Prosbectws Gyrfa Cynhalwyr mewn Ffocws

Prosbectws Gyrfa Cynhalwyr mewn Ffocws
Mae cynhalwyr yng Nghymru yn fwy tebygol nag unrhyw fan arall ym Mhrydain i gael trefniadau hyblyg gyda chyflogwyr.

Mi ddatgelodd Arolwg Cynhalwyr 2005 bod 84% o gynhalwyr sydd mewn gwaith cyflogedig yng Nghymru a threfniadau gweithio hyblyg gyda’u cyflogwyr, dyma’r hyn yr uchaf ym Mhrydain, 70% yw’r cyfartaledd.

Serch hynny, mae pryderon wedi eu mynegi nad yw’r ffigwr yma o bosib yn cynrychioli’r gwir rif gan fod nifer o bobl yn darganfod y stigma sydd yn gysylltiedig â bod yn gynhaliwr am rywun sydd yn feddyliol sâl ddim yn eu gadael i drafod gyda rhywun, ac felly, maent yn dioddef wrth eu hunain.

Dywedodd un cynhaliwr yng Nghymru, “Mi wnes ei ddarganfod yn galed i siarad am beth yr oeddwn yn mynd trwyddo gyda’m ffrindiau, a hyd yn oed rhai o’m teulu. Mi wnes frwydro ymlaen. Nid oedd hyd nes i mi ymuno gyda grŵp cyfeillio a chymorth y bum i mewn gwirionedd yn medru siarad â rhywun.”

Mi ddatgelodd yr arolwg hefyd rhai ystadegau pryderus. Credai 64% o’r cynhalwyr Cymreig bod gofalu am berson wedi effeithio eu gyrfaoedd, gyda 34% wedi defnyddio eu gwyliau blynyddol i ymdopi gyda’r cyfrifoldebau gofalu.

Dywedodd Paul Matz, Rheolwr Wythnos y Cynhalwyr: “Mae’r ffaith bod cynifer o gynhalwyr yn gorfod defnyddio eu gwyliau blynyddol i gyflawni eu gwaith gofalu hefyd yn bryderus iawn. Mae pob cynhaliwr yn haeddu’r cyfle i gael bywyd cyflawn ei hunan – naill ai drwy waith, astudio, neu weithgareddau hamdden, ac mae arnynt y cymorth a’r help cywir i fedri wneud hynny.”

Mae Wythnos Cynhalwyr, sydd yn rhedeg yr wythnos hon (13-19 Mehefin), yn amlygu anghenion a bywydau cynhalwyr o amgylch yr holl wlad gyda digwyddiadau yn cael eu trefni ym mhob ardal. I ddarganfod beth sydd yn digwydd yn eich ardal, ewch i safle we Wythnos Cynhalwyr Carers Week.