Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles i Gymru

TROSOLWG O’R STRATEGAETH “LAW YN LLAW AT IECHYD MEDDWL

Roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio ei strategaeth iechyd newydd, “Law
yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles i Gymru”
yn
Hydref 2012, ac mae’n amlinellu ei “gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd
meddwl yn yr unfed ganrif ar hugain.” Mae’n datgan y dylid gosod Law yn Llaw
at Iechyd Meddwl
ar y cyd gyda Law yn Llaw at Iechyd, strategaeth
2011 Cymru ar gyfer y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sefgweledigaeth 2011 Cymru ar
gyfer Gwasanaethau Cymdeithasola bod y rhain gyda’i gilydd yn
darparu’r cyd-destun strategol i iechyd meddwl am y 10 mlynedd nesaf. 
Mae rhai o bwyntiau allweddol Law yn Llaw
at Iechyd Meddwl (fel sydd yn cael ei esbonio yn y cyflwyniad a’i grynhoi yn
bellach ar dudalen 16 y Strategaeth) yn cynnwys y canlynol.

.
Iechyd a Lles Meddwl yw’r strategaeth iechyd meddwl a lles gyntaf i Gymru, ac
mae’n meddu ar y nod o hyrwyddo iechyd meddwl ac atal problemau iechyd meddwl
yn ogystal â gwella gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hefyd yn anelu i ymyrryd yn
gynnar pan fydd pobl yn derbyn diagnosis o salwch seiciatryddol ac o leihau
effaith afiechyd meddwl difrifol.

. Strategaeth ar gyfer Pob Oedran Dyma strategaeth
iechyd meddwl gyntaf Cymru sydd yn cynnwys yr holl grwpiau oedran – plant,
oedolion sydd mewn oedran gwaith a phobl hŷn. Bydd gwasanaethau yn parhau i
gael eu darparu i’r tri grŵp oedran yma ar wahân ond mae’r Strategaeth yn
ceisio gwella’r broses o bontio rhwng y gwasanaethau hynny.

. Y Mesur Iechyd Meddwl Mae’r Strategaeth yn
adeiladu ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru
ym 2010 ac sydd yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar Fyrddau Iechyd ac
Awdurdodau Lleol i wella sut y mae triniaeth, gofal a chymorth yn cael eu
darparu i bobl ag afiechyd meddwl ac sydd yn
cael ei ddisgrifio gennym ar dudalen
ar wahân
. Mae’r ffocws ar Gynllunio
Gofal a Thriniaeth unigol gwell, ac ar adfer ac ail-alluogi,  sy’n nodwedd allweddol o’r Mesur Iechyd
Meddwl, hefyd yn ganolog i’r Strategaeth.

Canolbwyntio ar ganlyniadau Mae’r
Strategaeth yn ceisio canolbwyntio ar ganlyniadau gyda 6 chanlyniad lefel uchel
a 18 canlyniad lefel isel. Rydym yn esbonio’r hyn a olygir mewn mwy o fanylder
isod ond mae’n ymwneud mewn gwirionedd ynghylch ceisio sicrhau bod yw
strategaeth yn gwneud gwahaniaeth real a mesuradwy, neu fel mae’r Strategaeth
ei hun yn datgan yn “mesur gwasanaethau o bersbectif yr unigolyn” a thrwy
“safbwynt defnyddiwr gwasanaeth.” Felly, mae yna flwch i bob pennod sy’n nodi’r
canlyniadau sydd i’w cyflawni ac mae pennod 5 yn amlinellu’r “gweithredoedd y
mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a mudiadau partner eu cymryd er mwyn troi
gweledigaeth y Strategaeth yn realiti.”

Hawliau Dynol Mae’r Strategaeth
hefyd yn ceisio mabwysiadu dull hawliau dynol, drwy anelu i fynd i’r afael â
stigma a gwahaniaethu yn ogystal â mynd i’r afael â materion cydraddoldeb ac
amrywiaeth.

.  Cynllun Cyflawni Yn olaf, mae’r
Strategaeth yn cael ei hatgyfnerthu gan Gynllun Cyflawni sydd yn esbonio sut y
bydd y Strategaeth yn cael ei gweithredu yn y tair blynedd gyntaf   (2013 i 2016). Mae’r Cynllun Cyflawni yn
cynnwys rhaglen tair blynedd o wella, amlinellu’r cynnydd sydd angen ar gyfer
darparu gwasanaeth gyda phwyslais ar wneud “y defnydd gorau o adnoddau”. Bydd y
modd y caiff y Strategaeth a’r Cynllun Cyflawni eu gweithredu yn cael ei
oruchwylio gan y “Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl”.

Yn y tudalennau isod, rydym yn edrych ar yr holl bwyntiau
hyn mewn mwy o fanylder ac yn cynnig crynodeb o bum pennod y Strategaeth.
Byddwn yn edrych ar y Cynllun Cyflawni ar
dudalen ar wahân.

DISODLI NEU ADEILADU AR STRATEGAETHAU BLAENOROL?

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn disodli tair dogfen strategol flaenorol gan Lywodraeth Cymru:

.  Strategaeth 2001 ar
gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion
” Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru: Tegwch, Grymuso,
Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd”,

.  Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Iechyd Meddwl 2005 sydd yn amlinellu ystod o Safonau a Gweithredoedd Allweddol er mwyn sicrhau
fod y strategaeth yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus

Strategaeth 2001 ar
gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed
“Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc: Busnes Pawb”.

Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
(tudalen 13) fod y strategaethau blaenorol yma wedi arwain at newidiadau
positif. Dywed eu bod wedi “sbarduno cynnydd sylweddol dros y 10 mlynedd
ddiwethaf” ac yn cynnwys (tudalen 14) rhestr hir o welliannau i’r gwasanaeth.
Mae’r rhestr yn cynnwys y canlynol (er nad yw hon yn rhestr hirfaith):

.  “Mesur Iechyd Meddwl
(Cymru) 2010
, sef mesur arloesol sy’n
ymestyn y ddarpariaeth gofal sylfaenol ac yn ysgogi dulliau gweithredu sydd
wedi’u teilwra i’r unigolyn, sy’n fwy cyfannol ac yn canolbwyntio ar adfer.”

“Datblygiad Gwasanaethau Cyswllt Cyfiawnder Troseddol i adnabod a
dargyfeirio pobl â

phroblemau iechyd meddwl cyn gynted
â phosibl ar y llwybr cyfiawnder troseddol.

.  “Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion a Phobl Hŷn a Thimau Datrys
Argyfwng, yn ogystal â Gwasanaethau Trin yn y Cartref a Gwasanaethau Allgymorth
Grymusol, yn datblygu ledled Cymru Cynnydd yn y buddsoddiad mewn iechyd meddwl
fel cyfran o wariant cyffredinol y GIG.”

“Caiff defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’u teuluoedd eu cynnwys fwyfwy
wrth

ddatblygu polisïau a deddfwriaeth ac
wrth gynllunio a dylunio gwasanaethau lleol.”

.  Mae’r Trydydd Sector wedi buddsoddi mewn cynlluniau arloesol ac mae mwy o
waith

partneriaeth yn digwydd rhwng y
sector Statudol a’r sector Gwirfoddol.”

“Mae cyrff integredig newydd y GIG yn golygu ei bod yn haws uno llwybrau
gofal rhwng gwasanaethau sylfaenol ac eilaidd.”

Mae Hafal yn cytuno fod gwasanaethau wedi gwella yn hyn o
beth  dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac
rydym wedi ymgyrchu am lawer o’r datblygiadau yma ac wedi chwarae rhan ynddynt.
Fodd bynnag, buaswn wedi hoffi gweld mwy o welliannau yn cael eu gwneud yn fwy
cyflym ac yn fwy cyson ar draws Cymru. Os yw Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn
arwain at welliannau cynt a chyson, byddwn yn croesawu hyn.

Y
STRATEGAETH MEWN MWY O FANYLDER – CANLYNIADAU

Mae defnydd o’r ieithwedd “canlyniadau” yn cael ei
defnyddio drwy’r Strategaeth. Mae yna reswm da dros hyn. Mae unrhyw strategaeth
yn ddiwerth os nad yw’n cael effaith glir a phositif ar fywydau pobl ac mae’r
Strategaeth hon yn amlinellu’r effaith y mae’n bwriadu ei gael drwy gyfrwng nifer
o “ganlyniadau”.

Mae “Canlyniadau” fel arfer yn ceisio esbonio effaith neu
amcan bwriadol y gwasanaeth. Yn ddelfrydol, dylent fod yn hawdd i’w deall ac yn
fesuradwy. Felly, pan fydd person yn ymweld gyda Meddyg Teulu gyda thostrwydd
digon syml, y canlyniad y maent yn dymuno yw bod y tostrwydd yn mynd i gael ei
adnabod a’i drin ac mae modd mesur hwn fel arfer drwy gyfrwng os ydynt yn
teimlo’n well ai peidio.

Mae’r canlyniadau yn y Strategaeth wrth gwrs ychydig yn
fwy dyrys ond hefyd o bosib yn peri penbleth.
Mae yna gyfanswm o 24 canlyniad, 6 canlyniad lefel uchel a 18 canlyniad
lefel isel.

.  Canlyniadau Lefel Uchel  Yn y blwch uchod, ceir “6 canlyniad lefel
uchel” sydd wedi eu tynnu yn syth o’r Strategaeth. Maent yn ddatganiadau pwysig
ac mae Hafal yn eu cefnogi’n llwyr. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o
strategaethau, byddent yn cael eu disgrifio fel amcanion neu nodau  yn hytrach na chanlyniadau, ac fel arfer,
byddai hyn yn gwneud mwy o synnwyr. Wedi eu hychwanegu at ddiwedd y
Strategaeth, mae nifer o “Atodiadau Technegol” ac mae Atodiad Technegol 2 yn
amlinellu’r mesurau ar gyfer y 6 canlyniad yma. Fodd bynnag, mae angen
cwestiynu p’un ai bod y mesurau yma yn gwneud cyfiawnder i’r canlyniadau lefel
uchel yma. Er enghraifft, mae canlyniad D o
bwysigrwydd sylweddol i Hafal a’i aelodau ond mae’r Atodiad Technegol yn
cynnwys 3 mesur yn unig:

–    “nifer y
defnyddwyr gwasanaeth sy’n oedolion ac yn derbyn taliadau uniongyrchol”

–    “cynnydd mewn Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn cofnodi anghenion
iaith Gymraeg ac ieithoedd eraill”

–    “% o gynlluniau gofal sydd yn dangos fod defnyddwyr gwasanaeth
wedi chwarae rhan yn eu dylunio”.

Mae’n ymddangos yn
annhebygol i ni fod y mesurau yma yn medru mesur cynnydd o gwmpas yr amcan
neu’r canlyniad pwysig hwn a’r unig fesur dibynadwy yw gofyn i ddefnyddwyr
gwasanaeth am adborth ynghylch eu profiadau.

Canlyniadau Lefel Uchel
A.    Mae iechyd meddwl a lles y boblogaeth i gyd wedi gwella.

B.    Mae effaith problemau iechyd meddwl a/neu salwch meddwl ar unigolion o
bob oedran, eu teuluoedd a’u gofalwyr, eu cymunedau a’r economi ehangach yn
cael ei chydnabod a’i lleihau.

C.   Mae llai o anghydraddoldebau, stigma a gwahaniaethu yn digwydd ymysg pobl
sy’n profi salwch meddwl a phroblemau iechyd meddwl.

D.    Mae unigolion yn cael profiad
gwell o ran y cymorth a’r driniaeth a gânt ac yn teimlo bod ganddynt fwy o
fewnbwn a rheolaeth dros benderfyniadau cysylltiedig.

E.    Mae gwell mynediad i
ymyrraeth gynnar a thriniaethau a gwell ansawdd i’r mesurau ataliol, ac mae
iechyd mwy o bobl yn gwella o ganlyniad i hyn.

F.     Mae gwerthoedd, agweddau a sgiliau’r rhai
sy’n trin neu’n rhoi cymorth i unigolion o bob oedran â phroblemau iechyd
meddwl neu salwch meddwl yn gwella.

.  Canlyniadau Lefel Isel Mae’r 18 canlyniad lefel isel hefyd yn adlewyrchu
amcanion pwysig y mae Hafal yn eu cefnogi’n llawn. Maent ychydig yn fwy manwl
na’r canlyniadau lefel uchel er eu bod yn weddol gyffredinol yn eu  natur. Er enghraifft, nid yw’r Canlyniad 1
lefel isel:

.
“Mae lles corfforol a lles meddyliol y boblogaeth
i gyd yn gwella; mae pobl yn byw yn hirach, mae eu hiechyd yn well ac maent mor
annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl.”

llawer llai cyffredinol na
Chanlyniad A lefel uchel  :

“Mae iechyd meddwl a lles y boblogaeth gyfan wedi gwella”.

Mae’r canlyniadau lefel is yn
perthyn i bob un o 5 pennod y Strategaeth, ac felly, fel gyda’r Strategaeth ei
hun, rydym yn eu cynnwys mewn blwch o dan bob un bennod. Mae’r 18 canlyniad
lefel isel hefyd wedi eu cysylltu yn y Strategaeth i’r 6 canlyniad lefel uchel
ac rydym yn cynnwys y wybodaeth yma yn y blychau hyn.

PENNOD 1 O’R STRATEGAETH – HYBU LLES MEDDYLIOL AC ATAL
PROBLEMAU IECHYD MEDDWL

Pennod 1 Canlyniadau Canlyniadau
Lefel Uchel
1. Mae lles corfforol a lles meddyliol y boblogaeth i
gyd yn gwella; mae pobl yn byw yn hirach, mae eu hiechyd yn well ac maent mor
annibynnol â  phosibl am gyhyd â
phosibl.
A & E
2. Mae pobl a chymunedau yn gadarnach ac yn delio’n
well â straen bywyd bob dydd ac adegau o argyfwng.
A, B & C
3. Mae lles a datblygiad plant, cyrhaeddiad addysgol a chynhyrchiant yn y
gweithle yn gwella wrth inni fynd i’r afael â thlodi.
A, C& E

Yn ein Trosolwg, gwnaethom ddweud mai dyma strategaeth
iechyd meddwl gyntaf Cymru sydd yn cynnwys yr amcan i hybu iechyd meddwl ac
atal problemau iechyd meddwl. Mae Pennod 1 yn canolbwyntio ar y nod penodol
hwn. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth, yn crynhoi sut y mae gwahanol agweddau o
weithgarwch y llywodraeth yn medru cael effaith bositif ar les meddyliol ac
mae’n croesgyfeirio at ystod o strategaethau a mentrau eraill Llywodraeth
Cymru. Mae hefyd yn cyfeirio at nifer o gysyniadau yr ydym yn gwybod sydd yn
gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles meddyliol positif megis “cydlyniant cymdeithasol”, “cynhwysiant cymdeithasol”, a “chadernid”.  O ganlyniad, mae’n bwysig crynhoi’r bennod
anodd yma’n dda, ond mewn gwirionedd, mae’n amlinellu sut y bydd iechyd meddwl yn
cael ei hyrwyddo ar dair lefel.

. Ar lefel y boblogaeth – Mae’r adran hon yn
datgan unwaith eto’r hyn yr ydym yn gwybod yn barod, sef bod anghydraddoldebau
iechyd ac anghydraddoldebau cymdeithasol yn gysylltiedig â’i gilydd a bod
ffactorau megis tlodi,  arwahanrwydd
cymdeithasol, camdriniaeth yn y cartref a chamdriniaeth arall, bwlio, amodau
gwaith afiach,  gorlenwi, a digartrefedd
oll yn effeithio’n negatif ar iechyd meddwl pobl. Mae’n awgrymu fod
strategaethau cyfredol y llywodraeth sydd yn ceisio lleihau anghydraddoldebau
iechyd yng Nghymru hefyd yn mynd i arwain at welliannau yn iechyd meddwl y
genedl.

.  O fewn cymunedau – Mae’r adran hon yn datgan unwaith eto’r cysylltiad
rhwng tlodi ac iechyd meddwl  gwael, a’r
angen am waith ymatal mewn meysydd tlodi. Mae’n ceisio hyrwyddo iechyd meddwl
drwy raglenni cymunedol sydd wedi eu targedu: drwy gynlluniau sensitif a
pholisïau amgylcheddol; drwy weithgareddau positif megis chwaraeon, celf a
diwylliant; a thrwy arfer da mewn ysgolion a’r gweithle.  Mae hefyd yn
gwneud cyfeiriad penodol at weithredu argymhellion “Beth am Siarad  Fi?”,
Cynllun Cyflawni cyfredol Llywodraeth Cymru er mwyn lleihau cyfraddau
hunanladdiad a hunan-niweidio.

.  Ar gyfer unigolion – Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar grwpiau penodol o
bobl sydd mewn risg uwch o brofi afiechyd meddwl ac ar yr angen  ymyrryd yn bositif er mwyn lleihau’r risg
hwnnw.  Yn benodol, mae’n cyfeirio at:

–    yr angen i
roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bobl ifanc ac i ymyrryd yn bositif gyda phlant
a rhieni lle nad yw hyn yn cael ei gyflawni;

–    adnabod pobl sydd yn dioddef straen penodol mewn bywyd ac o bosib
na sydd yn meddu ar fynediad hawdd at ofal iechyd (megis  ffoaduriaid, cyn-filwyr, merched sydd yn cael
eu cam-drin, pobl yn y system cyfiawnder troseddol) ac i dargedu adnoddau at y
grwpiau hyn;

–    adnabod y
risgiau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, p’un ai drwy ffactorau cymdeithasol megis
unigrwydd neu drwy ffactorau iechyd sydd yn ymwneud â henaint ac eto ymyrryd yn
bositif er mwyn atal problemau iechyd meddwl.

Mae’r adran hon hefyd yn
edrych ar rai o’r risgiau iechyd meddwl ychwanegol sydd yn cael eu hwynebu gan
bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl hirdymor gan gynnwys iechyd corfforol
gwael a phroblemau sydd yn ymwneud ag ysmygu, camddefnyddio cyffuriau ac
alcohol a’r angen i dargedu mentrau hyrwyddo iechyd priodol at y grŵp hwn.

PENNOD 2 O’R
STRATEGAETH – PARTNERIAETH NEWYDD GYDA’R CYHOEDD

Canlyniadau Pennod 2 Canlyniadau
Lefel Uchel
4. Mae pobl â nodweddion gwarchodedig a grwpiau hyglwyf
yn cael mynediad teg, ac mae gwasanaethau’n fwy ymatebol i anghenion  poblogaeth amrywiol Cymru.
B, C & E
5. Gall siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gael mynediad i
driniaeth a gofal iechyd meddwl yn yr iaith briodol iddynt hwy pan fydd angen
hynny.
C, D & E
6. Mae gan bobl yng Nghymru’r wybodaeth a’r gefnogaeth
y mae eu hangen arnynt i gynnal a gwella eu hiechyd meddwl a hunanreoli eu
problemau iechyd meddwl.
A & B
7. Mae pobl â salwch meddwl yn profi llai o stigma a
gwahaniaethu ac yn teimlo bod sylw’n cael ei roi i’r problemau hyn.
C & D
8. Mae pobl yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth fel
partneriaid wrth wneud penderfyniadau am eu triniaeth a’r ffordd y caiff ei
darparu.
C, D & E
9. Mae teuluoedd a gofalwyr o bob oedran yn cael eu
hasesu i weld a oes angen cymorth arnynt i wneud eu gwaith gofalu.
B & D
10. Mae pobl o bob oedran a chymunedau yng Nghymru yn
cael eu cynnwys yn effeithiol yn y gwaith o gynllunio, darparu a gwerthuso eu
gwasanaethau iechyd meddwl lleol.
D & E

Mae’r Bennod hon yn canolbwyntio ar wella ymwybyddiaeth
iechyd meddwl a deall anghenion pobl ag afiechyd meddwl, ar draws Cymru. Mae’n
ceisio hyrwyddo dull mwy cynhwysol fel bod iechyd meddwl ac afiechyd meddwl yn
dod yn fusnes i bawb, p’un ai fel darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr
gwasanaeth, teuluoedd a gofalwyr, pobl sydd â chyfrifoldebau megis y cyfryngau,
cyflogwyr ac yn y blaen a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’n datgan ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i wella gwybodaeth, mynediad ac ymglymiad mewn meysydd
penodol fel a ganlyn:

Sicrhau cydraddoldeb – fel bod hawliau dynol pobl sydd â phroblemau iechyd
meddwl, boed mewn gwasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau yn fwy
cyffredinol, yn cael eu hamddiffyn a bod amrywiaeth yr angen yn cael ei adnabod
yn well

.  Diwallu
anghenion siaradwyr Cymraeg
– fel bod
siaradwyr Cymraeg yn medru derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf

Hybu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl – darparu gwybodaeth o ansawdd gwell am iechyd meddwl ac afiechyd meddwl
ac yn enwedig o gwmpas rhai materion allweddol megis gwella ymwybyddiaeth o
wasanaethau mewn Gofal Sylfaenol, gwella ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl
ymhlith plant a phobl ifanc, trafod materion iechyd meddwl yn y gweithle a
gwella ymwybyddiaeth o ddementia

.  Lleihau stigma a gwahaniaethu– yn cydnabod y lefelau uwch o wahaniaethu sydd yn cael
eu hwynebu gan bobl sydd ag afiechyd meddwl a mynd i’r afael â hyn yn y
cyfryngau, o fewn gwasanaethau ac yn y boblogaeth yn fwy eang

.  Ymgysylltu â phobl yn eu gofal eu hunain – fel bod defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd yn chware
rôl fwy gweithgar “fel partneriaid” o ran cynllunio a rheoli eu gofal eu hunain
a bod yna fwy o gefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr

.  Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn chware rhan – cydnabod y gwerth o roi llais i bobl sydd â phrofiad
uniongyrchol o wasanaethau a sicrhau eu bod yn chware rhan yn y broses o
gynllunio, dylunio a monitro.

PENNOD 3 O’R STRATEGAETH – RHWYDWAITH GOFAL
SYDD WEDI EI GYNLLUNIO’N DDA A’I INTEGREIDDIO’N LLAWN

Canlyniadau Pennod 3 Canlyniadau Lefel Uchel
11. Mae defnyddwyr gwasanaethau yn cael gwasanaeth mwy
integredig gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau.
D, E & F
12. Mae pobl o bob oedran yn elwa o ymyriadau sy’n
seiliedig ar dystiolaeth cyn gynted â phosibl ac o fynediad gwell at
therapïau seicolegol.
D, E & F
13. Mae profiad y defnyddiwr gwasanaeth yn well, gyda
diogelwch ac urddas wedi’u sicrhau a’u gwreiddio mewn gwasanaethau
cynaliadwy.
C, D, E & F
14. Mae darparwyr yn rheoli risg yn gadarnhaol, gan
gefnogi pobi i gynyddu eu lefelau o ran gobaith a dyhead a’u galluogi i
wireddu eu potensial yn llawn drwy’r dulliau adfer ac ail-alluogi.
B, C, D, E & F

Mae’r Bennod hon, sef y bennod hiraf o bum
pennod y Strategaeth, yn canolbwyntio ar wasanaethau a darparu gwasanaethau.
Fel yn achos strategaethau iechyd meddwl cynt, y geiriau a’r ymadroddion
allweddol yw darparwyr gwasanaeth yn “gweithio gyda’i gilydd”, “mewn
partneriaeth”, gyda “rheolaeth integredig” a “chyllidebau cyfun” sydd yn arwain
at “lwybrau gofal integredig” a “gofal holistaidd”. Mae’r Strategaeth yn chwilio’n
benodol am wasanaethau a llwybrau gofal integredig rhwng:

.  Gofal Sylfaenol, gyda phwyslais ar adnabod
problemau yn gynnar a gofal  hydredol
parhaus ar y cyd gyda Fferyllfeydd Cymunedol

Gwasanaethau Arbenigol Cymunedol gan gynnwys
Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a’r Glasoed, Tîm Ymyriadau Dwys Cymunedol (CIITs),
Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHTs) a Gwasanaethau Datrys a Thriniaeth
yn y Cartref (CRHTs)

.  Gofal i gleifion mewnol gyda llai o welâu ond
rhai mewn adeiladau modern gydag ystafelloedd sengl ac adnoddau ar wahân i
ddynion/merched, yn cynnig gofal a thriniaeth gwell sydd wedi eu ffocysu a
pharhau’n agos at wasanaethau cymunedol er mwyn lleihau gymaint â phosib y
nifer sydd yn gorfod dychwelyd i’r ysbyty ac unrhyw oedi yn y broses o ryddhau
rhywun o’r ysbyty

Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol sydd yn cydnabod
hawl troseddwyr i dderbyn triniaeth a chefnogaeth briodol ac i ddarparu’r rhain
drwy gydlynu’n well a gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae Pennod 3 wedyn yn parhau gyda rhestr hirfaith o
“flaenoriaethau datblygu gwasanaethau”. Ceir mwy na 30 o eitemau ac eto maent
yn weddol gyffredinol o ran eu natur. Mae’r rhestr yn rhy hir i’w chrynhoi yma
ond mae’n cynnwys eitemau megis:

diogelu’r rhai mwyaf hyglwyf, diogelwch cleifion a diogelwch cyhoeddus

.  hyrwyddo annibyniaeth

.  gwella ymyriadau a therapïau seicolegol

gwella ymyriadau ar gyfer “cyflyrau sy’n cyd-ddigwydd”, gan gynnwys
camddefnyddio sylweddau, anhwylderau bwyta, anhwylderau personoliaeth,
anableddau dysgu ac awtistiaeth,
niweidio synhwyrau a’r sawl sydd yn dioddef trais rhywiol

gwella gwasanaethau i bobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl a

gwella’r gofal a’r gefnogaeth i bobl sydd â dementia.

Mae’r bennod yma yn canolbwyntio felly ar well a datblygu
gwasanaethau’n barhaol, ac wrth gwrs, mae Hafal yn cefnogi hyn yn llwyr. Fodd
bynnag, mae’n gyffredinol iawn o ran ei natur ac nid yw’n cynnwys er enghraifft
unrhyw ddarlun, rhifau neu ffigyrau clir am sut y dylai rhwydwaith o
wasanaethau lleol ymddangos yn yr unfed ganrif ar hugain.

PENNOD 4 O’R
STRATEGAETH – UN SYSTEM I WELLA IECHYD MEDDWL

Canlyniadau Pennod 4 Canlyniadau Lefel Uchel
15. Mae pobl o bob oedran yn gweld gwelliant cynaliadwy
i’w hiechyd meddwl a’u lles o ganlyniad i ymrwymiad traws-Lywodraethol i’r
holl sectorau’n gweithio gyda’i gilydd.
A, B, C, E & F

Mae Pennod 4 yn trin a thrafod meysydd tebyg
i bennod 3, gwelliant parhaus a datblygu gwasanaethau iechyd meddwl ond maent
yn gwneud hyn o bersbectif gwahanol iawn. Felly, tra bod pennod 3 yn awgrymu’r
blaenoriaethau ar gyfer darparwyr gwasanaeth, mae pennod 4 yn amlinellu
sut  y dylai’r rhain effeithio’n bositif
ar brofiad uniongyrchol y defnyddiwr gwasanaeth ac mae’n canolbwyntio’n benodol
ar Gynllunio Gofal a Thriniaeth effeithiol. Dyma un o’r penodau mwyaf arloesol
y Strategaeth, yn adeiladu’n uniongyrchol ar y Mesur Iechyd Meddwl, ac felly,
mae’n bennod  allweddol ar gyfer Hafal.

Mae’n dechrau drwy ddatgan pwysigrwydd dull cynhwysfawr neu holistaidd i
gynllunio gofal a thriniaeth ac yn amlinellu’n gwbl glir y disgwyliadau ar
gyfer pob un o’r wyth agwedd o fywyd sydd wedi eu disgrifio isod. Ar gyfer
plant a phobl ifanc, mae hyn yn ffordd i sicrhau fod y ‘7 Amcan Craidd’ o dan yr
CCUHP yn cael eu gwireddu.

.  Hawliau – Cyllid ac Arian – yn cydnabod effeithiau
negatif tlodi a’r angen i gynorthwyo pobl sydd, yn sgil eu salwch o bosib, yn
esgeuluso eu cyllid person ac yn dioddef problemau gyda dyledion.

.  Cartref neu Lety Diogel – yn cydnabod effaith
negatif digartrefedd a thai gwael a’r angen i gynnig ystod o opsiynau tai gyda
chymorth priodol

.  Iechyd, Gofal Personol a Lles Corfforol yn cydnabod fod pobl sydd â diagnosis seiciatryddol yn meddu ar gyfraddau
disgwyliad oes dipyn yn is a’r angen i gynorthwyo pobl o fyw bywyd mwy iach a
mynediad at ofal  iechyd corfforol da.

.  Blynyddoedd Cynnar, Ysgol, Addysg a Hyfforddiant – yn cydnabod fod pobl iau sydd yn derbyn diagnosis o broblem iechyd meddwl
yn arwain at ganlyniadau addysgol is a’r angen i gynnig cyfleoedd  addysgol pellach

.  Gwaith, Galwedigaeth a Gweithgareddau Dyddiol Gwerthfawr – yn cydnabod pwysigrwydd gwaith neu alwedigaeth werthfawr i iechyd meddwl da
a’r angen i gynnig ystod o fentrau i helpu pobl sydd yn straffaglu i ddechrau,
neu i ddychwelyd, i’r gwaith yn sgil afiechyd meddwl

.  Teulu, Rhianta a/neu Berthnasau Gofalu – yn cydnabod fod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn meddu ar yr un hawl
i gael bywyd teuluol â phawb arall ac efallai bod angen help a chymorth arnynt
yn y maes hwn o’u bywydau

.  Mynediad at chwarae, hamdden a ffrindiau anghenion cymdeithasol,
diwylliannol neu ysbrydol – 
yn cydnabod fod iechyd meddwl gwael yn debyg o arwain at effaith negatif ar
ymdeimlad person o hunanwerth a’r angen i helpu pobl i gynnal neu ail-ennill
cymorth teulu a ffrindiau ac i chwarae rhan yn eu cymunedau lleol

Ffurfiau meddygol a ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys ymyriadau
seicolegol – 
yn cydnabod y dylai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl  dderbyn triniaeth a chymorth cynhwysfawr ar
gyfer eu hafiechyd seiciatryddol ac unrhyw broblemau iechyd corfforol arall a
dylai hyn gynnwys dealltwriaeth o sgil-effeithiau a chymhlethdodau eraill.

Yn Atodiad Technegol 3 ar ddiwedd y Strategaeth, mae yna fwrdd sydd yn
amlinellu sut y dylai asiantaethau gwahanol oll gyfrannu at gynllun gofal
personol.

PENNOD 5 O’R STRATEGAETH – CYFLAWNI AR GYFER IECHYD
MEDDWL

Canlyniadau Pennod 5 Canlyniadau Lefel uchel
16. Mae staff ar draws y gweithlu ehangach yn adnabod
arwyddion a symptomau salwch meddwl a dementia ac yn ymateb iddynt.
A, B, E & F
17. Mae arweinwyr ysbrydoledig a digon o weithwyr
cymwys wedi’u hyfforddi yn sicrhau diwylliant diogel, therapiwtig, creadigol
a grymusol.
C, D, E & F
18. Mae gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar
dystiolaeth yn cael eu darparu drwy fuddsoddi mewn iechyd meddwl yn
effeithiol a phriodol.
B, E & F

Mae Pennod
5 yn symud o’r “the what” i “the how“, yn
disgrifio rhai materion allweddol ar gyfer gweithredu’r Strategaeth.

.  Byrddau Partneriaeth Iechyd Meddwl Cenedlaethol Mae’r Bwrdd hwn, a wnaeth ddod ynghyd yn gyntaf yn Rhagfyr 2012, yn meddu
ar rôl allweddol o ran monitro gweithrediad y Strategaeth a’r Cynllun Cyflawni,
ar lefel genedlaethol. Mae’n cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, y sectorau
statudol, gwirfoddol ac annibynnol a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae
ganddo gysylltiadau hefyd gyda grwpiau ymgynghorol proffesiynol megis y Colegau
Brenhinol.

.  Byrddau Partneriaeth Lleol Mae’r rhain yn meddu ar
y cyfrifoldeb o weithredu’r Strategaeth ar lefel mwy lleol, yn seiliedig ar
ardaloedd y 7 Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Dylent gael “trefniadau
partneriaeth iechyd meddwl lleol cadarn” ac maent yn cynnwys cynrychiolaeth ar
lefel uwch o’r Byrddau Iechyd Lleol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Asiantaethau
Tai a Chyfiawnder Cymdeithasol, Addysg a’r Trydydd Sector. Rhaid i ddefnyddwyr gwasanaeth
a gofalwyr hefyd i chwarae rhan lawn.
Mae cysylltiadau priodol i’w sefydlu hefyd gyda’r gwasanaethau CAMHS a’r
Grwpiau Cynllunio Iechyd Meddwl a Chyfiawnder Troseddol.

.  Y Gweithlu posib
gyda gweithlu effeithiol. Mae hyn yn golygu:

–    arweinyddiaeth gref

–    staff sydd wedi eu hyfforddi’n dda ac yn meddu ar “lefel
uchel o lythrennedd ac ymgysylltiad iechyd meddwl”

–    staff sydd yn medru
darparu gwasanaethau holistaidd yn “seiliedig ar adferiad  a galluogi a rheoli risgiau’n briodol”, ac yn
medru gweithio ar y cyd gyda defnyddwyr gwasanaeth

–    cysylltiadau cryf gyda’r gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd gyda
dealltwriaeth gyffredinol o faterion iechyd meddwl a dull  trefnus a chyson

–    gweithlu sydd yn newydd neu’n
medru cael eu “hail-ddylunio” yn unol ag arferion newydd a gwell.

.  Gwella Perfformiad Mae’r Strategaeth yn
ceisio chwilio am welliant parhaus mewn gwasanaethau, yn dysgu gan  arferion da cyfredol a’r dyfodol. Mae hefyd
yn cyfeirio at bwysigrwydd ymchwil iechyd meddwl, yn enwedig ymchwil am brofiad
defnyddwyr gwasanaeth a defnyddio canfyddiadau’r ymchwil er mwyn gwella gwasanaethau.

.  Cyllid Yn olaf, mae’r Strategaeth yn edrych ar y mater
allweddol o gyllid. Nid yw’n syndod, gan feddwl am yr oes economaidd pan
gyhoeddwyd y Strategaeth, nad yw’n canolbwyntio ar unrhyw arian newydd ond yn
ceisio “sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei defnyddio”. Mae’r Strategaeth yn
disgwyl bod y gwariant yn cael ei graffu a bod modd sicrhau gwerth gwell gan
adnoddau cyfredol, Mae hefyd yn disgwyl fod arian yn cael ei arbed ond yn
datgan y dylid, lle bo hyn yn digwydd, ail-fuddsoddi’r arian mewn gwasanaethau
iechyd meddwl. Ar hyn o bryd, mae tua 12% o gyllid y GIG yng Nghymru yn cael ei
wario ar iechyd meddwl ac mae disgwyl bod y gwariant yn mynd i barhau tua’r
lefel yma. Felly, er mwyn crynhoi,  rhai
o’r prif ymadroddion allweddol sydd yn cael eu defnyddio yn yr adran hon ar
arian, yw:

–     gwella tryloywder gwybodaeth gyllidol a gwirio gwariant ar draws
y Byrddau Iechyd Lleol

–    gwneud y defnydd gorau o gyllid cyfredol ac adnabod arbedion posib

–    clustnodi gwariant cyfredol ac
ail-fuddsoddi’r arbedion hynny mewn gwasanaethau iechyd meddwl

–    defnyddio’r £9 miliwn
ychwanegol (£4 miliwn ym 2012/13 a’r £5 miliwn o 2013) sydd nawr ar gael i
weithredu’r Mesur Iechyd Meddwl yn greadigol er mwyn gwella mynediad at
wasanaethau.