Gwasanaethau Iechyd Meddwl Carchardai o Dan Sylw yng Nghyfarfod Blynyddol Gyffredinol 2005 Hafal |
Mae’r diffyg o wasanaethau iechyd meddwl digonol ar gyfer troseddwyr sy’n dioddef anhwylder meddwl (MDOs) yn un o’r pwyntiau trafod yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2005 Hafal sydd i’w gynnal yn Llandrindod ar 17 Tachwedd.
Mae gwaith ymchwil a ymgymerwyd gan yr elusen yn dangos nifer o wendidau yn y broses o adnabod a thrin anhwylderau meddwl ymhlith MDOs. Yn ystod y dydd, bydd seminarau yn rhoi i’r rhai hynny sydd yn bresennol y cyfle i holi nifer o bobl broffesiynol am y problemau, ac i ystyried sut ellir eu goresgyn. Bydd siaradwyr yn cynnwys Cathy Stancer, Cyfarwyddwraig Menywod Mewn Carchardai; Dave Spurgeon o NACRO; Swyddog Cyswllt Iechyd Meddwl Heddlu De Cymru, Penny Roberts, a chynrychiolydd o’r Prison Reform Trust. Dywedodd Julie Davies, Rheolwr Hyfforddiant a Digwyddiadau Hafal: “Bydd y seminarau yn dod a defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr ynghyd gyda phobl allweddol o’r meysydd cyfiawnder troseddol ac iechyd, gan ddarparu’r cyfle ar gyfer trafodaeth gynhyrchiol am iechyd meddwl yn y system cyfiawnder troseddol. “Mae hwn yn faes sydd wedi cael ei amddifadu am yn hir ac sydd angen gweithredu brys. Gobeithiwn y bydd y seminarau yn hybu gwell ymwybyddiaeth o’r materion ymysg ein haelodau a phobl iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol proffesiynol, ac yn arwydd am yr angen ar gyfer newid.” Bydd “Ffair Adferiad” hefyd yn rhedeg yn ystod y dydd gan gynnwys 22 o stondinau arddangos rhyngweithiol a fydd yn cynnwys pob rhan o Gymru, hefyd stondinau gwybodaeth yn ymwneud ag ystod o bynciau, a seibercaffi. Ac os yw’r rhai hynny sy’n mynychi yn teimlo’n greadigol mi allant fynychi’r gweithdai Celfyddyd Weladwy gyda Maria Hayes, Arlunydd a Thiwtor, neu weithdai ysgrifennu creadigol gyda’r awdur John Davies. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys Fforwm Defnyddwyr Actif a Fforwm Cynhalwyr Cymru-gyfan, lle gall defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr godi cwestiynau sydd yn benodol iddynt hwy. DIWEDD Bydd cyfieithiad Cymraeg o’r Datganiad i’r Wasg hwn ar gael cyn hir ar lein ar: www.hafal.org/cymraeg Am fwy o wybodaeth a wnewch chi os gwelwch yn dda, gysylltu gyda John Abbott, Rheolwr Materion Cyhoeddus ar 07977 400 858 neu 01792 816 600. Nodyn i Olygyddion 1. Cynhelir CFG 2005 Hafal yn The Pavilion, Llandrindod, ar ddydd Iau 17 Tachwedd 2005. 2. Prif elusen Cymru yw Hafal, sy’n gweithio dros bobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’i gynhalwyr, yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ym mhob un o’r siroedd. |