Gwrthiselyddion yn dal i gael eu rhagnodi i rai dan 18 oed |
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ffigurau swyddogol i ddangos maint y broblem o ragnodi gwrthiselyddion i rai dan 18 oed.
Mae’r adroddiad yn dangos bod dros 84,000 o rai dan 18 oed wedi cael eu rhoi ar wrthiselyddion y flwyddyn ddiwethaf. Mewn datganiad gan yr Adran Iechyd, dywedwyd: “Mae’n bwysig nodi bod rhai o’r cyffuriau yn y Cwestiwn Seneddol, er eu bod yn cael eu dosbarthu fel gwrthiselyddion, yn cael eu defnyddio ar gyfer anhwylderau eraill fel gwlychu’r gwely, pryder, anhwylder gorfodaeth obsesiynol a chyflyrau ffobig. “O ystyried yr amrywiaeth eang o wrthiselyddion ar y rhestr, ni ellir tybio eu bod i gyd wedi cael eu defnyddio i drin iselder mewn plant.” Dywedodd Paul Burstow, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan: “Er gwaethaf rhybudd gan arbenigwyr y gall rhagnodi gwrthiselyddion i blant a phobl ifanc arwain at gynnydd yn y risg o hunanladdiad, mae’r ffigurau hyn yn dangos bod doctoriaid wedi parhau i ragnodi. Roedd hefyd yn beirniadu’r “gorddibyniaeth” ar wrthiselyddion ac yn galw ar i fwy o therapïau siarad gael eu cynnig. |