Rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyrraedd targedau newydd medd yr elusen iechyd meddwl Hafal |
Yn dilyn cyhoeddi ‘Codi’r Safon’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sef y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol a Chynllun Gweithredu iechyd meddwl oedolion diwygiedig ar gyfer Cymru, mae prif elusen iechyd meddwl Cymru, Hafal, wedi mynnu bod y Cynulliad yn cyrraedd y targedau newydd ar gyfer darpariaeth gwasanaeth.
“Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol dair blynedd yn ôl ond ni chafodd y targedau a’r safonau a osodwyd ynddo eu cyrraedd,” meddai Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen. “O ganlyniad i hyn, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus wrth groesawu’r Fframwaith a’r Cynllun Gweithredu newydd. “Ein cyfrifoldeb ni fel sefydliad yw sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu ar ei addewidion y tro hwn. Mae Hafal yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan gleientiaid ac mae ein Haelodau – wedi mynd drwy’r system bresennol – wedi ymrwymo i ddal y Cynulliad yn atebol a gweld bod gwasanaethau’n cael eu gwella’n briodol. “O ystyried bod gennym Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cymharol newydd, rydym yn fodlon rhoi rhywfaint o le iddynt. Ond mae gan Lywodraeth y Cynulliad lawer i’w brofi ar fater iechyd meddwl Cymru.” Cyhoeddwyd y Fframwaith a’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr un diwrnod ac y rhyddhaodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad oedd yn dangos bod problemau sylfaenol yn bodoli yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd meddwl eu cynllunio, eu trefnu a’u monitro yn y wlad ar hyn o bryd. Dywedodd Liz Griffiths Hughes, Cydlynydd Grymuso Hafal, “Mae’r adroddiad yn cadarnhau’r hyn y mae llawer o’n cleientiaid ni wedi’i ddweud wrthym am eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl. “Rydym yn clywed yn gyson am yr oedi annerbyniol y mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei brofi cyn cael gweld seiciatrydd. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn mynd mor sâl yn ystod yr amser yma fel bod yn rhaid iddynt fynd i’r ysbyty. Mae rhai hyd yn oed wedi cael eu harestio oherwydd yr effaith a gaiff y salwch ar eu hymddygiad. “Mae pob achos o’r fath yn drasiedi diangen, oherwydd os bydd pobl yn derbyn triniaeth amserol, mae ganddynt gyfle da iawn o reoli eu salwch cyn iddo fynd yn ddifrifol. Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad ddeall hyn a gweld y gall cyrraedd eu targedau gael effaith wirioneddol ar nifer sylweddol o bobl ar draws Cymru.” Aeth Bill Walden-Jones ymlaen i ddweud: “Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio yn dangos yr hyn mae cleifion eisoes yn ei wybod: y bydd yn rhaid i wasanaethau yng Nghymru wella’n sylweddol i fodloni’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol newydd. Er bod llawer o hyn yn fater o adnoddau, mae angen i Lywodraeth y Cynulliad hefyd edrych ar sut y caiff gwasanaethau eu trefnu. “Mae’r Adolygiad Sylfaenol gan y Swyddfa Archwilio yn dangos bod lle am fwy o integreiddiad a chydlyniad o’r gwasanaethau iechyd meddwl oedolion ar draws gwahanol asiantaethau a sectorau gofal. Byddem yn cytuno â hyn, ond yn mynd ymhellach eto a dweud nad yw’r system bresennol ar gyfer comisiynu gwasanaethau yng Nghymru yn ddigon da i wneud y gwaith. “Rydym yn byw mewn gwlad fechan, ac eto mae gennym 44 o gyrff annibynnol yn comisiynu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru. Sut all hyn arwain at system integredig a chydlynol? Yr hyn sydd gennym bellach yw trefniant gor-fiwrocrataidd a gor-gymhleth. Dim ond edrych ar Weriniaeth Iwerddon sydd yn rhaid i ni i weld model llawer mwy effeithiol: model sy’n seiliedig ar un corff comisiynu canolog, wedi’i symleiddio, sy’n cyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.” Mae Aelodau Hafal wedi mynegi eu bwriad i ddal Llywodraeth y Cynulliad yn atebol am ei Fframwaith a Chynllun Gweithredu newydd, ond hefyd i weithio gyda nhw i gyrraedd y targedau hyn. “Rydym wedi cael addewidion i wella gwasanaethau yn y gorffennol,” meddai Bill Walden-Jones. “Y tro yma, mae’n rhaid i’r Cynulliad gadw’r addewid.” |