n trin mwyafrif helaeth o bobl sy’n cael triniaeth feddygol am salwch meddwl yn y gymuned. Ar y cyfan caiff unigolion eu derbyn i’r ysbyty dim ond os ydynt yn arbennig o sâl neu mewn argyfwng.

Cyfeirir cleifion gan y Meddyg Teulu neu’r CMHT neu ar ôl asesiad ar gyfer derbyn claf mewn argyfwng.

Gellir derbyn claf i ysbyty trwy drefniant:-

Anffurfiol – mae’r unigolyn wedi cytuno i gael ei dderbyn i’r ysbyty ac mae’n glaf gwirfoddol, sy’n golygu y gall adael yr ysbyty neu ryddhau ei hun heb orfod cael cytundeb staff yr ysbyty (ar yr amod nad oes gorchymyn wedi’i wneud ar ei gyfer tra bydd yn yr ysbyty).

Ffurfiol – Mae’r unigolyn yn destun gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, sy’n ei orfodi i fynd i’r ysbyty ac i aros yno (hyd yn oed os nad yw eisiau gwneud) am gyfnodau penodol o amser i gael ei hasesu neu ei drin. I gael rhagor o wybodaeth trowch at y dudalen ar y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Ar y Ward Mae gan rai ysbytai wardiau i un rhyw; mewn eraill nid oes wardiau ar wahân ar gyfer dynion a menywod, er y bydd y cyfleusterau cysgu, tai bach ac ymolchi bob amser ar wahân ar gyfer dynion a menywod. Gall claf gwirfoddol holi am y pethau hyn ymlaen llaw; os yw’r claf yn cael ei dderbyn mewn argyfwng gall hynny fod yn anoddach.

Gall cyrraedd y ward fod yn brofiad anodd ac aneglur iawn. Bydd staff y ward yn deall hyn ac fe wnânt eu gorau i helpu’r person i ymgartrefu, er enghraifft, trwy fynd ag ef o gwmpas y ward. Mae staff nyrsio a staff meddygol yn gwisgo dillad bob dydd a gellir eu hadnabod trwy eu bathodyn enw.

Yn fuan ar ôl cael ei dderbyn, bydd y person yn cael ei holi gan aelod o’r staff nyrsio a chan feddyg y ward; gofynnir i’r person am ei gefndir ac am hanes llawn ei broblemau presennol; gofynnir am yr wybodaeth hon i wneud yn siwr fod y cymorth a’r gynhaliaeth a gynigir yn yr ysbyty yn addas. Bydd y staff hefyd yn gofyn i’r person a yw wedi dod ag unrhyw feddyginiaeth gydag ef/hi.

Caiff gweithiwr allweddol (a elwir weithiau’n nyrs sylfaenol neu nyrs a enwir) ei chyflwyno i bob claf newydd ymhen ychydig ddyddiau ar ôl ei dderbyn i’r ysbyty. Mae rôl y gweithiwr allweddol yn cynnwys pethau fel cydlynu’r gofal nyrsio a darparu gwybodaeth berthnasol, er enghraifft fel hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Gweithgarwch dyddiol
Bydd y gweithgarwch dyddiol ar y ward yn dibynnu ar y math o ward a beth yw anghenion y cleifion unigol ar y ward.

Meddyginiaeth – weithiau caiff ei roi ar adegau penodol, fel arfer adeg prydau bwyd a chyn mynd i gysgu.

Prydau bwyd – mae’n bosib y bydd dewis o brif brydau, a darperir ar gyfer deietau arbennig.

Diodydd – Fel arfer mae cegin ar bob ward lle gellir gwneud diodydd neu dost rhwng prydau.

Ymweld – Ar y rhan fwyaf o’r wardiau mae’r trefniadau ymweld yn weddol hyblyg, ac ar rai wardiau gellir ymweld ar unrhyw adeg. Mae’n bosib y bydd y trefniadau ymweld ar gyfer rhai cleifion yn cael eu cyfyngu os yw’r tîm trin yn teimlo y byddai’n eu helpu i wella’n gyflymach.

Rownd y Ward – Cynhelir rownd y ward tuag unwaith yr wythnos, a dyma pryd y bydd pawb sydd ynghlwm wrth driniaeth y claf (yn ogystal â’r claf ei hun) yn cyfarfod i drafod y cynllun trin. Yn anffurfiol mae’n bosib y caiff gofalwyr hefyd wahoddiad i fod yn bresennol.

Ysmygu – Mae ysmygu’n cael ei ganiatáu mewn mannau penodedig yn unig ar bob ward.

Cynllunio Gofal a Thriniaeth – Mae’r canllawiadau diweddaraf ar gyfer staff broffesiynol yn gweithio gyda phobl sy wedi cael eu casw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn dweud: yn ystod arhosiad rhywun yn yr ysbyty dylent sicrhau bod ystod llawn anghenion y person yn cael eu asesu, a bod cynllun aml-ddisgyblaeth yn cael ei greu er mwyn cyflawni’r anghenion i gyd. Dylai’r cynllun cael ei greu can y person a’i ofalwyr, ac fe ddylai fod yn glir pa berson broffeiynol sy’n cyd-drefnu weithrediad y cynllun. Ar hyn o bryd mae’r canllawiadau hyn yn grym ar gyfer pobl sy’n cael eu cadw ar ward o dan Adran yn unig, ond mae ymarfer da yn awgrymu ei bod yn addas i bob claf.

Mae Côd Ymarfer Cymraeg y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynnwys gwybodaeth sylweddol ynglŷn â nifer fawr o’r drefniadau ward yma.

DERBYN I’R YSBYTY O DAN Y DDEDDF IECHYD MEDDWL

Mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl (yn gyfreithiol y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel y diwygiwyd gan y Ddeddf Iechyd Meddwl 2007) yn gosod allan y sefyllfeydd ble all berson gael ei dderbyn i’r ysbyty yn orfodol, ac hefyd ble all berson dderbyn triniaeth gorfodol yn y cartref. Dyma rhai o’r adrannau a gaiff eu defnyddio’n fwyaf aml:-

Mae Adran 2 yn caniatau derbyn person i’r ysbyty ar gyfer asesiad ac hefyd mae’r Ddeddf yn nodi’n glir iawn y gellir rhoi triniaeth iddo, gyda’i gydsyniad, o dan yr Adran hon.

Gellir gwneud cais i dderbyn person ar gyfer asesiad gan berthynas agosaf y person neu gan Weithiwr Cymdeithasol Cymeradwy gyda chefnogaeth dau feddyg (mae’n rhaid i un ohonynt fod wedi ei gymeradwyo o dan y Ddeddf, dylai un ohonynt fod yn adnabod y person). Fe all gais cael ei wneud hefyd gan Berthynas Agosaf y person. Rhaid i’r sawl sy’n gwneud y cais am asesiad fod wedi gweld y person yn ystod y pythefnos diwethaf, rhaid i’r meddygon fod wedi gweld yr unigolyn o fewn wythnos i’w gilydd.

Mae’n rhaid i’r meddygon gadarnhau:

  • Fod y person yn dioddef anhwylder meddyliol o natur neu i raddau sy’n cyfiawnhau ei dderbyn i’r ysbyty i gael ei asesu, ac yna i gael triniaeth feddygol; a
  • Dylai’r person cael ei gadw er lles ei iechyd a’i ddiogelwch ei hun neu gyda’r bwriad o ddiogelu pobl eraill 

Gellir cadw pobl o dan yr Adran hon am hyd at 28 diwrnod, ac ni ellir ymestyn y cyfnod.

Mae Adran 3 Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatáu derbyn person i’r ysbyty ar gyfer cael triniaeth.

Gellir gwneud y cais o dan yr un amodau ag ar gyfer Adran 2, a’r meddygon yn cadarnhau:-

  • Ei fod yn dioddef o salwch meddwl o natur neu raddau sy’n ei gwneud yn briodol cael triniaeth feddygol mewn ysbyty; ac 
  • Ei fod yn hanfodol er lles iechyd a diogelwch y person neu ar gyfer diogelwch pobl eraill eu bod yn derbyn triniaeth ac ni ellir ddarparu’r triniaeth oni bod y person yn cael ei gadw, ac
  • Bod triniaeth meddygol addas ar gael i’r person. 

Cedwir pobl o dan Adran 3 Deddf Iechyd Meddwl 1983 am chwe mis yn y lle cyntaf, cyfnod y gellir ei adnewyddu am chwe mis arall ac yna am gyfnodau o flwyddyn ar y tro.

Mae Adrannau 4 a 5 Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatáu cadw pobl mewn ysbyty o dan amgylchiadau argyfwng.

Dylai Adran 4 gael ei ddefnyddio ble mae angen i berson gael ei dderbyn fel ‘angenrheidrwydd brys’. Gwneir cais o dan Adran 4 ei wneud gan Gweithiwr Iechyd Meddwl Cymeradwy neu’r Perthynas Agosaf, a chefnogir gan un feddyg, fel arfer Meddyg Teulu y person.

Mae’n rhaid i’r person sy’n gwneud y cais a’r meddyg fod wedi gweld y person yn ystod y 24 awr blaenorol, ond gellir llofnodi’r cais argyfwng cyn neu ar ôl yr argymhelliad meddygol. Rhaid derbyn person i ysbyty cyn pen 24 awr ar ôl llofnodi’r naill ffurflen neu’r llall.

Mae cyfnod cadw o dan Adran 4 yn parhau am 72 awr ac ni ellir ei ymestyn. Gellir troi cadw o dan Adran 4 yn gadw o dan Adran 2 neu Adran 3 trwy gael ail farn feddygol yn ystod y cyfnod o 72 awr.

Mae Adran 5 y Ddeddf yn ymwneud â chadw person sydd eisoes yn yr ysbyty. Pwrpas yr adran hon yw caniatáu i berson sydd eisoes yn yr ysbyty gael ei gadw yn yr ysbyty mewn sefyllfa argyfwng er mwyn rhoi mwy o amser i wneud cais Adran 2 neu 3. Gellir gwneud cais am gadw o dan Adran 5 gan feddyg yr unigolyn yn yr ysbyty neu gan rai raddau o nyrsus.

Bydd y cadw’n parhau am 72 awr pan wneir hynny gan feddyg ac am 6 awr neu nes bydd meddyg yn cyrraedd os gwneir hynny gan nyrs. Os yw meddyg yn cyrraedd ac yn penderfynu gwneud gorchymyn adran 5, mae 6 awr y nyrs yn cael eu cynnwys yn y 72 awr.

HAWLIAU APELIO O DAN DRIBIWNLYS ADOLYGU IECHYD MEDDWL

Mae gan bobl sy’n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Medwl hawliau i apelio yn erbyn eu cadw i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl (MHRT).

Mae gan gleifion Adran 2 hawl i apelio yn ystod y 14 diwrnod cyntaf o’u cadw

Mae gan gleifion Adran 3 hawl i apelio unwaith yn ystod y 6 mis cyntaf o’u cadw, unwaith yn ystod yr ail 6 mis o gadw, ac yna’n flynyddol ar ôl hynny. Os nad yw claf yn dechrau apêl ei hun, mae Rheolwyr yr Ysbyty yn cyfeirio’i achos i MHRT yn awtomatig yn ystod y 6 mis cyntaf, ac yna bob 3 mlynedd ar ôl hynny.

RHYDDHAU O’R YSBYTY O DAN Y DDEDDF IECHYD MEDDWL

Dylai cynllunio ar gyfer rhyddhad rhywun ddechrau cyn gynted ag sy’n bosib ar ar ôl i’r person cael ei dderbyn. Fel ran o gynllun rhyddhai gofalu, dylai cefnogaeth parhaol cael ei ddarparu ble sy angen gan ystod o bobl broffesiynol iechyd meddwl yn y gymuned, a gall gynnwys cymorth oddi wrth asiantaethau statudol a gwirfoddol. Gall y tîm hwn gynnwys, yn ychwanegol i Feddyg Teulu y person, Nyrsus Seiciatrig Cymunedol (CPNau), Gweithwyr Cymdeithasol, Seicolegwyr, Therapyddion Galwedigaethol (OTau) a gweithwyr cymorth.

Gall y tîm hwn ddarparu ystod o wasanaethau sy’n cwmpasu monitro a rhoi meddyginiaeth; darparu ‘therapïau llafar” a chynnig cefnogaeth hirdymor. Y drefn arferol yw fod apwyntiad dilynol yn cael ei drefnu wedi i’r claf gael ei ryddhau.

Adrannau 2 a 3
Gellir rhyddhau person o’i gadw o dan Adran 2 trwy gael awdurdod oddi wrth:

  • Y Clinigwr Gyfrifol (RC)
  • Rheolwyr yr Ysbyty
  • Y perthynas agosaf, sy’n gorfod rhoi 72 awr o rybudd o’i fwriad i ryddhau’r claf. Felly gall yr RC ystyried y bwriad ac atal y rhyddhad trwy gyflwyno adroddiad i Reolwyr yr Ysbyty.
  • Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl.

Adrannau 4 a 5

Dim ond y Clinigwr Gyfrifol (RC) sy medru ryddhau o dan Adran 4.

ÔL-OFAL O DAN Y DDEDDF IECHYD MEDDWL

Mae hawl gan bobl sy wedi eu cadw yn yr ysbyty ar gyfer driniaeth (fel arfer o dan Adran 3 ac hefyd o dan Adran 37) gael ‘ôl-ofal statudol’ o dan Adran 117. Dylai cynllunio ar gyfer ôl-ofal rhywun ddechrau cyn gynted ar ol eu derbyn i’r ysbyty ag sy’n bosib ac, yn ymarferol, fel arfer fe fydd hyn yn barhad o gynllunio gofal ar gyfer y person o dan yr Agwedd Rhaglen Gofal (CPA).
Mae RC rhywun yn gyfrifol am sicrhau bod eu anghenion i gyd yn cael ei nodi ac asesu, a bod Cynllun Gofal yn cael ei greu a gweithredu ar ryddhad, er mwyn cyflawni eu anghenion. Dylai hyn gael ei wneud gyda pherthnasau pwysig a / neu gofalwyr y person, gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd a gyda gwasanaethau cymdeithasol. Dylai ddarparwyr o’r sector gwirfoddol gael eu cynnwys ble mae’n addas. Fe fydd cyd-drefnwr gofal yn cael ei apwyntio er mwyn cynnal cyswllt cyson gyda’r person ac i sicrhau bod y Cynllun Gofal yn cael ei adolygu.

TRINIAETH YN Y CARTREF O DAN Y DDEDDF IECHYD MEDDWL

Gall bobl gael eu gorfodi i dderbyn triniaeth pan ddychwelwn nhw adref drwy arlwy yn y Ddeddf Iechyd Meddwl y gelwir yn Driniaeth Cymunedol Goruwchwyliedig (SCT), os ydynt:-

• Wedi cael eu cadw yn yr ysbyty ar gyfer triniaeth, fel arfer o dan Adran 3,
• Yn dal i angen triniaeth ond nid oes angen bellach iddynt fod yn yr ysbyty, a
• Yn debygol o beidio cydymffurfio gyda’u triniaeth.

Ble mae person yn cael SCT, fe rhoddir iddynt Orchymyn Triniaeth Cymunedol (OCT), sy’n gosod allan yr amodau ar gyfer eu triniaeth parhaus.

GWYBODAETH BELLACH

Mae pob un o brif ddogfennau ynglŷn â’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan gynnwys dudalennau gwybodaeth, i’w cael ar wefan Iechyd yng Nghymru .