Cyfweliad: Matthew Butcher

Cyfweliad: Matthew Butcher
Mae Matthew Butcher yn gyn ddefnyddiwr gwasanaeth, gyda phrofiad o gael ei osod dan orfodaeth yn erbyn ei ewyllys, ac o frwydro yn erbyn penderfyniadau ei ddoctoriaid. Mae bellach yn Ymddiriedolwr o’r elusen iechyd meddwl, Hafal, a buom yn siarad ag e am ei brofiad personol o salwch, a’i nodau yn ei rôl newydd.

 

Pryd gawsoch chi eich pwl cyntaf?

Roeddwn i’n ddwy ar bymtheg oed ac yn mynd i ffwrdd i’r Llynges Frenhinol. Roeddwn i wedi pasio fy mhrofion i gyd, ac roeddwn i’n ymuno fel peiriannydd. Y penwythnos cyn i mi ymuno, mi es i glwb nos, meddwi’n lan, gwneud naid drosben a rhwygo’r gewynnau i gyd yn fy mhen-glin. Yn anffodus, oherwydd yr holl gymhlethdodau gyda fy mhen-glin – gan gynnwys gwenwyn gwaed – doedd y Llynges ddim yn fodlon cymryd risg arna i. Dyna pryd y dechreuais ddefnyddio cyffuriau. Yn y diwedd, diflannais gyda chriw o deithwyr a mynd i fyw mewn sgwat yn Llundain. Dechreuais gymryd cyffuriau’n fwy rheolaidd, gan gynnwys LSD.

Pan ddechreuodd pethau fynd yn drech na mi, fe neidiais ar drên adref a mynd mewn i dacsi. Doedd gen i ddim arian, ond fe ddywedais y byddai Mam yn talu’r gost. Ond doedd Mam ddim adra, felly aethpwyd â fi i orsaf yr heddlu. Cefais fy rhoi mewn cell, ac fel unrhyw un, dydw i ddim yn hoffi cael fy nghloi i mewn. Felly fe ddechreuais gicio’r drws. Pan gyrhaeddodd fy noctor lleol, dywedodd nad dyma’r Matthew yr oedd o’n ei adnabod, felly dywedodd eu bod am fy symud i Ysbyty Dewi Sant am asesiad. Dyna ni. Roeddwn i yn yr ysbyty am saith mis – fe gymerodd chwe mis i mi gael tribiwnlys.

Oedd yna amser hir cyn i chi gael eich rhoi dan orfodaeth eto?

Cefais fy rhoi dan glo pan oeddwn yn 26 neu 27, ar ôl bron i ddeng mlynedd heb unrhyw broblemau. Digwyddodd yr holl beth am fod y doctoriaid wedi dweud fy mod yn dadlau gormod gyda nhw. Roeddwn i wedi bod oddi ar fy meddyginiaeth ers amser hir ac yn gwneud yn dda – ond roedden nhw’n dweud efallai fy mod wedi achosi llawer o broblemau i mi fy hun drwy beidio â chymryd meddyginiaeth. Fe gostiodd y dadlau efo fy noctor bum mis o fy mywyd i mi y tro diwethaf.

Beth oedd eich profiad o gael eich gosod dan orfodaeth?

Rwy’n meddwl bod yr holl awyrgylch yn antherapiwtig. Mae pobl yn mynd yn wallgof o’ch cwmpas chi. Wedyn mae’r feddyginiaeth. Roeddwn i ar dawelydd oedd yn gwneud i’ch coesau symud a’ch gên dynhau, felly doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn siarad yn iawn. Dydw i ddim yn erbyn meddyginiaeth, wrth gwrs – mae ganddo rôl ar gyfer llawer o bobl. Ond dydi hanner y bobl rydych chi’n meddwl sy’n wallgof ddim yn wallgof mewn gwirioned, dim ond sgîl-effeithiau’r meddyginiaeth ydych chi’n ei weld.

Alla i ddim meddwl am ateb, a fydden i ddim yn honni bod fy mhrofiad i – a fy agwedd at adferiad – yn mynd i fod yr un fath i rywun arall. Ond does neb eisiau cael eu rhoi dan glo. Mae angen rhoi rhai pobl dan glo. Ond os ydi rhywun dan ddylanwad cyffuriau, neu’n teimlo ofn, a bod rhywun yn dweud wrthynt “rwyt ti’n mynd i gael dy roi dan glo”, fe allai eu dinistrio nhw – yn enwedig pobl sy’n eithaf bregus neu agored i niwed.

Y peth sy’n codi ofn arna i yw pobl sy’n dod allan wedi’u heffeithio’n fawr gan yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ysbyty. Maen nhw’n colli eu hystyfnigrwydd.

Mae’n rhaid i mi ddweud bod llawer o’r staff yn bobl wych, ymroddgar sy’n gweithio am gyflog isel. Dyna yw’r peth – mae ymgynghorwyr yn ennill llawer o arian, ond fe dreuliais i fwy o amser yn siarad â chynorthwywyr
nyrsio, gan fod yr holl nyrsys uwch yn brysur gyda gwaith papur. A glanhawyr. Os ydych chi eisiau gwybod sut mae unrhyw un ar ward, gofynnwch i’r glanhawr.

Beth ydych chi’n meddwl yw’r allwedd i well gwasanaethau?

Arian. Lle mae’r arian? Dydw i ddim yn hoffi’r holl syniad o chwilio o gwmpas am arian, oherwydd os oes angen gwasanaeth a’i fod wedi’i nodi y dylai fod ar gael, yna dylai’r arian fod ar gael hefyd.

Gyda’ch profiad chi o orfodaeth mewn cof, beth ydych chi’n ei feddwl o’r Mesur Iechyd Meddwl drafft?

Mae’r hen Fesur Iechyd Meddwl yn dweud y gallech gael eich rhoi dan glo os ydych chi’n beryglus i chi’ch hun neu i eraill. Fy nehongliad i o’r Mesur drafft yw, os yw’ch doctor yn meddwl eich bod ar fin cael pwl arall, fe all eich rhoi dan glo. Ar y funud, dwi’n meddwl fy mod i’n anghydffurfiwr, yn rhywun wnaiff ddadlau gyda’r cyngor meddygol. Os bydd fy noctoriaid yn cael y pðer newydd yma, efallai y byddan nhw’n penderfynu fy rhoi dan orfodaeth pan allai hynny fod y peth gwaethaf i mi mewn gwirionedd.

Beth sydd wedi’ch helpu i ddod drwy bob dim sydd wedi digwydd i chi?

Help ac amser, amynedd a theulu sydd wedi fy nghael i drwy’r amseroedd anodd yn fy mywyd. Rydw i wedi achosi llawer o boen i ffrindiau a theulu, ac mi hoffwn i ymddiheuro’n fawr am hynny! Ond mae ‘na olau’r ochr draw, a lle bynnag mae rhywun – mewn ysbyty neu’n eistedd yn isel eu meddwl – un diwrnod, ychydig ar y tro, fe ddaw pethau’n well.

Rwyf bellach yn Ymddiriedolwr ar gyfer Hafal, yr elusen iechyd meddwl a helpodd fi ganfod ffordd ymlaen pan oeddwn i’n gleient yn eu prosiect tai lleol. Roedd Mam yn Ymddiriedolwr ac yn Drysorydd o fy mlaen, felly roedd gen i ddiddordeb. Dywedodd Mam wrtha i na ellwch chi newid pethau na chwyno os nad ydych chi’n cymryd rhan. Rwy’n gobeithio cynnau tân dan gwpl o bobl yn fy rôl newydd. Rwy’n gobeithio bod gen i safbwynt gwahanol. Rwy’n credu mai un o’r rhesymau y cefais fy rhoi yn y rôl oedd i fod yn llais gwahanol.