Cynigion Budd-dal analluogrwydd yn cael eu cyhoeddi heddiw

Cynigion Budd-dal analluogrwydd yn cael eu cyhoeddi heddiw

Bydd Llywodraeth y DU heddiw yn addo i gael 1 miliwn o bobl sy’n hawlio budd-dal analluogrwydd yn ôl i gyflogaeth yn y degawd nesaf. Bydd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn datgelu Papur Gwyrdd ar adolygiad lles sydd yn cynnig system budd-dal newydd wedi ei anelu at gael y rhai hynny sy’n gallu yn ôl i’r gwaith.

O dan y cynigion newydd bydd y budd-dal analluogrwydd yn cael ei ddisodli gyda Employment and Support Allowance (ESA) gyda hawlwyr wedi eu rhannu yn ddau grŵp; y rhai hynny sydd wedi eu hasesi yn bobl na nad ydynt yn gallu gweithio’n barhaol, a’r rhai hynny sydd wedi eu hasesi fel rhai sydd yn gallu gweithio o dderbyn yr hyfforddiant a chefnogaeth briodol.

Bydd y rhai hynny y bernir na allant weithio yn cael mwy o daliad nag yn bresennol. Bydd y rhai hynny a fernir eu bod yn gallu gweithio yn cael cefnogaeth i ddod yn gyflogedig – neu, os ydynt yn gwrthod yr help yma a ddim yn mynychu cyfweliadau sydd wedi eu canolbwyntio ar waith, yna byddant yn derbyn toriadau yn eu budd-daliadau. Bydd y system newydd hefyd yn golygu bod YC yn gweithio ochr yn ochr gyda chynghorwyr cyflogaeth i annog cleifion ar fudd-daliadau yn ôl i’r gwaith. Bydd cleifion sy’n gweithio ac yn gofyn am nodyn salwch o bosib yn cael eu cynghori i chwilio am swyddi gwahanol yn hytrach na mynd ar fudd-dal.

Gyda thua o gwmpas 40% o hawliadau budd-dal yn seiliedig ar salwch meddwl, mae pryderon wedi eu mynegi am sut y bydd pobl â salwch meddwl yn cael eu heffeithio gan y cynigion. Y prif bryderon yw:

•y bydd rhywun gyda salwch meddwl difrifol yn ymddangos yn anodd neu’n anfodlon i gydymffurfio, ac mi allai hyn eu rhwystro rhag derbyn y taliad uwch

•bydd barnu pwy sy’n ddifrifol wael a phwy na sydd yn fwy anodd pan ddaw i salwch meddwl, yn enwedig os nad yw salwch meddwl difrifol yn cael ei ddeall yn iawn gan aseswyr, a gall pobl gael eu hasesi yn amhriodol fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith

• gall y pwysau i ddychwelyd i’r gwaith waethygu cyflwr pobl gydag afiechyd meddwl.

Esboniodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Cymreig, Hafal:

“Mae angen newidiadau i’r budd-dal analluogrwydd. Fel nifer o sefydliadau eraill, rydym yn cefnogi’r syniad o gael pobl i mewn i waith – ac mae gyda ni ein menter Yn ôl i’r Gwaith Cymru gyfan ein hunain i gymryd hwnnw ymlaen.

“Sut bynnag, rydym yn hynod o bryderus y gall pobl gydag afiechyd meddwl cael eu cosbi o dan y system newydd. Gall hwn ddigwydd yn hawdd os nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ddifrifol sâl, neu os eu bernir i fod yn anghydweithredol pan, mewn ffaith eu salwch sydd yn eu gwneud i ymddangos felly, ac o ganlyniad maent yn derbyn cyfradd budd-dal is.”

Disgwylir y bydd cynllun peilot o’r system budd-dal newydd yn cael ei arbrofi yn un o Gymoedd De Cymru. Bydd Iechyd Meddwl Cymru yn eich diweddaru.