Ymchwil Newydd yn Datgelu Cyfradd Hunanladdiad Uchel yng Nghymru

Ymchwil Newydd yn Datgelu Cyfradd Hunanladdiad Uchel yng Nghymru
Mae data sydd newydd ei ryddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y gyfradd hunanladdiad yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr.

Er bod y gyfradd hunanladdiad ymysg oedolion yn 2003 yn 11.4 i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr ar y cyd, roedd y gyfradd ar gyfer Cymru yn unig yn 13.9. Roedd y gyfradd hunanladdiad ymysg dynion yng Nghymru yn 22.5 i bob 100,000 o’r boblogaeth, o’i gymharu â 17.6 ar gyfer Cymru a Lloegr ar y cyd; y gyfradd ar gyfer merched yng Nghymru oedd 5.5 i bob 100,000 o’r boblogaeth, o’i gymharu â 5.7 ar gyfer Cymru a Lloegr.

Dangoswyd Castell-nedd Port Talbot fel yn un o’r rhanbarthau gyda’r gyfradd hunanladdiad uchaf, gydag 18.8 o oedolion i bob 100,000 o’r boblogaeth yn cyflawni hunanladdiad. Roedd y gyfradd ar gyfer dynion yn yr ardal hon yn arbennig o uchel ar 32.6 o bob 100,000 o’r boblogaeth.

Dangoswyd bod gan Merthyr Tudful a Sir Gaerfyrddin hefyd gyfran uchel o hunanladdiad ymysg dynion, gyda chyfraddau o 28.4 a 27.9 yn ôl eu trefn. Roedd gan Gonwy, ar y llaw arall, y gyfradd uchaf ond un o hunanladdiad ymysg merched yng Nghymru a Lloegr, gyda 13.6 o farwolaethau i bob 100,000 o’r boblogaeth.

Nododd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr elusen iechyd meddwl Cymru, Hafal: “Yn anffodus mae’r gyfradd hunanladdiad uchel yng Nghymru i rwy raddau yn adlewyrchiad o gyflwr y gwasanaethau sy’n delio ag iechyd meddwl.

“Mae nifer sylweddol o hunanladdiadau’n ganlyniad afiechyd meddwl difrifol sydd wedi’i ddiagnosio, yn enwedig sgitsoffrenia; ond nid yw hyn yn anochel: gall gwasanaethau cefnogi da, sy’n rhwystro pobl rhag gorfod dioddef ar eu pen eu hun ac mewn anobaith wneud gwahaniaeth mawr.”

I ddarllen yr adroddiad llawn am gyfraddau hunanladdiad ar gyfer Cymru a Lloegr, ewch i www.statistics.gov.uk