Afiechyd meddwl yn costio £12bn i economi’r DU yn flynyddol

Afiechyd meddwl yn costio £12bn i economi’r DU yn flynyddol
Mae busnesau Cymru wedi croesawi adroddiad newydd o Grŵp Polisi Iechyd Meddwly London School of Economics sydd yn dangos bod pryder ac iselder yn costio “12bn i economi’r DU bob blwyddyn.

Mae’r adroddiad, sydd yn cael ei gefnogi gan Coleg Brenhinol Ymarferwyr Cyffredinol, (‘Royal College of General Practitioners’), hefyd yn datgelu mai ond chwarter o’r rhai hynny sydd yn dioddef o afiechyd meddwl sydd mewn gwirionedd yn derbyn triniaeth. Pan fod triniaeth yn cael ei roi, hawlia’r adroddiad, ei fod fel arfer ar ffurf meddyginiaeth, yn hytrach na dulliau amgen megis therapy siarad.

Mae’r awduron hefyd wedi casglu bod therapy seicolegol ar sail tystiolaeth gyfoes mor effeithiol â meddyginiaeth a’i fod cael ei ffafrio gan y rhan fwyaf o gleifion. Ond mae hefyd yn rhybuddio o restrau aros o fwy na naw mis ar gyfer y math arbennig yma o driniaeth.

Mae’r adroddiad wedi galw ar y Llywodraeth i wella gwasanaethau triniaeth seicolegol yn radical, gan ddadlau gyda chyrsiau yn costio cyn lleied a £750, byddai gwasanaethau seicolegol addas yn talu am eu hunain yn nhermau arian sydd yn cael ei arbed mewn budd-daliadau analluogrwydd.

Dywedodd Marion Kloep, darlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Morgannwg, fod yn rhaid i’r proffesiwn meddygol a’r boblogaeth weithiol i gofleidio therapi.

Dywedodd: “Nid oes gyda ni ddigon o therapyddion, nid oes gyda ni digon o arian i’w talu, a daw Y.C. o ddisgyblaeth wahanol – nid ydynt yn ymddiried mewn therapyddion.”

Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Nid yw therapi seicolegol neu siarad yn cael y flaenoriaeth maent yn ei haeddu. Y flaenoriaeth fwyaf yw cynnig cwnsela neu wasanaethau seicotherapi i bobl gydag afiechyd iechyd difrifol – gan gynnwys y rhai hynny mewn ysbyty. Ar hyn o bryd mae’r bobl yma’n aml heb neb ar gael i drafod eu problemau gyda, ac mae hyn heb ystyried mynediad rheolaidd i therapyddion proffesiynol.”

I weld yr adroddiad yn llawn, ewch i cep.lse.ac.uk