Mesur Iechyd Meddwl

CANLLAW AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETH IECHYD MEDDWL A’U TEULUOEDD

Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn gyfraith newydd sydd wedi ei chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac o’r herwydd, mae’n meddu ar yr un statws cyfreithiol yng Nghymru â Deddfau Iechyd Meddwl eraill. Fodd bynnag, tra bod Deddfau Iechyd Meddwl 1983 a 2007 yn ymwneud yn bennaf â phwerau gorfodol, a derbyn neu ryddhau cleifion o’r ysbyty, mae Mesur 2010 yn ymwneud â’r gefnogaeth y dylai fod ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru – pa le bynnag y maent yn byw.

Daeth y Mesur yn gyfraith yn Rhagfyr 2010 ond roedd angen paratoadau sylweddol cyn bod modd ei weithredu. Felly, daeth y prif ddarpariaethau i rym yn unig rhwng Ebrill a Hydref 2012 a bydd cryn amser eto cyn y bydd effaith y Mesur i’w deimlo’n llawn. Mae’n bwysig fodd bynnag fod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a’u teuluoedd yn deall prif bwyntiau’r Mesur ac yn gwybod am y cymorth y mae hawl gyfreithiol ganddynt i’w dderbyn.

Bwriad y Mesur yw sicrhau bod y gwasanaethau iechyd meddwl hynny – sydd yn cael eu darparu – yn canolbwyntio’n briodol ar anghenion unigol pobl. Mae’n meddu ar bedair prif Ran (mae Rhannau 5 a 6 yn bennaf am faterion gweinyddol) ac mae pob un yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i wella’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu. Mae’r pedair Rhan fel a ganlyn.

  • Rhan 1 sydd yn ceisio sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd meddwl ar gael o fewn gofal sylfaenol.
  • Rhan 2 sydd yn rhoi’r hawl i bob un person sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i dderbyn Cynllun Gofal a Thriniaeth.
  • Rhan 3 sydd yn rhoi’r hawl i bob un oedolyn sydd yn cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i atgyfeirio ei hunan yn ôl i’r gwasanaethau hynny.
  • Rhan 4 sydd yn cynnig help i bob claf mewnol i gael mynediad at eiriolydd iechyd meddwl arbenigol.

Isod, rydym yn bwrw golwg ar bob un o’r pedair rhan sydd yn y Mesur mewn mwy o fanylder. Bydd Rhannau 2 a 3 yn meddu ar yr effaith fwyaf ar gyfer y sawl sydd ag afiechydon meddwl difrifol a’r rhai sydd yn derbyn gwasanaethau gofal eilaidd, ond fel i ni esbonio, mae pob un ohonynt yn berthnasol. Fodd bynnag, cyn symud ymlaen i rannau 1 i 4, rhaid i ni ddechrau drwy esbonio rhai o’r Egwyddorion Arweiniol.

YR EGWYDDORION ARWEINIOL

Mae’r Egwyddorion Arweiniol yma wedi eu hamlinellu yn y Cod Ymarfer ar gyfer Rhannau 2 a 3 ac maent yn hynod bwysig ar gyfer y Rhannau hyn ond maent hefyd yn berthnasol i’r Mesur cyfan. Mae yna gyfanswm o chwech ac maent fel a ganlyn:

  • Dylai cleifion a’u gofalwyr gael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio, datblygu a darparu cynlluniau gofal a thriniaeth i’r graddau mwyaf posibl – fel bod gweithwyr proffesiynol yn ceisio sicrhau bod person yn chware cymaint o rôl ag sydd yn bosib yn ei ofal a’i driniaeth, a hynny mewn modd sensitif ac mewn ffordd sydd yn hyrwyddo ei hyder a’i adferiad.
  • Cydraddoldeb, urddas ac amrywiaeth – fel bod gweithwyr proffesiynol yn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion pobl sydd yn deillio o’u hil, rhyw, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu anabledd wrth ddarparu gwasanaeth.
  • Mae sefydlu proses gyfathrebu glir o ran iaith a diwylliant yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cleifion a gofalwyr yn cael eu cynnwys o ddifrif, a’u bod yn derbyn y gofal a’r driniaeth orau bosibl – fel bod yna ddealltwriaeth bod cyfathrebu gwael yn arwain yn rhy aml at ofal a thriniaeth amhriodol; ac felly, mae cyfathrebu da yn debygol o arwain at ganlyniadau gwell. Mae’r egwyddor hon yn datgan hefyd y dylid cymryd pob cam posib er mwyn sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ar gael.
  • Dylai gofal a thriniaeth fod yn gynhwysfawr, yn gyfannol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn – fel bod gweithwyr proffesiynol yn sensitif i ystod lawn o anghenion y person a’u bod yn cynllunio gofal, triniaeth a chefnogaeth er mwyn diwallu’r anghenion a fydd yn helpu adferiad person.
  • Dylai’r gwaith o gynllunio gofal a thriniaeth fod yn gymesur â’r angen a’r risg – fel bod yna gydnabyddiaeth fod rhai pobl, ar y naill law, ag anghenion cymhleth ac angen cynlluniau gofal manwl tra bod eraill o bosib angen help mwy syml a fydd yn gwella eu sefyllfaoedd yn sylweddol.
  • Dylai gofal a thriniaeth gael eu hintegreiddio a’u cydgysylltu – felly wrth gynnig gofal a thriniaeth, mae gweithwyr proffesiynol yn cydnabod yr ystod o wasanaethau a allai elwa person – boed yn y sectorau statudol neu wirfoddol neu’n wasanaethau iechyd meddwl arbenigol neu’n wasanaethau mwy cyffredinol a bod yn weithgar drwy weithio gyda gwasanaethau eraill er mwyn cydlynu’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu.

RHAN 1 – GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL AR LEFEL GOFAL SYLFAENOL

Nod Rhan 1 o’r Mesur yw gwella ac ehangu’r hyn y cyfeirir ato fel “gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol”, sef y gwasanaethau y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl mwy cymedrol neu sefydlog yn medru eu derbyn gan eu Meddygon Teulu a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol eraill. Mae’r gwasanaethau yma gan amlaf ar gyfer dau grŵp o bobl:

  • y rhai hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl “canolig i gymedrol”, er enghraifft gorbryder neu iselder, a
  • y rhai hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl mwy difrifol ond sydd wedi gwella digon fel bod eu hafiechyd yn sefydlog.

Ni cheir un ddogfen ar gyfer y cyhoedd sydd yn crynhoi y gwelliannau arfaethedig i wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ond maent wedi eu hamlinellu mewn manylder yn nogfen Llywodraeth Cymru, “National Service Model for Local Primary Mental Health Support Services” (2011). Mae’r hyn sydd yn dilyn yn grynodeb o rai o’r prif elfennau o’r ddogfen honno.

Pa wasanaethau a fydd yn cael eu darparu: O fis Hydref 2012, mae angen i wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol i gynnig y canlynol.

  • Asesiad Iechyd Meddwl Sylfaenol – Bydd person yn cael cynnig yr asesiad yma os yw ei Feddyg Teulu neu weithiwr arall yn credu y byddai’n elwa o asesiad iechyd meddwl mwy manwl gyda’r nod o adnabod p’un ai yw triniaeth iechyd meddwl sylfaenol lleol neu unrhyw wasanaeth lleol arall yn medru gwella, neu atal dirywiad yn iechyd meddwl y person hwnnw. Y nod yw sicrhau nad yw person yn aros yn fwy na 28 diwrnod am asesiad.
  • Triniaeth neu Gymorth Byrdymor – Yn dilyn asesiad, dylai person gael cynnig help tymor byr lle bo hyn yn briodol. Mae enghreifftiau o’r help hwn yn cynnwys cwnsela, ymyriadau seicolegol gan gynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol, therapi’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gwaith teulu, cymorth ar-lein, rheoli straen, bibliotherapi neu addysg a gallai bod modd ei gynnig ar lefel unigol neu drwy grŵp.
  • Atgyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd– Pan fod Gweithiwr Gofal Sylfaenol yn credu fod person yn medru elwa o ymyrraeth neu gymorth gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, mae disgwyl bod y person hwnnw yn cael cynnig cael ei atgyfeirio ymlaen.
  • Gweithio ar y Cyd a Chefnogi Gofal Sylfaenol – Bydd Meddygon Teulu a Gweithwyr Ymarfer Cyffredinol yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, a rôl allweddol y gwasanaethau iechyd meddwl fydd gweithio gyda hwy er mwyn eu helpu i wneud hyn, gan gynnig eu sgiliau a gwybodaeth arbenigol lle bo hynny’n briodol.
  • Gwybodaeth a chyngor i unigolion a’u gofalwyr – Rôl allweddol bellach y gwasanaethau iechyd meddwl fydd datblygu dealltwriaeth dda o’r ystod o wasanaethau yn eu hardal leol gan gynnwys gwasanaethau cyffredinol a gwasanaethau mwy arbenigol. Bydd hyn yn eu caniatáu i gynnig gwybodaeth a chyngor mwy priodol ar ba opsiynau am gymorth ychwanegol sydd ar gael a gobeithir y bydd unigolyn yn cael ei “ddargyfeirio” at gymorth sydd yn cael ei ddarparu gan y mudiadau sector gwirfoddol. Nod clir yw darparu’r wybodaeth yma nid yn unig o ddefnyddwyr gwasanaeth ond eu teuluoedd a’u gofalwyr hefyd.

Sut y bydd gwasanaethau yn cael eu darparu: Nid yw’r Canllaw ar gyfer y Rhan yma o’r Mesur yn cynnwys glasbrint o’r hyn y dylai’r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ei gynnwys ond mae yn amlinellu fframwaith clir i wasanaethau ar draws Cymru. Mae rhai o’r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

  • Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol weithio gyda’i gilydd er mwyn sefydlu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol ar draws Cymru, a byddant gyda’i gilydd yn meddu ar y cyllid a’r cyfrifoldeb ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn eu hardaloedd.
  • Tra y bydd y Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yn parhau’n gyfrifol yn y pendraw am sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu darparu’n briodol, ni fydd gwasanaethau o reidrwydd yn cael eu darparu ganddynt hwy bob tro. Yn hytrach, awgrymir bod Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yn mynd ati i recriwtio partneriaid lleol eraill er mwyn helpu i ddarparu’r gwasanaeth a dylent “gydnabod ac elwa o gyfraniad ac arbenigedd y mudiadau trydydd sector arbenigol.”
  • Mae yna ddisgwyl y bydd y gwasanaeth yn gweithredu’n bennaf “o fewn neu ar y cyd ag arferion Meddygon Teulu cyfredol” a bydd yna “arbenigedd yn y gymuned”.
  • Mae yna hyblygrwydd sylweddol ynghylch y math o ymarferwyr y dylid eu recriwtio o bosib er mwyn gweithredu fel gweithwyr gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol. Y prif amod yw bod rhaid iddynt feddu ar y sgiliau a’r cymhwysedd i gyflawni’r pum swyddogaeth sydd wedi eu hamlinellu isod.
  • Gofyniad pwysig yw bod defnyddwyr gwasanaeth yn gwybod ble’n union ydynt o ran y gwasanaeth a’r hyn y gallant ddisgwyl. Er enghraifft, dylid o hyd bod yn eglur gyda hwy o ran a ydynt yn derbyn gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol neu’n cael eu hatgyfeirio at wasanaeth gofal eilaidd fel nad ydynt mewn peryg o gael eu “colli rhwng y gwasanaethau”. Dylent hefyd fod yn eglur am eu “llwybr gofal” gyda “mannu mynediad a gadael diffiniedig”.

RHAN 2 – CYSYLLTU GOFAL A CHYNLLUNIO TRINIAETH MEWN GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Dyma ran fer iawn yn y Mesur – y rhan byrraf mewn gwirionedd gyda 5 paragraff allweddol yn unig. Fodd bynnag, mae’r paragraffau prin yma yn cynnwys dyletswyddau a hawliau y mae Hafal wedi ymgyrchu yn galed o’u plaid dros flynyddoedd lawer ac rydym yn gobeithio y byddant yn gwella’r profiad o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i bobl yng Nghymru. Yn wir, mae Rhan 2 o’r mesur yn gosod dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaeth (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol) i gydgysylltu er mwyn gwell effeithiolrwydd y gwasanaethau iechyd meddwl y maent yn darparu ac mae’n rhoi dwy hawl newydd i bobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd:

  • yr hawl i gael Cydgysylltydd Gofal wedi ei apwyntio i weithio gyda hwy er mwyn cydlynu eu gofal a’u triniaeth ‘r
  • hawl i Gynllun Gofal a Thriniaeth unigol a chynhwysfawr er mwyn eu cynorthwyo yn eu hadferiad
  • daeth Rhan 2 o’r Mesur i rym ym Mehefin 2012.

Tra bod Rhan 2 o’r Mesur yn weddol fer, mae yna God Ymarfer cynhwysfawr newydd yn ei atgyfnerthu sydd yn cynnwys rhyw 60 o dudalennau. Mae hwn yn God Ymarfer statudol, sydd wedi ei baratoi o dan Adran 44 o’r Mesur. Fel Cod Ymarfer Cymru ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl, nid yw’n gyfraith y mae’n rhaid dilyn yn awtomatig ond mae’n ddogfen bwysig gan ei bod yn cynnwys “canllaw statudol” ac mae gweithwyr proffesiynol na sydd yn dilyn y canllaw hwn yn medru cael ei herio yn y llys.

Yn ogystal ag amlinellu’r Egwyddorion Arweiniol uchod, mae’r Cod Ymarfer hefyd yn meddu ar benawdau ar :

  • Asesu
  • Cydgysylltwyr Gofal
  • Cynllunio Gofal a Thriniaeth
  • Cydgysylltu Gwasanaethau
  • Monitro ac Adolygu
  • Rhyddhau o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd.

Mae modd cael gafael ar y Cod Ymarfer llawn yma (link). Rydym yn crynhoi’r pwyntiau allweddol yma. (Os oes yna ddyfyniad o’r Cod Ymarfer, mae rhif y paragraff wedi ei gynnwys mewn cromfachau).

  • Asesu – Nid yw’r Mesur ei hun yn gwneud cyfeiriad penodol at asesiadau mewn gofal eilaidd ond mae’r Cod Ymarfer yn cydnabod yn llawn bod yn rhaid cynnal asesiad cynhwysfawr cyn cynllunio gofal effeithiol gan ddatgan “Y nod yw i’r broses asesu ddarparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i gynllunio gofal a thriniaeth a gwneud gwaith yn y dyfodol.” (2.11). Dylai asesiadau ystyried yr angen a’r risg. O safbwynt yr angen, dylai fod yn “holistaidd” ac ystyried yr wyth agwedd o fywyd person sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Gofal a Thriniaeth (gweler isod) (2.14). O safbwynt y risg, dylai “geisio nodi unrhyw risgiau a all wynebu’r claf perthnasol ac unrhyw risgiau y gallant fod yn eu peri i’w hunan neu i eraill.” (2.18).
  • Rôl y Cydgysylltwyr – Y Cydgysylltwyr Gofal fydd y gweithwyr proffesiynol allweddol, os nad yr allwedd, ar gyfer gweithio’n broffesiynol gyda hwy mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Eu Cydgysylltwr Gofal fydd y “brif ffynhonnell o wybodaeth” ac yn “gyfrifol am geisio ei gynnwys ac ennyn ei gydweithrediad ymarferol yn y broses cynllunio gofal.” (3.5). Bydd y Cydgysylltydd Gofal hefyd yn gyfrifol yn y pendraw am sicrhau fod y person yn meddu ar Gynllun Gofal a Thriniaeth ysgrifenedig a bod hwnnw yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru (3.4). Mae’r dyletswyddau a swyddogaethau y Cydgysylltwyr Gofal yn cael eu hamlinellu mewn manylder yn y Cod Ymarfer (3.32 i 3.36) ac yn sicrhau eu bod yn weithgar drwy weithio gyda, a chydlynu gofal a thriniaeth, yw bobl y maent yn gyfrifol amdanynt.
  • Dynodi Cydgysylltwyr Gofal – Dyletswydd y darparwyr gwasanaeth statudol, y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Awdurdod Lleol fel arfer, yw apwyntio Cydgysylltwyr Gofal ac mae’r Cod Ymarfer yn nodi mewn manylder pwy sydd yn gyfrifol am y ddyletswydd yma (3.06 i 3.12). Mae hefyd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o sicrhau bod person yn gwybod yn gyson pwy yw ei Gydgysylltydd Gofal ac yn disgrifio mewn manylder yr hyn a ddylai ddigwydd os yw Cydgysylltydd Gofal person yn newid (3.13 i 3.23).
  • Pwy sydd yn medru bod yn Gydgysylltwyr Gofal – Mae’r Cod Ymarfer yn benodol ynghylch pa weithwyr proffesiynol sydd yn medru bod yn Gydgysylltwyr Gofal ac mae’r rhestr yn debyg i’r ‘Approved Mental Health Professionals (AMHPs)’ o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Rhaid iddynt fod yn weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau priodol gan gynnwys (3.26):
    • gweithiwr cymdeithasol
    • nyrs iechyd meddwl neu anableddau dysgu
    • therapydd galwedigaethol
    • ymarferydd seicolegol
    • meddyg
    • dietegydd
    • ffisiotherapydd
    • therapydd lleferydd neu iaith
  • Cynllunio Gofal a Thriniaeth – Mae Pennod 4, sef y bennod hiraf yn y Cod Ymarfer, yn delio gyda Chynllunio Gofal a Thriniaeth, Mae’n amlinellu mewn cryn fanylder nid yn unig yr hyn y dylid cynnwys mewn Cynllun Gofal a Thriniaeth ond sut y dylid ei drafod, ei negodi, ei ddosbarthu a’i adolygu. Yn gryno, rhaid i’r Cydgysylltydd Gofal weithio yn galed er mwyn sicrhau bod y person yn chwarae rhan ynghyd â/neu’r cynrychiolydd, eiriolydd ac unrhyw aelodau priodol o’r teulu a’r gofalwyr ac ymgynghori’n eang gydag aelodau’r tîm, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau (4.3 i 4.32). Dylai’r Cydgysylltydd Gofal anelu i gwblhau’r Cynllun Gofal a Thriniaeth o fewn 6 wythnos (4.87) a danfon copi at bawb sydd â diddordeb uniongyrchol. (4.91).
  • Cynllun Gofal a Thriniaeth – Mae yna fformat 5 tudalen i Gynlluniau Gofal a Thriniaeth a dylai Cynlluniau Gofal a Thriniaeth ystyried yr wyth agwedd mewn bywyd person:
    • cyllid ac arian
    • addysg
    • gofal personol a lles corfforol
    • addysg a hyfforddiant
    • gwaith a galwedigaeth
    • rhianta neu berthnasau gofalu
    • materion cymdeithasol, diwylliannol neu ysbrydol
    • ffurfiau meddygol a ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys ymyriadau seicolegol.

    Dylai Cynllun Gofal a Thriniaeth gynnwys gwybodaeth am bob un o’r agweddau yma er mwyn penni:

    • pa ganlyniadau y mae’r person yn dymuno eu cyflawni
    • pa wasanaethau sydd yn cael eu darparu neu pha weithredoedd sydd yn cael eu cymryd
    • pryd a chan bwy?

    Mae Hafal yn meddu ar gyhoeddiadau manwl er mwyn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr drwy’r broses Cynllunio Gofal a Thriniaeth ac mae’n werth chweil bwrw golwg ar y rhain am wybodaeth a chyngor pellach. (link)

  • Cydlynu Darpariaeth Gwasanaeth – Mae Cydgysylltwyr Gofal yn meddu ar y cyfrifoldeb am fonitro gweithrediad y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth ond nid ydynt yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau penodol yn cael eu darparu. Mae’r cyfrifoldeb ehangach hwn yn eiddo i’r darparwr gwasanaeth ac mae’r Cod Ymarfer yn cydnabod bod yna debygolrwydd o achosion lle nad yw anghenion yn cael eu diwallu (5.8). Pan nad yw gwasanaethau yn cael eu darparu, dylai’r Cydgysylltydd Gofal adolygu a diwygio’r Cynllun Gofal a Thriniaeth gyda’r defnyddiwr gwasanaeth.
  • Monitro ac Adolygu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth – Unwaith y cytunir ar Gynllun Gofal a Thriniaeth a bod gwasanaethau yn cael eu darparu, mae cyfrifoldeb parhaol gan y Cydgysylltydd Gofal i fonitro gweithrediad y Cynllun. Dylai’r fath fonitro gynnwys:
    • asesiad parhaol o anghenion iechyd meddwl a risgiau’r person
    • sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu fel sydd wedi ei gytuno
    • penni a yw’r canlyniadau penodol yn parhau’n berthnasol ac yn cael eu cyflawni.

    Rhaid adolygu Cynllun Gofal a Thriniaeth person o leiaf unwaith y flwyddyn ond mae’r Cod Ymarfer yn mynd ymlaen i ddweud y dylai “adolygiadau fod yn seiliedig ar anghenion”” (6,11) ac mae modd i’r person, gofalwr a darparwyr gwasanaeth i wneud cais am hyn ynghyd â’r Cydgysylltydd Gofal. Dylid paratoi’n ofalus am adolygiadau a’u trefnu (6.18) a’u cofnodi’n gywir (6.16).

  • Terfynu’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd – Yn olaf, mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Rhan 2 o’r Mesur yn edrych ar berson sydd yn cael ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Gobeithir y bydd hyn yn ddigwyddiad positif sydd yn dynodi cam pwysig yn adferiad person, ond hyd yn oed felly, rhaid cydnabod y gallai fod yn adeg anodd i’r person dan sylw. Mae’r Cod Ymarfer, felly, yn gofyn i’r awdurdod perthnasol, boed yn Fwrdd Iechyd Lleol neu’n Awdurdod Lleol, i ddarparu gwybodaeth glir i’r person am paham y mae’r gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn dod i ben a ble y bydd modd cael mynediad at gefnogaeth yn y dyfodol. Yn fwy pwysig, rhaid rhoi gwybod i’r person am ei hawl i dderbyn asesiad pellach o dan Ran 3 o’r Mesur a fydd yn cael ei drafod gennym nawr.

RHAN 3 – ASESU CYN-DDEFNYDDWYR GWASANAETH IECHYD MEDDWL EILAIDD

Nod Rhan 3 o’r Mesur yw ei gwneud hi’n fwy hawdd i bobl na sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd – ond sydd wedi derbyn y gwasanaethau yma yn y tair blynedd diwethaf – i gael mynediad at y gwasanaethau yma eto. Mae’n rhoi’r hawl iddynt, os ydynt yn credu fod eu hiechyd meddwl yn dirywio i’r pwynt fel eu bod angen gofal a thriniaeth arbenigol eto, i atgyfeirio eu hunain yn ôl yn syth i’r gwasanaethau eilaidd, a hynny heb orfod mynd i weld Meddyg Teulu neu fynd rhywle arall yn gyntaf am atgyfeiriad.

Mae’r rhan hon o’r Mesur, a ddaeth i rym ym Mehefin 2012, yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i gael trefniadau yn eu lle er mwyn ymateb i’r fath hunan-atgyfeiriadau ac i gynnal asesiadau amserol.

Mae’r Cod Ymarfer y gwnaethom gyfeirio ato yn Rhan 2 hefyd yn meddu ar bennod, Pennod 8, sydd yn sôn am Ran 3. Y pwyntiau allweddol yw:

  • mae hawl gan berson sydd yn hŷn na 18 ac yn adnabyddus i’r gwasanaethau iechyd meddwl o fewn y tair blynedd ddiwethaf a dal yn byw yn yr ardal leol i “geisio asesiad pellach o’i iechyd meddwl, gyda’r nod o bennu a all fod angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu ofal cymunedol a gwasanaethau tai neu les i wella ei iechyd meddwl neu ei atal rhag gwaethygu.” (8.18)
  • mae’r hawl yma ar gyfer y person yn unig ac nid yw’n ymestyn i deuluoedd neu ofalwyr er bod teuluoedd a gofalwyr dal yn cael eu hannog i roi gwybod i wasanaethau am bryderon pwysig (8.20)
  • rhaid cynnal asesiad “mewn modd amserol” (8.39)
  • wedi cwblhau’r asesiad, rhaid ysgrifennu adroddiad sydd yn amlinellu pa wasanaethau pellach sydd wedi eu hadnabod a rhaid rhoi hyn i’r person o fewn 10 diwrnod gwaith (8.38/39).

.

RHAN 4 – EIRIOLAETH IECHYD MEDDWL ANNIBYNNOL

Roedd Deddf Iechyd Meddwl 2007, a ddiwygiodd Deddf Iechyd Meddwl 1983, wedi rhoi hawl bwysig newydd i bobl sydd yn cael eu cadw o dan y Ddeddf i dderbyn help a chymorth gan Eiriolydd Iechyd Meddwl Annibynnol. Fodd bynnag, roedd yr hawl ond ar gael i bobl a oedd yn cael eu cadw yn yr hirdymor (Adrannau 2 a 3) ac i bobl sydd yn byw yn y gymuned o dan Warcheidwaeth neu Driniaeth Gymunedol o dan Oruchwyliaeth.

Rhan 4 y Mesur yw’r unig ran sydd yn diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn uniongyrchol ar ran pobl yng Nghymru, ac mae’n gwneud hyn drwy ymestyn yr hawl i gael Eiriolydd Iechyd Meddwl Annibynnol i bawb sydd yn cael eu derbyn i ysbytai seiciatryddol. Yn benodol, mae’n ymestyn yr hawl i:

  • cleifion yn adrannau brys, mwy byrdymor y Ddeddf (yn benodol Adrannau 4 a 5), a
  • cleifion sydd yn yr ysbyty yn wirfoddol neu “anffurfiol” (mewn geiriau eraill, na sydd yno o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl).

Daeth y Rhan yma o’r Mesur i rym yn llawn yn Ebrill 2012 gyda’r nod clir o wella’r profiad o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer yr holl gleifion mewnol, eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal a’u triniaeth a’u cefnogi i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Ni cheir Cod Ymarfer sydd yn ymwneud â Rhan 4 ond mae cyfarwyddyd manwl a gwybodaeth bellach ar gael yn nogfen Llywodraeth Cymru “Cyflawni’r Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol yng Nghymru Canllaw i Ddarparwyr Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol a Chynllunwyr Gwasanaeth Eiriolaeth Bwrdd Iechyd Lleol). (link)

Rhai o’r prif bwyntiau yn y canllaw yw (lle y ceir cyfeiriad uniongyrchol at y ddogfen ganllaw, mae rhif y paragraff mewn cromfachau):

  • Rôl yr Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol – Rhaid iddynt fod yn annibynnol (50) ac mae rôl allweddol ganddynt i helpu cleifion i gael gafael a deall gwybodaeth am eu gofal a’u triniaeth, Efallai y byddant yn helpu claf i chwarae rhan, i chwarae mwy o ran, yn y penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud am eu gofal a thriniaeth, a/neu gynrychioli’r claf a siarad ar ei ran. (54 i 57).
  • Hawliau a Dyletswyddau’r Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol – Maent yn meddu ar ddyletswydd i ymateb i unrhyw gais rhesymol i ymweld a chyfweld â’r claf y maent yn helpu ac mae’r hawl ganddynt i ymweld a chyfweld â’r claf yn breifat. Mae’r hawl ganddynt hefyd i ymweld a chyfweld ag unrhyw berson proffesiynol sydd yn delio gyda thriniaeth feddygol y claf (58 i 68).
  • Gwybodaeth am Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol – Mae’r Canllaw yn amlinellu pa awdurdod statudol sydd yn meddu ar y ddyletswydd i roi gwybod i’r claf, neu’r Berthynas Agosaf, bod hawl ganddynt i gael help gan Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (69 i 75).
  • Cyfrifoldeb am y Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol – Mae’r cyfrifoldeb dros ymestyn gwasanaeth yr Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol yn eiddo i’r Byrddau Iechyd Lleol sydd yn meddu ar ddyletswydd o gomisiynu mudiad annibynnol i’w ddarparu.