Iechyd meddwl yn cael ei anwybyddu ym maniffestos yr etholiad

Iechyd meddwl yn cael ei anwybyddu ym maniffestos yr etholiad

Er gwaethaf proffil uchel iechyd yn ymgyrchoedd Etholiad Cyffredinol 2005, nid oes yna’r un polisi iechyd meddwl penodol yn unrhyw un o faniffestos y tair prif blaid wleidyddol yn y DU.

Gwariant, rhestrau aros, glanweithdra mewn ysbytai… fe glywch chi am y rhain i gyd yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond nid yw iechyd meddwl ar yr agenda – er bod Adroddiad y Cydbwyllgor Seneddol ar Fesur Iechyd Meddwl drafft y Llywodraeth Llafur, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, wedi derbyn cryn dipyn o sylw yn y wasg, ac er gwaethaf yr addewidion gan y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol i greu Deddf Iechyd Meddwl newydd, pe baent yn dod i rym.

Fodd bynnag, mae elusennau a sefydliadau iechyd meddwl yn benderfynol na ddylai materion iechyd meddwl gael eu hanwybyddu yn y cyfnod cyn yr etholiad. Mae nifer ohonynt wedi ymateb drwy gynhyrchu eu maniffestos a’u rhestrau materion eu hunain ar gyfer yr etholiad – dilynwch y cysylltau hyn i ddarllen cyhoeddiadau Etholiad 2005 gan:

Alzheimers Society

Carers UK

Hafal

Mind

Rethink

Coleg Brenhinol Seiciatryddion