Gwneud Synnwyr o Adroddiadau Diweddar am Iechyd Meddwl yng Nghymru
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni (Dydd Llun 10 Hydref) gwelwyd nifer o ddogfennau arwyddocaol yn cael eu cyhoeddi. Roedd rhai yn edrych ar gyflwr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru heddiw, ac eraill yn edrych ar ddyfodol y gwasanaethau hynny. Yma, fe rown gyflwyniad i’r dogfennau hyn:
1. Codi’r Safon: Y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig ar gyfer Iechyd Meddwl Oedolion a Chynllun Gweithredu ar gyfer Cymru.
Beth yw hyn: Mae’r ddogfen hon gan Lywodraeth y Cynulliad, a lansiwyd gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyflwyno Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (FfGC) diwygiedig sy’n disodli’r FfGC a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2002 (cyhoeddodd Dr Brian Gibbons hefyd y bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn derbyn £5 miliwn yn ychwanegol o nawdd). Yn ogystal â chyflwyno wyth safon allweddol a 44 gweithrediad allweddol sydd wedi’u bwriadu i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, mae’r Fframwaith hefyd yn gosod amserlen ddiwygiedig a chynllun gweithredu ar gyfer cyflwyno’r gwasanaethau hynny.
Nod y FfGC yw “gosod safonau ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru, gwella ansawdd a lleihau amrywiaethau annerbyniol mewn darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol”. Mae nifer o’r syniadau a’r nodau yn dal i fod yn debyg i’r rhai a gyflwynwyd yn FfGC 2002, ond mae’r ddogfen yn ystyried newidiadau yn y trefniadau comisiynu, rheoli perfformiad ac archwilio.
Pam ei fod yn bwysig: Mae’r ddogfen hon yn nodi cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd yn rhoi ffurf i’r gwaith o foderneiddio’r gwasanaethau ac yn nodi targedau y mae’n rhaid eu cyrraedd.
Beth ddywedodd pobl amdano:
Dywedodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy’n benderfynol o weld gwasanaethau iechyd meddwl yn gwella. Gyda’r nawdd ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw a thrwy osod amserlen glir yn y Cynllun Gweithredu, rwyf yn ffyddiog y bydd gwelliannau’n cael eu gwneud ar draws Cymru.”
Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Ein cyfrifoldeb ni fel sefydliad yw sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu ar ei addewidion y tro hwn. Mae Hafal yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan gleientiaid ac mae ein Haelodau – wedi mynd drwy’r system bresennol – wedi ymrwymo i ddal y Cynulliad yn atebol a gofalu bod y gwasanaethau’n cael eu gwella’n briodol .”
Mae MIND Cymru “yn croesawu cyhoeddi’r ddogfennau allweddol hyn, ac yn gobeithio y bydd eu cynnwys a’u hargymhellion yn ddylanwadol wrth godi proffil darpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl yng Nghymru ar agenda’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae gennym bryderon ynghylch cyd-destun eu cyhoeddi, sef mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael o gynnydd effeithiol ar weithredu safonau’r FfGC ers cyhoeddi’r FfGC yn 2002.”
Ar gael ar: Gwefan GIG Cymru
2. Gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yng Nghymru: Adolygiad gwaelodlin o ddarpariaeth gwasanaeth
Beth yw hyn: Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn cynnwys canfyddiadau o adolygiad system gyfan o wasanaethau iechyd meddwl oedolion yng Nghymru.
Y canlyniad yw bod bylchau sylweddol mewn elfennau allweddol o gyflwyniad gwasanaeth, sydd ar hyn o bryd yn rhwystro’r FfGC rhag cael ei weithredu’n llawn.
Mae canfyddiadau’n cynnwys y canlynol:
• Mae lle i integreiddio a chydlynu gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn well ar draws y gwahanol asiantaethau a sectorau gofal.
• Mae’r agwedd tuag at rymuso a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn amrywio’n fawr.
• Nid yw trefniadau cynllunio a chomisiynu presennol yn rhoi cefnogaeth lawn i’r gwaith o ddatblygu modelau gofal system gyfan.
Fodd bynnag, nodwyd enghreifftiau o arfer da. Mae’r rhain yn cynnwys nifer gan Hafal, gan gynnwys y Gwasanaeth Paratoi Gwaith a Chefnogi Gofalwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y mentrau addysg yng Nghaerdydd, a’r Rhaglen Rymuso ar gyfer Cymru gyfan. Mae cynllun peilot i gefnogi rhyddhad o ysbyty yn Sir Benfro, a redir gan Mind mewn cydweithrediad â’r Ymddiriedolaeth GIG lleol, hefyd yn cael ei gymeradwyo.
Pam ei fod yn bwysig: Mae’r adroddiad yn cynnig golwg fanwl ar gyflwr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gan dynnu sylw at broblemau o ran y ffordd y caiff y gwasanaethau eu cynllunio, eu trefnu a’u monitro ar hyn o bryd – sy’n rhoi llwyddiant FfGC newydd Llywodraeth y Cynulliad mewn perygl.
Beth ddywedodd pobl amdano:
Dywedodd Jeremy Coleman, Prif Archwilydd Cymru: “Mae gan wasanaethau ar gyfer oedolion gydag anghenion iechyd meddwl lawer o ffordd i fynd. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddefnyddio canfyddiadau’r adroddiad hwn, ac adolygiadau allanol eraill, i ddatblygu agwedd gliriach ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau bod pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn derbyn y gofal o ansawdd y maent yn ei haeddu.”
Dywedodd Liz Griffiths-Hughes, Cydlynydd Grymuso yn Hafal: “Mae’r adroddiad yn cadarnhau’r hyn y mae llawer o’n cleientiaid ni wedi’i ddweud wrthym am eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl. Rydym yn clywed yn gyson am yr oedi annerbyniol y mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei brofi cyn cael gweld seiciatrydd. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn mynd mor sâl yn ystod yr amser yma fel bod yn rhaid iddynt fynd i’r ysbyty. Mae rhai hyd yn oed wedi cael eu harestio oherwydd yr effaith a gaiff y salwch ar eu hymddygiad. Mae pob achos o’r fath yn drasiedi diangen, oherwydd os bydd pobl yn derbyn triniaeth amserol, mae ganddynt gyfle da iawn o reoli eu salwch cyn iddo fynd yn ddifrifol.”
Ar gael yn: Gwefan GIG Cymru
3. Adroddiad o Adolygiad o Unedau Diogelwch Canolig Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru
Beth yw hyn: Cafodd yr adolygiad hwn o unedau diogelwch canolig yng Nghymru ei gynnal ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) a Chomisiwn Iechyd Cymru (HCW). Roedd materion a godwyd gan yr adroddiad yn cynnwys:
• Y gwahaniaethau rhwng ystâd, strwythurau rheoli a threfniadau llywodraethu clinigol y ddwy uned diogelwch canolig GIG a’r ddwy uned yn y sector preifat a adolygwyd.
• Y gwendidau yn y trefniadau cynllunio rhyddhad.
• Y problemau o ran adnabod ffactorau risg a dangosyddion ail bwl.
Pam ei fod yn bwysig: Mae’r adroddiad yn cynnig ystyriaeth bwysig o ddigonolrwydd y trefniadau cynllunio rhyddhad ar gyfer cleifion gydag afiechydon meddwl yn yr unedau diogelwch canolig yng Nghymru, yn ogystal ag adolygu ansawdd y gwasanaethau a gofal cleifion yn yr unedau.
Beth ddywedodd pobl amdano:
Dywedodd Dr Peter Higson, Prif Weithredwr HIW: “Mae’n amlwg bod angen trefniadau cryfach yng Nghymru i sicrhau parhad o safonau uchel mewn gofal a thriniaeth ar gyfer cleifion gyda phroblemau iechyd meddwl yn dilyn eu rhyddhad.”
4. Dan Bwysau: Adroddiad am yr Adolygiad Risg ac Ansawdd o Wasanaethau Iechyd Meddwl y GIG
Beth yw hyn: Comisiynwyd yr adolygiad hwn o feysydd blaenoriaeth mewn iechyd meddwl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i gynhyrchu gan Cydweithrediaeth Cymru dros Iechyd Meddwl (WCMH), a’i nod yw dangos cyflwr presennol gwasanaethau a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau, fel y gellir sicrhau safon isaf o ofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Gwneir 24 argymhelliad i leihau risg a gwella ansawdd gwasanaeth yn yr adroddiad, sy’n nodi newidiadau i strwythur y cyrff comisiynu gwasanaeth fel rhywbeth sy’n allweddol i gyflwyno gwelliannau i ddefnyddwyr gwasanaeth yng Nghymru.
Pam fod hyn yn bwysig: Mae’n cyflwyno golwg annibynnol ar gyflwr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru: cafodd y brosesu adolygu gyfan ei harchwilio gan grŵp cyfeirio defnyddwyr/ gofalwyr.
Beth ddywedodd pobl amdano:
Dywedodd Gareth Morgan o Brifysgol Cymru Bangor, Rheolwr Prosiect ar gyfer y gwaith ymchwil: “Mae’n dda nodi bod nifer o fentrau newydd a pherthnasol wedi cael eu cyhoeddi ers i “Dan Bwysau” gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru ychydig fisoedd yn ôl.”
5. ARhG: Arweiniad i Ddefnyddwyr
Beth yw hyn: Cafodd yr Arweiniad i’r Agwedd Rhaglen Gofal(ARhG) a gynhyrchwyd gan yr elusen iechyd meddwl Cymreig, Hafal – a lansiwyd gan Dr Brian Gibbons ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd – ei ysgrifennu gan ddefnyddwyr gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Mae’n anelu at hyrwyddo defnydd o’r ARhG, sydd eto i gael ei weithredu’n llawn ar draws Cymru, ac at ddangos i ddefnyddwyr gwasanaeth sut i gael y gorau o’r broses ARhG.
Pam ei fod yn bwysig: Mae’r ARhG yn broses sydd wedi’i chynllunio i sicrhau bod holl anghenion gofal pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu hasesu, a’u bod yn derbyn pecyn gofal cydlynol. Fodd bynnag, nid yw’r ARhG wedi cael ei weithredu’n llawn ar draws Cymru eto ac mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn dal i ddisgwyl am y pecyn gofal cwbl gydlynol y dylent ei gael.
Bwriad yr arweiniad yw newid hyn. Mae’n gadael i ddefnyddwyr gwasanaethau wybod am yr ARhG, pryd y dylent ofyn amdano a sut y gallant gael y gorau ohono.
Beth ddywedodd pobl amdano:
Dywedodd Richard Timm, cleient yn Hafal Abertawe: “Rydym yn falch iawn o’r Arweiniad ARhG. Roeddem eisiau creu rhywbeth oedd yn dangos i bobl yn union yr hyn y dylent ddisgwyl ei gael o’r ARhG. Mae pawb sydd wedi gweld yr Arweiniad wedi’u plesio ag o, ac yn dweud ei fod wir yn gweithio.”
Dywedodd Dr Brian Gibbons, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad: “Drwy barhau i ddatblygu partneriaethau da, yn enwedig ar draws y GIG, iechyd cyhoeddus, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a chyda defnyddiwyd gwasanaeth eu hunain a’u gofalwyr, gallwn sicrhau bod rhaglen gyfannol ac integredig o ofal yn cael ei chynnig i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.”
Nododd Les Sharpe, Cadeirydd Cymdeithas ARhG Cymru a Lloegr: “Rydym wedi bod yn hynod falch o gael gweithio’n agos gyda Hafal wrth iddynt gynhyrchu’r arweiniad hwn ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Mae’n bwysig bod defnyddwyr gwasanaeth ar draws Cymru’n deall proses yr Agwedd Rhaglen Gofal a sut y gallant gyfrannu at gynllunio eu gofal fel y gall staff a defnyddwyr gwasanaeth weithio ar y cyd i hwyluso adferiad. Bydd yr arweiniad gwn yn helpu cyflawni hynny.”
Ar gael yn:Gwefan Hafal
6. Adolygiad o’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
Safon 2: Cyfranogiad Defnyddiwr a Gofalwr
Beth yw hyn:
Adolygiad o Safon 2 y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yw’r ddogfen. Aeth y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ati i asesu’r sefyllfa gyfredol o ran cyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr a chynhyrchu rhestr o arfer gorau yn seiliedig yn bennaf ar y rhagesiampl a osodwyd gan sefydliadau gwirfoddol ac elusennol.
Pam fod hyn yn bwysig:
Ymgynghorodd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â sefydliadau statudol a gwirfoddol allweddol mewn iechyd meddwl ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, gan wrando ar eu cyngor a’u hargymhellion er mwyn datblygu’r ddogfen hon.
Beth ddywedodd pobl amdano:
Dywedodd David Melding AM, Cadeirydd y Pwyllgor: “Fe glywsom gan y rheiny oedd eisoes wedi ymrwymo i wneud yr agwedd rhaglen gofal yn realiti, ond hefyd gan y defnyddwyr oedd yn teimlo mai rhywbeth symbolaidd yn unig oedd cynllunio gofal. Fodd bynnag, cafodd aelodau eu hannog gan yr enghreifftiau o arfer da ac roeddynt yn teimlo bod y rhain yn rhoi sylfaen cryf ar gyfer y dyfodol.”