Adroddiad yn dangos prinder o weithwyr cymdeithasol yng Nghymru |
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn amlygu’r prinder arwyddocaol o weithwyr cymdeithasol yng Nghymru.
Mae bron 15% o swyddogaethau gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru yn wag; mae’r diffyg gweithwyr cymdeithasol plant yn 18.6%. Mae’r adroddiad hefyd yn codi pryderon am y dargadwedd o weithwyr cymdeithasol, gan ddangos bod nifer o weithwyr cymdeithasol yn symud rhwng awdurdodau lleol, neu ddim yn aros yn y proffesiwn o gwbl. O ganlyniad, mae’r adroddiad yn galw am gynnydd mewn cyflog ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, gyda graddfa gychwynnol o £23,265, a gwell amodau gwaith. Datganodd Tony Garthwaite, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Personol Pen-y-bont ar Ogwr, a gadeiriodd y grŵp a ysgrifennodd yr adroddiad: “Rydym yn teimlo bod y dulliau presennol o recriwtio a dargadwad sydd yn seiliedig ar gystadleuaeth drwy ddefnydd o gymhellion, angen gwneud symudiad sylfaenol i strategaethau sydd yn adlewyrchu’n well y realiti o’r farchnad llafur yr ydym ni yng Nghymru yn recriwtio. “Mae’n rhaid i ni greu diwylliant lle bod yna ymdeimlad bod staff yn gweithio i Wasanaethau Cymdeithasol Cymru. Nid yw yn llawer neu yn ddim cysur i’r defnyddwyr a’r cynhalwyr hynny na sydd yn derbyn gwasanaeth digonol oherwydd prinder staff i wybod bod eraill mewn rhannau eraill o Gymru yn.” Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr elusen iechyd meddwl Cymru, Hafal, “Mae’r recriwtiaid a dargadwedd o weithwyr cymdeithasol yn allweddol i’r ddarpariaeth o wasanaethau ansawdd uchel. Mae’n hanfodol bod darganfyddiadau’r adroddiad yma yn cael eu gweithredu, a bod gweithwyr cymdeithasol yn cael gwell bargen – gan y bydd hynny yn golygu gwell bargen ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ar draws Cymru.” |