Cyfweliad MHW: Mandy Rayani, Nyrs Adrannol, Ymddiriedolaeth GIG Abertawe

Cyfweliad MHW: Mandy Rayani, Nyrs Adrannol, Ymddiriedolaeth GIG Abertawe

Pam dewisoch chi yrfa mewn iechyd meddwl?

Roedd gennyf ddiddordeb mewn gofalu am bobl erioed ac wrth dyfu i fyny, deuthum i gysylltiad rheolaidd â phobl hŷn a oedd yn byw yn y cartref preswyl lle roedd mam-gu a mam yn gweithio. Dyma sbardunodd fy niddordeb mwy ffurfiol mewn gofal, rwy’n credu. Dim ond pan es ati i wneud cais am yrfa mewn nyrsio y sylweddolais y gallwn hyfforddi yn benodol ym maes iechyd meddwl. Ar ôl cael mwy o wybodaeth am ofal a thriniaeth i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, penderfynais mai dyma’r maes y gallwn wneud cyfraniad a gobeithio gwneud gwahaniaeth ynddo.

Pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnoch?

Mae nifer o bobl wedi dylanwadu ar fy mywyd ar wahân i aelodau agosaf fy nheulu. Rwy’n cofio (pan oeddwn yn f’arddegau ac mewn addysg Babyddol) i Martin Luther King greu argraff fawr arnaf. Cefais fy nharo gan ei weledigaeth, ei gredoau a’i angerdd. Creodd y Fam Teresa o Calcutta ddylanwad mawr arnaf hefyd am ei chryfder, ei stamina a’i chariad at ddynolryw.

O safbwynt gwaith, cefais fy nylanwadu gan lawer o bobl ond yn benodol gan gyn reolwr a oedd wedi fy nysgu ynghylch yr angen am safonau. Nid yn unig safonau sylfaenol ond hefyd i gael nod i gyflawni’r safon uchaf bosibl. Mae hyn wedi fy arwain i edrych ar sut gallwn wella ar yr hyn rydym yn ei wneud bob amser.

Pa newidiadau ydych chi wedi sylwi arnynt yn ystod eich gyrfa mewn nyrsio iechyd meddwl?

Bu llawer o newidiadau yn ystod fy ngyrfa o 21 o flynyddoedd mewn nyrsio. Ar wahân i’r ad-drefnu parhaus bron yn y GIG ac ad-drefnu gwasanaethau ar lefel fwy lleol, rwyf wedi gweld newid cadarnhaol mewn gofal i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Mae gwasanaethau heddiw wedi’u canolbwyntio yn y gymuned gyda phwyslais ar y model adfer. Mae’r newid enfawr yn natblygiad cynnwys y defnyddiwr a’r gwir werth a roddir i adborth y defnyddiwr yn gam cadarnhaol arall ymlaen. Croesewir hefyd y pwyslais cynyddol yn ddiweddar ar gymorth i ofalwyr trwy’r broses asesu gofalwyr. Fodd bynnag, byddwn yn dweud bod rhai newidiadau i’w gwneud hefyd sydd wedi arwain at daflu’r llo a chadw’r brych fel petai. Rwy’n falch o ddweud fy mod i bellach yn teimlo bod proffil uwch yn cael ei roi i’r materion sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl yn yr agenda gofal iechyd gyffredinol.

Beth yw eich cyflawniad mwyaf?

Rwy’n falch o fod yn y sefyllfa rwyf ynddi heddiw fel Nyrs Adrannol – yn bennaeth proffesiynol ac arweinydd rheolaeth glinigol, ond rwy’n hynod falch o’r MSc mewn Rheolaeth Gofal Iechyd a gefais ychydig flynyddoedd yn ôl. O ran cyflawniad o safbwynt gwasanaeth, rwy’n falch, fel gwasanaeth, ein bod wedi ymateb yn gadarnhaol i newid a syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio. Rwy’n hynod falch fy mod i wedi gallu hyrwyddo diwylliant mwy cefnogol o ddidwylledd a grymuso. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud eto.

Beth yw prif heriau eich swydd?

Mae bywyd yn llawn heriau ac mae bywyd gwaith yn esgor ar heriau cyson. Hwyrach mai ceisio cadw i fyny â’r negeseuon e-bost a’r gwaith papur wrth amsugno’r holl wybodaeth sy’n cylchdroi o amgylch y system yw un o’r heriau mwyaf o ddydd i ddydd. Mae ceisio cael eich gweld a bod ar hyd lle i gwrdd â staff a defnyddwyr gwasanaeth, sy’n rhywbeth rwyf wir yn mwynhau, hefyd yn eitha her o gofio’r ymrwymiadau yn y dyddiadur.

Beth yw’r materion sy’n wynebu nyrsys iechyd meddwl yng Nghymru?

Mae gan GIG Cymru faterion gweithlu sylweddol i fynd i’r afael â nhw. Er mwyn bodloni anghenion defnyddwyr gwasanaeth heddiw a mynd i’r afael â’r gofyniad sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf Iechyd Meddwl newydd, mae angen i gynnwys y gweithlu newid. Mae angen i nyrsys Iechyd Meddwl ail-ganolbwyntio eu hegni i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth a fydd yn eu galluogi i gyflwyno’r therapïau mwyaf effeithiol. Gall yr ail-ganolbwyntio hwn ddigwydd dim ond os byddwn yn trosglwyddo rhywfaint o’r tasgau mwy gweinyddol i eraill, yn ogystal â dirprwyo gweithgareddau penodol i staff eraill hyfforddedig a chymwys. Mae angen i ni werthfawrogi’r cyfraniad unigryw iawn sydd gan nyrsys iechyd meddwl cymwys i’w wneud i brofiad cyfan y cleifion.

Beth yw eich barn am ran y cleifion a’r gofalwyr?

Mae cymryd rhan yn ystyrlon gan y defnyddiwr a’r gofalwr yn allweddol i symud gwasanaethau yn eu blaen a sicrhau bod y gwasanaeth a geir yn briodol i anghenion unigol. Mae angen i ddefnyddwyr a gofalwyr gael eu cefnogi i allu gwneud cyfraniad ar bob lefel gyda’r gwir gostau sy’n gysylltiedig â’r angen i gydnabod a mynd i’r afael â rhan y defnyddiwr.

Beth yw’r tri pheth allweddol arall wella bywyd i bobl gyda salwch meddwl?

(i) Lleihau stigma – cynhwysiad cymdeithasol gwell.
(ii) Ymrwymiad a chymryd rhan yn ystyrlon.
(iii) Cael eu trin gydag urddas a pharch

Beth sy’n eich gwneud yn hapus?

Gallu teimlo bod fy nghyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ogystal â gallu cyflawni cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.