Mesur Arfaethedig yn Targedi Gwasanaethau Iechyd Meddwl Carchardai |
Mae mesur aelod preifat a gynigiwyd yn y Senedd yr wythnos hon gan yr AS Ceidwadol Charles Hendry yn bwriadu eu gwneud yn ofyniad cyfreithiol bod carchardai yn darparu triniaeth briodol i garcharorion sydd yn dioddef iechyd meddwl. Yn siarad yn y Senedd, datganodd Hendry bod un o’i etholwyr a oedd yn dioddef iechyd meddwl ac a gyflawnodd hunan laddiad yn y diwedd wedi ysgogi yn rhannol y Mesur.
Arsylwodd Hendry: “Mae anwybyddu carcharorion gyda phroblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu yn dwyn gwarth ar ein system garchardai a’n cymdeithas gyfan. Mae cloi person sydd ag anghenion iechyd meddwl i fyny yn ei gell, am hyd at efallai 18 awr y dydd heb gymorth iechyd meddwl arbenigol, yn ymateb hollol amhriodol i’r troseddau maent wedi eu cyflawni ac nid yw yn gwneud ein cymdeithas yn fwy diogel yn yr hir dymor. “Nid yw iechyd meddwl neu anableddau dysgu yn esgusodi’r drosedd. Ond fel cymdeithas mae yna ddyletswydd arnom i geisio trin a chywiro’r rhif anghyfartal o garcharorion sydd yn dioddef y problemau yma. Mi fyddai’r Mesur hwn yn helpu i gyflawni hyn.” Bydd y Mesur arfaethedig yn derbyn ei ail ddarlleniad y flwyddyn nesaf; serch hynny ni ddisgwylir iddo ddod yn gyfraith. Mae’r elusen iechyd meddwl Cymreig Hafal wedi cynhyrchi adroddiad ar y tirlun cyfiawnder troseddol yng Nghymru – cliciwch yma i’w weld. |