Y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

Gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion

Y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yw prif gyrff llywodraethol sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl lleol. Mae pob un o bolisïau diweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru ar iechyd meddwl a gofalwyr, gan gynnwys y Strategaeth Iechyd Meddwl, y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol a’r Strategaeth Gofalwyr, yn pwysleisio bod angen i’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol i gyd-weithio er mwyn darparu ‘gwasanaethau diwnïad’ ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Hyd at Medi 2009 roedd yna 22 Bwrdd Iechyd Lleol (BIL) a 22 awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, gyda’r un ffiniau felly, mewn egwyddor o leiaf, dylai hwn wedi gwneud cyd-weithio’n haws. Fodd bynnag yn ymarferol, nid oedd hyn bob tro yn amlwg i ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd na’u gofalwyr. Ym mis Hydref 2009 fe wnaeth y GIG yng Nghymru weithredu ad-drefniant fawr, ac erbyn hyn dim ond 7 BIL sydd i gael, ond o hyd mae yna 22 awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol. Yr ydym yn dal i aros i weld sut fydd hyn yn gweithio.

Comisiynu a darparu gwasanaethau

Mae g an y BILiau a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ddau ffwythiant sylweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Fel arfer y galwant yn wasanaethau comisiynu neu prynu a gwasanaethau darparu. Dyma beth a olygir wrth hwn:-

·         Mae Gwasanaethau Comisiynu yn golygu’r holl broses o gynllunio’r amrediad llawn o wasanaethau, sicrhau eu bod ar gael, ac eu bod yn cael eu monitro a’u arolygu. Gan fwyaf mae ffwythiannau cynllunio a chomisiynu yn cael eu cario allan gan y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yn aml mae staff cynllunio iechyd meddwl neu comisiynu yn cael eu hapwyntio gan y ddau gorff yn gyd.  Fel arfer mae trefniadau cyd-gynllunio yn dechrau gyda Grŵp Cynllunio Strategol sy’n cynnwys nid yn unig GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol, ond hefyd gynrychiolwyr o adrannau gwahanol yr awdurdod lleol (e.e. Llety), y sector gwirfoddol a defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Trwy’r broses hon, penderfynir pa wasanaethau bydd yn cael eu darparu gan y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol (sy weithiau yn cael eu galw yn ‘wasanaethau mewnol’) a pha wasanaethau fydd yn cael eu contractio allan i gymdeithasau eraill (sy weithiau yn cael eu galw yn ‘ddarparwyr allanol’).

·         Mae Darpariaeth Gwasanaethau wedyn yn digwydd naill ai yn ‘fewnol’ neu gan ddarparwyr allanol. Esboniwn yn fwy manwl isod sut mae’r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwasanaethau lleol. Fodd bynnag yn gyffredinol, darparwyr gwasanaethau ysbyty GIG yn ‘fewnol’, h.y. gan y GIG (ond fe darparwyr rhai gwasanaethau ysbyty arbenigol gan gymdeithasau preifat), tra bo gwasanaethau gofal cymunedol, yn fwy ac yn fwy, yn cael eu contractio allan i gymdeithasau gwirfoddol neu phreifat.

Y GIG yng Nghymru

Fel yr ydym wedi dweud yn barod, cafodd y GIG yng Nghymru ad-drefniant mawr ym mis Hydref 2009. Fel canlyniad, cyfunwyd y 22 BIL (ag oedd yn comisiynu gwasanaethau) a’r 7 Ymddiriedolaeth GIG (roedd y nifer eisioes wedi’i lleihau o 15 drwy gyfuniadau, ag oedd yn darparu gwasanaethau) i mewn i 7 corff ‘cyfannol’ newydd, sydd yn comisiynu ac yn darparu gwasanaethau. Ond, yn eitha gymysglyd, gelwir yr awdurdodau cyfannol GIG newydd hyn Fyrddau Iechyd Lleol (BIL) o hyd.

Trwy’r BIL, mae’r GIG yn darparu gwasanaethau ar 3 lefel:-

·         Gofal cynradd: ar y lefel gyntaf hon mae meddygon teulu yn chwarae rhan sylweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ond mae gofal cynradd hefyd yn cynnwys deintyddion, optegwyr, fferyllydd a staff eraill ymarferion meddyg teulu, fel nyrsys ymarferion. Mae yna tua 1,900 o feddygon teulu yng Nghymru ac mae eu rhan hollbwysig mewn iechyd meddwl, gyda’u staff eraill hefyd, yn cynnwys:-

–          Diagnosis cyntaf o broblemau iechyd meddwl

–          Rhagnodi meddyginiaeth

–          Cyfeirio at wasanaethau gwnsela

–          Bod yn bwynt mynediad, cyfeiriw neu ‘porthgeidwad’ ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd

–          Ac, yn bwysig gan eu bod yn aml yn cael ei anghofio, i barhau  i ystyried anghenion iechyd corfforol pobl gyda ddiagnosis o afiechyd meddwl difrifol

·         Gofal eilaidd: Dyma’r lefel bwysig o ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol. Yn y GIG mae gwasanaethau gofal eilaidd yn wasanaethau arbenigol, ac mae hyn yn wir os ydynt ar gyfer pobl sy’n dioddef o afiechydon difrifol corfforol fel cancr ac afiechyd y galon neu ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl. Tra bod gwasanaethau arbenigol neu eilaidd gan amlaf yn cael eu darparu yn ysbytai, nid yw hyn bellach yn wir am iechyd meddwl. Yn lle, caiff gwasanaethau eu darparu yn y cartref neu mewn sefydliadau cymunedol, yn aml ynghyd â gwasanaethau cymdeithasol. Mae gwasanaethau gofal arbenigol eu eilaidd yn cynnwys:-

–          Diagnosis llawn ac asesiad o afiechyd meddwl difrifol

–          Cyd-drefniad o wasanaethau iechyd a’r gymuned drwy Dîmau Cymdeithasol Iechyd Meddwl (TCIM), a disgrifir yn fwy manwl isod

–          Darpariaeth o wasanaethau arbenigol fel ysbytai seiciatreg a wardiau a / neu ysbytai dyddiol; hefyd arallddewision i ysbyty fel tîmau argyfwg, tîmau triniaeth yn y cartref ac ysbytai dyddiol ag oriau estynedig

–          Cyflawni’r rhannau o Glinigwr Gyfrifol a Pherson Broffessiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

·         Gofal trydyddol: Mae gofal ar y lefel hon yn tueddu i fod yn arbenigol iawn ac yn cael ei ddarparu mewn ysbytai neu unedau rhanbarthol neu cenedlaethol, yn hytrach na mewn ardal lleol rhywun. Mae’n bosib y bydd pobl sy angen rhai wasanaeathau trydyddol yn cael eu cyfeirio at wasanaethau yn Lloegr. Mae gwasanaethau iechyd meddwl ar y lefel hon yn cynnwys:-

–          Gwasanaethau ysbyty ar gyfer pobl gydag afreolaeth fwyta

–          Rhai wasanaethau ar gyfer pobl gyda ddiagnosis deuol (gan gynnwys iechyd meddwl a cham-drîn sylweddau)

–          Unedau gofal seiciatreg dwys

–          Ysbytai diogelwch uchel a chanolig

Tîmau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC)

Mae’n debyg mai TIMC yw’r rhan canolog a fwyaf pwysig o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a’u gofalwyr.  Mae’r Rhwydwaith Gwasanaeth Genedlaethol yn gorfodi TIMC i’w cael eu staffio a’u rheoli gan y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd. Mae pobl proffesiynol yn gweithio yn TIMC yn cynnwys:

–          Seiciatryddion

–          Nyrsys Seiciatrydd Cymunedol

–          Gweithwyr cymdeithasol

–          Seicolegyddion

–          Therapyddion galwedigaethol

–          Staff cynorthwyol

Gwnaiff rhai pobl gydag afiechyd meddwl difrifol, yn enwedig os maent yn rheoli eu hafiechyd yn dda, ddewis i ddelio â’u meddyg teulu yn unig. Ond, i bobl eraill, yn enwedig os oes ansicrwydd ynglŷn â’u hafiechyd neu maent yn dioddef symptomau actif, fe fydd cyswllt gyda’u TIMC yn bwysig iddynt. Dylai pobl sy’n derbyn gofal a thriniaeth drwy eu TIMC gael un aelod neilltiedig o’r Tîm (neu mwy nag un) sydd yn actio fel eu gweithiwr allweddol, neu ‘cyd-drefnwr gofal’ a dylent fod mewn cyswllt cyson gyda nhw. Mae pwrpasau TIMC yn cynnwys:-

–          Cyfrannu at  ddiagnosis ac asesiad person sydd yn cael ei berfformio gan seiciatrydd

–          Cyd-drefnu triniaeth, gofal a chymorth, fel arfer drwy CPA

–          Darparu triniaeth, gofal a / neu cymorth penodol, fel y disgrifiryng nghynllun gofal y person

–          Actio fel bwynt mynediad neu ‘porthgeidwad’ i wasanaethau arbenigol ysbyty neu gofal cymunedol, os darparir gan y GIG, Gwasanaethau Cymdeithasol neu cymdeithasau eraill

Gweler restr lawn o TIMC, gyda gwybodaeth ar sut i gysylltu â nhw, ar ein dudalen ar TIMC.

Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru

Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r rhan pwysicaf o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru sy’n comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd meddwl, ond yn fwy ac yn fwy, mae’n bosib y byddent yn cyfuno gydag adrannau eraill awdurdodau lleol, ac yn cael eu galw yn rhywbeth arall, e.e. Adran Gwasanaethau Oedolion, neu Adran Llety a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod, tra bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn hollbwysig ar gyfer pobl gydag anableddau, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, mae gan adrannau eraill ran sylweddol i chwarae mewn darparu gwasanaethau.  Fe fydd yr adrannau hyn yn cynnwys Llety, Cynorthwyo Pobl ac adrannau Addysg Gymunedol.

Fel esboniwyd uchod, mae gan Wasanaethau Gymunedol ran cynllunio / comisiynu a rhan darpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys:-

·         Cynllunio a Chomisiynu, (gan rhannu gyda’r GIG): cyfrifoldeb am gynllunio a chomisiynu’r ystod lawn o wasanaethau iechyd meddwl lleol

·         Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol: sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cyfrannu’n llawn tuag at TIMC ac maent ar gael i actio fel Bobl Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwyol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Rhaid i weithwyr cymdeithasol hefyd ddarparu Asesiadau Gofal Cymunedol fel ran o broses Asesiad Gyfannol Llywodraeth y Cynulliad ac, yn ymarferol, mae hyn yn cael ei wneud yn fwy ac yn fwy mewn cyswllt â ffwythiant cynllunio gofal y CPA

·         Darparu Gwasanaethau Gofal Cymunedol, gan gynnwys gwasanaethau dyddiol, cymorth gartrefol a gwasanaethau gofal, neu gwasanaethau llety cynorthwyol; neu

·         Comisiynu Gwasanaethau Gofal Cymunedol drwy contractio gyda’r sector gwirfoddol neu darparwyr eraill er mwyn darparu gwasanaethau dyddiol, , cymorth gartrefol a gwasanaethau gofal, neu gwasanaethau llety cynorthwyol

Mae gan Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd ran sylweddol mewn cynllunio a darparu ar gyfer gofalwyr, ac fe esbonir hyn ar dudalennau eraill.