Deiseb yn erbyn mwy o orfodaeth

Deiseb yn erbyn mwy o orfodaeth
Mae’r Gynghrair Iechyd Meddwl yn galw am bobl i arwyddo deiseb yn erbyn yr ymestyniad a gynigir ar gyfer deddfau gorfodaeth yn Mesur y Iechyd Meddwl newydd. Mae’r ddeiseb yn rhan o ymgyrch Sefyll dros Iechyd Meddwl y Gynghrair.

Noda’r ddeiseb: “Mae’r Llywodraeth yn cynnig ymestyn y defnydd o orfodaeth. Byddant yn cynyddu’r stigma sy’n gysylltiedig ag afiechyd meddwl ac o ganlyniad, gallai pobl fregus ofni gofyn am help pan fyddant ei angen.”

Mae’r Gynghrair yn galw ar y Llywodraeth i “ailystyried ei gynigion ar gyfer diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl” a “darparu cefnogaeth ac amddiffyniad gwell i gleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a phawb sy’n gweithio yn y gwasanaethau iechyd meddwl.”

Clymblaid o 77 sefydliad yw’r Gynghrair Iechyd Meddwl, sy’n anelu at sicrhau Mesur Iechyd Meddwl gwell. I ddarllen mwy am yr ymgyrch Sefyll dros Iechyd Meddwl, ewch i: sef gwefan y Gynghrair Iechyd Meddwl.