Gweinidog yn cynnig strategaeth 10 mlynedd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol
Cafodd “Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol”, sef strategaeth 10 mlynedd newydd drafft sy’n anelu at hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol a hawliau’r unigolyn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ei lansio gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons, yr wythnos hon.
“Mae moderneiddio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn hanfodol er mwyn cynnig gofal personol a hawdd cael gafael arno i ddefnyddwyr,” meddai Dr Gibbons. “Mae angen i wasanaethau cymdeithasol ganolbwyntio fwy ar ataliaeth drwy ymyrryd yn gynharach i helpu teuluoedd a chynnal annibyniaeth pobl. Mae angen i’r gefnogaeth bersonol yma gysylltu â strategaethau cymunedol ehangach sy’n sylfaen i’r agwedd yma ar weithredu.”
Mae’r strategaeth nawr wedi’i chyflwyno ar gyfer ymgynghoriad am 14 wythnos a bydd strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae’r strategaeth yn nodi pum prif fater:
• Dylai gwasanaethau cymdeithasol gael proffil llawer uwch, gan weithio ar draws llywodraeth leol i hyrwyddo anghenion teuluoedd a phobl fregus.
• Dylai gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn cael eu cefnogi’n briodol gan wasanaethau cydlynol sy’n cynnig parhad gofal ar gyfer y bobl hynny sydd ag anghenion parhaus.
• Dylai gwasanaethau osod pobl wrth graidd yr hyn maent yn ei wneud a chanolbwyntio ar ataliaeth gynharach yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhai sydd â’r anghenion mwyaf dwys.
• Dylai awdurdodau lleol barhau i fod yn gomisiynwyr ac yn ddarparwyr gwasanaethau, ond gan gymryd rôl fwy gweithgar wrth roi trefn ar y farchnad gymysg o ofal preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
• Mae’r strategaeth yn cynnig model mwy amrywiol ar gyfer defnyddio medrau gweithlu â gwell cymwysterau.
Wrth roi sylw ar y strategaeth, dywedodd Alun Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr elusen iechyd meddwl Hafal: “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud llawer iawn o waith da yn y maes hwn. Mae Agwedd y Rhaglen Gofal a’r ethos o ddarpariaeth gymunedol yn ddwy enghraifft dda o’r elusen yn cael pethau’n gywir. Ond mae arnom dal angen mwy o ymrwymiad i ariannu yn y tymor hirach.”
Mynegodd rywfaint o bryder hefyd ynghylch y strategaeth: yn bennaf nad yw staff sy’n cyflwyno gwasanaethau ar draws Cymru yn cael eu cosbi am yr hyn mae Hafal yn eu gweld fel problemau Llywodraeth y Cynulliad.
“Mae’n rhaid i ni osgoi rhoi bai ar y staff ar draws Cymru sy’n gwneud gwaith mor dda o gyflwyno gwasanaethau cymdeithasol. Nid cyflwyniad y gwasanaeth yw’r broblem yma; problem o arweinyddiaeth gan LLCC ydyw,” meddai Mr Thomas.
“Ar hyn o bryd, mae yna 22 o gomisiynwyr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ond dim ond un sydd gan Weriniaeth Iwerddon. Mae angen rhesymoli’r system gyfan ar frys.”
I ddarllen “Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol” yn llawn click here