Ers 6ed Ebrill 2016, cyfunwyd hawliau cyfreithiol gofalwyr di-dâl a’u hymestyn drwy gyflwyno darn o ddeddfwriaeth newydd sydd yn berthnasol i ofalwyr yng Nghymru;
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae’r ddeddf hon yn disodli’r holl ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol a oedd yn cynnwys hawliau gofalwyr yng Nghymru. Dyma’r tro cyntaf y mae Cymru wedi cael deddfwriaeth gofal cymdeithasol sydd ar wahân yn llwyr i’r hyn sydd yng ngweddill y DU.
Sut y mae’r Ddeddf yn diffinio gofalwr?
Roedd deddfwriaeth flaenorol yn disgrifio gofalwr fel rhywun sydd yn darparu “swm sylweddol o ofal yn rheolaidd”, ac roedd hyn yn cael ei ddiffinio fel isafswm o 35 awr yr wythnos.
O dan y Ddeddf newydd, mae gofalwr yn cael ei ddiffinio fel; ‘person sydd yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl.’ Nid oes rhaid i ofalwyr i brofi eu bod yn darparu neu’n bwriadu darparu symiau sylweddol o ofal yn rheolaidd.
Mae’r Ddeddf yn pwysleisio gwneud darpariaeth i wella lles gofalwyr sydd angen cefnogaeth ac yn diffinio ‘lles’ fel y categorïau canlynol:-
- Lles corfforol ac iechyd meddwl ac emosiynol
- Yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- Addysg, hyfforddiant a hamdden
- Perthnasau domestig, teuluol a phersonol
- Gwneud cyfraniad i gymdeithas
- Diogelu hawliau
- Lles economaidd a chymdeithasol
- Addasrwydd llety
- Rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd
- Yn cymryd rhan mewn gwaith
Asesiadau Gofalwyr
Mae darpariaeth ar gyfer asesiadau gofalwyr yn cyfuno’r tair Deddf Gofalwyr blaenorol. Os ymddengys i awdurdod lleol fod gofalwyr angen cymorth, mae yna ddyletswydd arnynt i gynnal asesiad. Nid oes ots beth yw’r cymorth sydd yn cael ei roi neu’r adnoddau ariannol sydd gan y gofalwr neu’r unigolyn sydd yn cael ei ofalu. Rhaid i awdurdodau lleol:-
- Cynnig asesiad pan ymddengys i’r awdurdod lleol fod y gofalwr yn meddu ar anghenion cymorth
- Asesu a yw’r gofalwr yn meddu ar anghenion ar gyfer cymorth (neu’n debygol o feddu ar y fath anghenion yn y dyfodol), ac os felly, beth fydd yr anghenion hynny
- Mae’r angen am ofal ‘cyson a sylweddol’ wedi ei ddileu, yn union fel yr angen i’r gofalwr i ‘wneud cais’ am asesiad. Rhaid i asesiadau gynnwys:-
- A yw’r gofalwr yn medru/fodlon parhau i ofalu
- Y canlyniadau y mae’r gofalwr am sicrhau o ran bywyd o ddydd i ddydd,
- P’un ai yw’r gofalwr yn gweithio a/neu’n dymuno cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden
- Mae yna ddyletswydd ar Awdurdoda Lleol i ddiwallu’r anghenion sydd wedi eu nod drwy gyfrwng asesiad (pan fydd gofalwr yn cael ei ystyried yn gymwys).
- Rhaid i’r asesiad fod yn gymesur â’r anghenion a’r amgylchiadau, ond fel isafswm, rhaid cofnodi’r data craidd ac ystyried y pum elfen er mwyn cadarnhau a ydynt yn gymwys. Mae ond angen gwybodaeth lawn pan fydd anghenion y gofalwr yn cael eu hystyried yn rhai cymwys, ac mae hyn yn arwain at gynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth ar gyfer y gofalwr.
Mae canllaw ar gyfer sicrhau asesiadau gofalwyr yng Nghymru ar gael yma: http://www.carersuk.org/wales/help-and-advice/factsheets-carers-wales/getting-an-assessment-in-wales
Meini prawf cymhwyster
Mae’r Ddeddf yn manylu’r meini prawf o ran cymhwyster er mwyn helpu cadarnhau pwy sydd yn gyfrifol am gynnig cymorth ac ar ba pwynt y mae’r awdurdod lleol yn meddu ar ddyletswydd gyfreithiol er mwyn darparu/trefnu cymorth/darpariaeth gofal.
Y ddyletswydd i ddarparu gofal a chymorth i unigolion mewn angen
Pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu fod y gofalwr yn cwrdd â’r meini prawf o ran cymhwyster, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i:-
- Cadarnhau beth y mae modd ei wneud er mwyn diwallu anghenion y gofalwr
- Penderfynu a fydd yn codi tâl a beth fydd y gost ar gyfer darparu’r cymorth.
Rhaid i’r awdurdod lleol i ystyried hefyd a fydd y gofalwr yn elwa o wasanaethau neu wybodaeth, cyngor a chymorth ataliol neu wasanaethau eraill sydd o bosib ar gael yn y gymuned leol.
Darllenwch mwy am gyfrifoldebau’r Awdurdod Lleol
Mae’r fersiwn hawdd ei darllen ar gael yma; http://gov.wales/docs/dhss/publications/141117acteasyen.pdf
Mae’r Ddeddf lawn ar gael yma; http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/pdfs/anaw_20140004_en.pdf
Mae gwybodaeth ar gyfer staff y Trydydd Sector a gwasanaethau cymdeithasol – sydd yn ymwneud yn benodol â gofalwyr iechyd meddwl – ar gael o;
http://www.ccwales.org.uk/learning-resources-1/the-act/carers-and-mental-health/