Adroddiad yn dangos bwlch yn narpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru |
Cafodd adroddiad Pwyllgor Archwilio ar wasanaethau iechyd meddwl oedolion yng Nghymru ei gyflwyno i’r Cynulliad yr wythnos hon (Dydd Mercher 19 Gorffennaf). Roedd y Pwyllgor yn nodi bod gormod o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn dal i fod yng Nghymru sydd ddim yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Roedd yr adroddiad yn galw am weithredu ar unwaith mewn nifer o feysydd er mwyn dod â gwasanaethau i fyny i’r un safonau a amlinellir yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (FfGC) ar gyfer iechyd meddwl oedolion. Er bod y Cynulliad wedi nodi bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth bwysig, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl bob amser yn flaenoriaeth leol, gan arwain at amrywiaethau mawr yn y ddarpariaeth ar draws y wlad. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r Llywodraeth y Cynulliad archwilio strategaethau lleol yn agosach ac yn annog y GIG, llywodraeth leol, a’r sector gwirfoddol ac iechyd cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd i: • gryfhau trefniadau cynllunio a chomisiynu lleol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion; Un o brif ganfyddiadau’r Pwyllgor yw bod defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar draws y wlad yn dal i gwyno mai dim ond pan fydd sefyllfa o argyfwng y mae cefnogaeth arbenigol ar gael. Ym marn Richard Mayes – cleient Hafal o Abertawe a ddatblygodd salwch meddwl 11 mlynedd yn ôl – mae ymyriad cynnar yn hanfodol. Wrth siarad am ei brofiadau fel defnyddiwr gwasanaeth iechyd meddwl, dywed Mr Mayes: “Fe gymerodd tua chwe mis i mi gael gweld cynghorydd. Fe welais i dri gwahanol yn y pen draw. Tua blwyddyn a hanner yn ddiweddarach y gwelais i seiciatrydd yn y diwedd. Mae hi wedi cymryd 11 mlynedd ddim ond i gael y meddyginiaethau cywir.” Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cydnabod fod ganddo lawer o ffordd i fynd eto i foderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl drwy Gymru ac roedd yn croesawu’r adroddiad archwilio fel “arf defnyddiol i’n helpu i gyflwyno’r gwelliannau yr ydym yn benderfynol o’u gweld dros y tair blynedd nesaf.” I ddarllen adroddiad y Pwyllgor Archwilio cliciwch yma. |