Cyfweliad: Penny Roberts, Swyddog Cyswllt Iechyd Meddwl ar gyfer Heddlu De Cymru

Cyfweliad: Penny Roberts, Swyddog Cyswllt Iechyd Meddwl ar gyfer Heddlu De Cymru

• Beth yw prif heriau’ch swydd?

Cefais fy mhenodi’n Swyddog Cyswllt Iechyd Meddwl yr Heddlu ym mis Gorffennaf 2004. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio fel swyddog bît cymunedol ac roedd fy ngwybodaeth am faterion iechyd meddwl yr un fath â gwybodaeth nifer o swyddogion bît eraill – sylfaenol iawn! Yn bendant nid oeddwn yn sylweddoli pa mor gyffredin yw afiechyd meddwl, a sut y gall effeithio ar unrhyw un ohonom ni ar unrhyw adeg. Nid oeddwn yn sylweddoli chwaith fod yna gyfoeth o gefnogaeth i’w gael yn y gymuned, felly mae’n dipyn o her (er ei fod yn rhoi mwynhad mawr!) i mi greu cysylltiadau newydd a datblygu fy ngwybodaeth a fy arbenigedd fy hun.

Rwyf felly wedi canfod fy hun yn dechrau ar her arall, sef datblygu rhaglen hyfforddi iechyd meddwl sydd wedi’i chynllunio i godi ymwybyddiaeth a gwella gwybodaeth pob swyddog bît.

• Beth yw’r materion afiechyd meddwl sy’n wynebu’r heddlu heddiw?

Yn ôl natur ein swydd, mae Swyddogion yr Heddlu yn gyffredinol yn wynebu afiechyd meddwl pan fydd argyfwng. Bydd hyn yn cael ei gymhlethu pan fydd problem o gamddefnyddio alcohol/sylweddau yn cyd-ddigwydd, gan arwain at swyddogion yn cael eu gwrthod mewn ysbytai ac yn gorfod defnyddio celloedd yr heddlu fel lle diogel. Fel yr ydym i gyd wedi darllen yn y wasg yn ddiweddar mae’n debyg, roedd hanner yr holl bobl a fu farw yn y ddalfa yn ystod 2004 yn dioddef afiechyd meddwl. Mae hyn yn gorfodi’r heddlu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i gydweithio er mwyn delio’n effeithiol â materion iechyd meddwl yn ein cymunedau.

• Sut mae gwaith yr heddlu yn cyd-fynd â gwasanaethau statudol a gwirfoddol?

Mae Heddlu De Cymru yn cynnwys 7 Uned Gorchymyn Sylfaenol. Yn yr adrannau hyn, mae gennym swyddogion Cyswllt Iechyd Meddwl sy’n delio â materion lleol. Mae’r swyddogion hyn yn gweithio’n bennaf o fewn yr Adrannau Diogelwch Cymunedol adrannol, ac maent felly mewn cysylltiad rheolaidd â gwasanaethau statudol a gwirfoddol. Rydw i a’r swyddogion cyswllt adrannol hyn i gyd yn cymryd rhan reolaidd mewn gweithgorau amlasiantaeth, sy’n cynnwys aelodau o nifer o wasanaethau statudol a gwirfoddol. Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i ddelio â materion iechyd meddwl mewn amgylchedd amlasiantaethol.

• Sut ydych chi’n gweithio i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o rôl yr heddlu i’r gymuned iechyd meddwl?

Ar hyn o bryd, rwyf yn cyflwyno rhaglen hyfforddi iechyd meddwl i swyddogion bît, sydd wedi’i chynllunio i wella eu dealltwriaeth o’u cyfrifoldebau dan Adran 136 Deddf Iechyd Meddwl 1983. Rwyf yn bwriadu ehangu’r rhaglen hon i bob cwnstabl ar gyfnod prawf o fis Ebrill 2005. Rwyf hefyd yn gweithio ar raglen hyfforddi adnabyddiaeth, fydd yn cael ei chyflwyno i swyddogion yr heddlu gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd. Bydd hyn yn datblygu sgiliau swyddogion yr heddlu o ran adnabod symptomau gwahanol fathau o afiechyd meddwl.

• Sut ydych chi’n meddwl y bydd y Mesur Iechyd Meddwl Drafft yn effeithio ar rôl yr heddlu o ran afiechyd meddwl?

Mae’r Mesur Iechyd Meddwl newydd yn canolbwyntio fwy ar ofal ar lefel gymunedol. Mae’n rhoi cyfle i Heddlu De Cymru a’n partneriaid mewn Byrddau Iechyd Lleol gydweithio i sefydlu dulliau mwy effeithlon o ddelio â chleifion sydd mewn argyfwng. Dylai pobl sy’n profi afiechyd meddwl difrifol dderbyn cefnogaeth a thriniaeth gyflym a phroffesiynol, ac mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ein hymatebion ar y cyd mewn modd sy’n delio orau ag anghenion y cleifion hyn.

• Mae ffigurau diweddar yn dangos bod gan ganran uchel o bobl sydd mewn carchar afiechyd meddwl. Beth yw eich rhan chi yn y gwaith o wella gwasanaethau cyfeirio llysoedd?

Mae gwella cysylltiad yr heddlu â Nyrsys Cyfiawnder Troseddol, sy’n gweithio yn ardal Heddlu De Cymru, yn rhan o’r strategaeth ar gyfer Uned Iechyd Meddwl Heddlu De Cymru. Rwyf yn gweithio’n agos gyda swyddogion sy’n delio ag achosion lle mae’r diffynnydd yn dioddef o afiechyd meddwl. Rwyf yn rhoi cyngor am ddeddfwriaeth iechyd meddwl, ac ar ba wybodaeth y dylid ei gyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron er mwyn sicrhau bod y System Cyfiawnder Troseddol yn delio â’r unigolyn yn y ffordd fwyaf priodol ac yn ystyried eu hamgylchiadau unigol.

• Pam ddewisoch chi swydd yn ymwneud ag iechyd meddwl?

Bûm yn gweithio ar un adeg fel Cydlynydd Trais yn y Cartref yr Heddlu, a dyna pryd y sylweddolais ar y manteision mawr sydd i’w cael o weithio mewn amgylchedd amlasiantaethol. Pan hysbysebwyd y swydd hon, fe neidiais ar y cyfle i ddychwelyd i weithio i’r fforwm amlasiantaeth. Roeddwn i eisiau gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i wella’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig i bobl sy’n dioddef gydag afiechyd meddwl.

• Beth yw uchafbwynt eich gyrfa hyd yma?

Rwyf wedi bod yn gweithio i Heddlu De Cymru ers 18 mlynedd, fel staff cefnogi sifil ac fel swyddog heddlu. Yn ystod yr amser hwnnw, rwyf wedi delio a chymaint o ddigwyddiadau amrywiol ac wedi cyfarfod pobl o bob lliw a llun. Byddai’n annod iawn i mi ddewis un digwyddiad penodol. Fodd bynnag, rwy’n credu mai’r digwyddiad a roddodd y mwyaf o foddhad i mi oedd siarad o flaen 300 o bobl mewn cynhadledd Trais yn y Cartref, lle’r oedd yr AC Jane Hutt hefyd yn siaradwr gwadd. Roedd arnaf ofn, ond aeth dim o’i le ac fe dderbyniais adborth cadarnhaol iawn wedyn.

• Pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnoch chi?

Unwaith eto, fe fydden i’n ei chael hi’n anodd dewis un person. Rwyf wedi gweithio gyda swyddogion heddlu arbennig o wybodus a phroffesiynol, sydd wedi fy ysbrydoli a fy annog, yn enwedig pan oeddwn i’n gwnstabl ar gyfnod prawf. Pan fyddwch chi’n sôn am ddylanwad, fodd bynnag, rwy’n credu y byddai’n rhaid i mi ddweud bod dioddefwyr wedi dylanwadu arnaf fwy na neb, yn arbennig pan oeddwn i’n Gydlynydd Trais yn y Cartref. Pan fyddwch chi’n gweithio mor agos gyda rhywun sy’n ymddiried yn llawn yn eich gallu i newid eu bywyd er gwell, mae’n newid eich safbwynt eich hun am fywyd fel y mae, ac mae wedi gwneud i mi ganolbwyntio mwy ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn swyddog yr heddlu.

• Beth sy’n eich gwneud yn hapus?

Gwybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun drwy wneud y gorau y gallaf yn fy rôl fel swyddog yr heddlu.