Adroddiad yn Annog Trin Iselder gydag Ymarfer Corff

Adroddiad yn Annog Trin Iselder gydag Ymarfer Corff
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn dweud y dylai Meddygon Teulu fod yn cynnig ymarfer corff ar bresgripsiwn i bob claf gydag iselder.

Mae’r adroddiad yn nodi y gall rhaglen dan oruchwyliaeth o ymarfer corff ar bresgripsiwn, fod yr un mor effeithiol â chyffuriau gwrth-iselder wrth drin iselder ysgafn neu gymedrol – ond bod Meddygon Teulu yn dal i droi at gyffuriau gwrth-iselder fel eu triniaeth gyntaf oherwydd y farn fod diffyg opsiynau eraill. Nid yw nifer o’r Meddygon Teulu a holwyd ar gyfer yr adroddiad yn credu bod ymarfer corff yn driniaeth effeithiol, er gwaethaf cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol a chronfa helaeth o dystiolaeth.

Mae prif ganfyddiadau’r adroddiad yn cynnwys:

• bod cost presgripsiynau gwrth-iselder yn Lloegr wedi codi o fwy na 2,000 y cant dros y ddeuddeng mlynedd ddiwethaf
• dim ond pump y cant o Feddygon Teulu sy’n defnyddio ymarfer corff fel un o’u tair triniaeth ymateb mwyaf cyffredin
• mae 92 y cant o’r Meddygon Teulu a holwyd ar gyfer yr adroddiad yn defnyddio cyffuriau gwrth-iselder fel un o’u tair triniaeth ymateb mwyaf cyffredin
• mae 78 y cant o Feddygon Teulu wedi rhagnodi cyffur gwrth-iselder yn y dair blynedd diwethaf, er eu bod yn credu y gallai triniaeth arall fod wedi bod yn fwy addas…
• mae dwy ran o dair o Feddygon Teulu a holwyd wedi gwneud hynny am nad oedd opsiwn addas arall ar gael, a 62 y cant am fod rhestr aros am yr opsiwn addas arall.

Mae’r Sefydliad yn gwneud nifer o argymhellion yn yr adroddiad. Yn gyntaf ymysg y rhain mae galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi £20 miliwn i ddatblygu a hyrwyddo cyfeiriadau ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer iselder ysgafn neu cymhedrol ar draws y DU – mae hyn yn cynrychioli tua phump y cant o’r gwariant blynyddol ar gyffuriau gwrth-iselder yn Lloegr.

Dywedodd Dr Andrew McCulloch, Prif Weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl: “Ar hyn o bryd, nid yw cleifion gydag iselder ysgafn neu gymedrol, sy’n gofyn i’w Meddygon Teulu am help, yn cael yr opsiwn o driniaeth effeithiol – cyfeiriad ymarfer corff. Mae rhai rhwystrau i roi ymarfer corff ar bresgripsiwn i bawb… ond nid ydynt yn rhai na ellir dod drostynt. Mae angen addysgu cymdeithas am fanteision ymarfer corff wrth drin iselder ysgafn neu gymedrol, ac mae angen i Feddygon Teulu fod yn ymwybodol bod cyfeiriadau ymarfer corff ar gael.”

Dywedodd Paul Bates, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd Meddal ac Anabledd yn South Tyneside Primary Care Trust: “Ar gyfer Meddygon Teulu, mae cost newid eu harfer yn un seicolegol yn hytrach nag ariannol. Maent yn dechrau gweld bod opsiynau eraill i ysgrifennu presgripsiwn, ac nad eu cyfrifoldeb nhw yn unig yw delio â phroblemau person – mae opsiynau eraill, ac mae cyfeiriad ymarfer corff yn enghraifft o hynny.”

Dywedodd Liz Griffiths, Cydlynydd Ymbweru Elusen Iechyd Meddwl Cymru, Hafal: “Mae ymarfer corff hefyd yn bwysig iawn i bobl gydag afiechyd meddwl difrifol, i wella eu hiechyd corfforol ac fel rhan o becyn o driniaeth a gofal, a allai hefyd gynnwys meddyginiaeth, wedi’i anelu at gyflawni adferiad.”

Mae’r adroddiad yn nodi dechrau ymgyrch blwyddyn o hyd, yn galw ar i bob claf gydag iselder ysgafn neu gymedrol gael cynnig therapi ymarfer corff. Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, neu i ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth am gynnal a gwella iechyd corfforol fel rhan o adferiad o afiechyd meddwl, ewch i’n tudalen am ymagwedd y person cyfan.