PWY YW PWY YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru
Mae’r cyfrifioldeb am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys iechyd meddwl, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rôl bwysig y Cynulliad Cenedlaethol yw datblygu a gweithredu polisïau sydd yn adlewyrchu anghenion penodol pobl Cymru.
Llywodraeth Cymru yw gweithgor y Cynulliad ac mae’r pŵer ganddi i gyllido, cyfarwyddo a gwneud apwyntiadau i gyrff GIG yng Nghymru a’u dal yn atebol, i weithredu polisïau sydd yn ymwneud â gofal yn y gymuned.
Mae’n bosib cael mwy o wybodaeth ynghylch sut y mae’r Cynulliad yn gweithio drwy gyfrwng y gwefannau:
Llywodraeth Cymru http://new.wales.gov.uk
Cynulliad Cenedlaethol Cymru www.assemblywales.org
Ffigyrau allweddol ar gyfer Iechyd Meddwl yn y Cynulliad
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ,Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol : Vaughan Gething
Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yw pwyllgor allweddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer iechyd meddwl. Caiff ei alw’n Bwyllgor Craffu, ac fel yr awgrymir gan y term hwn, ei rôl allweddol yw archwilio polisïau, gweithredodd a gwariant y Llywodraeth ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac i ddal Gweinidogion yn atebol a hefyd i gadw llygad ar gyrff y llywodraeth ac asiantaethau o fewn y maes hwn.
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cael ei gadeirio gan Vaughan Gething (Aelod Cynulliad dros De Caerdydd a Phenarth)
Am fwy o wybodaeth am strwythur Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad