Y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i’r afael a straen y gweithle ac iselder ysbryd |
Mae prosiect £5 miliwn newydd wedi ei lansio i dargedi ac i helpu pobl sydd yn dioddef straen ac iselder ysbryd sydd wedi ei achosi gan eu gweithle.
Mae cynllun Llywodraeth y Cynulliad, Meddyliau wrth Waith, yn edrych i ddiogelu unigolion sy’n teimlo o dan straen neu yn isel eu hysbryd yn y gwaith a’r economi drwy eu helpu cyn bod angen cymryd arnynt i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. Dywedodd Pat McCarthy, Pennaeth Polisi ac Ailddatblygiad Meddyliau Iach wrth Waith, “Mae llawer o bobl gyda phroblemau iechyd meddyliol yn teimlo arwahanrwydd – ac mae iselder ysbryd yn anhwylder arwahanrwydd mawr. Mi allant brofi colli hyder neu hunan-barch isel. “Os yw person yn dioddef niwed corfforol, mae cyfoedion gwaith fel arfer yn dangos pryder a chefnogaeth. Ond nid dyma’r achos yn aml iawn i bobl â phroblemau seicolegol. “Mae’r symptomau yn anweladwy yn aml, ac ond pan maent yn gwaethygu y deuant yn fwy amlwg. Mi all rhywun brofi’r problemau yma, beth bynnag eu hoedran, rhyw, anabledd, incwm, addysg neu ethnigrwydd.” Mae trefnwyr y cynllun yn credu mai’r rhwystr mwyaf i bobl yn dychwelyd i’r gwaith sydd wedi dioddef iechyd meddyliol gwael yw’r stigma neu’r gwahaniaethu y byddant o bosib yn eu hwynebu yn hytrach nag unrhyw beth yn berthynol yw amgylchiadau. Am fwy o wybodaeth ar y prosiect, ewch i: www.healthymindsatwork.co.uk |