Uned Iechyd Meddwl Newydd i Wrecsam |
Medrai uned iechyd meddwl yn Ysbyty Maelor Wrecsam fod ar y gweill yn ôl y BBC.
Dywedodd gwefan Newyddion y BBC heddiw fod cynlluniau yn cael eu paratoi i gymryd lle hen uned iechyd meddwl Llwyn y Groes a argymhellwyd ar gyfer ei chau a’i hamnewid gydag uwchraddiad £15 miliwn – er y dywedwyd y medrai sawl mlynedd fynd heibio cyn y bydd arian ar gael. Mae amcangyfrifon ar gyfer cwblhau’r uned newydd yn ymestyn mor bell i’r dyfodol â 2008/9. Dywedodd Andy Scotson, llefarydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru: “Dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf bu llawer o newidiadau mewn gofal iechyd meddwl a sylweddolwn nad yw’r cyfleusterau presennol yn Llwyn y Groes gystal â’r hyn yr hoffem ddarparu.” I gael gwybodaeth bellach, gweler holl stori’r BBC yn: |