Newyddion yn Gryno

Newyddion yn Gryno
Hunanladdiad yn yr ifanc bum gwaith uwch yng Nghymru nag yn Lloegr
Dywedodd Sara Reid, Comisiynydd Plant Cynorthwyol, fod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â chyfradd hunanladdiad pobl ifanc yng Nghymru.

Dengys ffigurau fod y gyfradd hunanladdiad pobl ifanc 11-17 oed yng Nghymru bum gwaith uwch na’r gyfradd yn Lloegr. I fynd i’r afael â hyn, mae Sara Reid yn cynnig mwy o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a llinell gymorth i rieni sy’n poeni am eu plant.

Dywedodd Ms Reid fod y cyllid ar gyfer Busnes Pawb, strategaeth y Cynulliad ar gyfer plant a’r glasoed, wedi “dod mewn ffordd ddarniog yn hytrach na chyllido’r strategaeth yn ei chyfanrwydd”.

I ddarllen Busnes Pawb, ewch i: gwefan GIG Cymru.

Llafnau glân i hunan-anafwyr
Medrid rhoi llafnau glân, pecynnau dresin wedi’i sterileiddio a chyngor ar y lle gorau i dorri eu hunain i hunan-anafwyr, dan gynlluniau newydd a luniwyd gan uwch nyrsys yn gweithio gyda chleifion iechyd meddwl.

Bob blwyddyn ym Mhrydain caiff 170,000 o bobl eu trin mewn ysbytai am anafu eu hunain yn fwriadol; mae llawer ohonynt yn ceisio ymdopi gydag iselder neu broblemau iechyd meddwl eraill. Nod y cynlluniau, a wrthwynebir gan Gymdeithas y Cleifion, yw mynd i’r afael â risg heintiad sy’n wynebu hunan-anafwyr.

Dywedodd Ian Hulatt, cynghorydd iechyd meddwl i’r Coleg Nyrsio Brenhinol: “Mae’n amlwg fod cymhariaeth gyda rhoi nodwydd lân i ostwng HIV. Byddwn yn trafod cyflwyno dynesiad gostwng-anaf tebyg. Gall hyn gynnwys darparu pecynnau dresin glân a gall hyd yn oed olygu ddarparu offer miniog glân.”

Adrodd yn dangos risg hunanladdiad i geiswyr nodded
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn codi pryderon am iechyd meddwl ceiswyr lloches a gaiff eu dal mewn canolfannau cadw.

Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan seiciatryddion o Brifysgol Rhydychen, yn cefnogi ymchwil o Awstralia a ddangosodd y gall pobl a gedwir mewn canolfannau cadw, un ai’n aros dyfarniad ar loches neu’n disgwyl am gael eu dychwelyd gartref, ddioddef o anobaith dybryd ac ysfa hunanladdiad.

Dywedodd Mina Fazel, darlithydd ym Mhrifysgol Rhydychen a chydawdur yr adroddiad: “Mae’r gwersi i Brydain yn glir. Mae digonedd o dystiolaeth fod modelau o lety yn y gymuned ar gyfer ceiswyr lloches yn arwain at well canlyniadau iechyd meddwl ac y gall ffurfiau dynol ond trwyadl o fonitro gael eu gweithredu yn y lleoedd hyn.”

I gael gwybodaeth bellach, gweler:
The British Medical Journal ar-lein.

Penodi Prif Swyddog Meddygol newydd i Gymru
Penodwyd Dr Tony Jewell, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddydd Clinigol a Chyfarwyddydd Iechyd Cyhoeddus yn Norfolk, yn Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Gwnaeth Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, y cyhoeddiad ar 3 Chwefror gan ddweud: “Mae penodiad Dr Jewell yn gam mawr ymlaen i iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae ganddo lefel uchel o wybodaeth a phrofiad a gafodd yn ystod ei yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Dywedodd Dr Jewell: “Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi yn Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Cymru. Mae’n anrhydedd mawr ac rwy’n edrych ymlaen at yr her”.

I gael gwybodaeth bellach gweler:
Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ymgyrch Gofalwyr ar y Teledu
Mae Newyddion ITV yn rhedeg ymgyrch drwy’r wythnos hon yn galw am benodi ‘Czar Gofalwyr’ i sicrhau gwell chwarae teg i ofalwyr.

Bydd yr ymgyrch, a ddarlledir ar lefel Brydeinig gan Newyddion ITV, yn cynnwys straeon am ofalwyr, y rhai y gofelir amdanynt, gofalu a chyflogaeth, a hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda Roz Williamson, Cyfarwyddydd Gofalwyr Cymru, a Dr Hywel Francis AS.

Mae Dr Hywel Francis, pensaer Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004 yn galw am greu swydd Czar Gofalwyr gan ddweud: “Mae gofalwyr angen mwy o gefnogaeth – maent angen mwy o seibiant, mwy o dâl a mwy o barch. Yr hyn rydym ei angen yw llais cenedlaethol dros ofalwyr yng Nghymru – yn union fel y Comisiynydd Plant.”

Bydd yr ymgyrch yn rhedeg hyd ddiwedd yr wythnos (dydd Gwener 10 Chwefror).