Ymchwilwyr yn darganfod dull newydd posibl o roi diagnosis cynnar o sgitsoffrenia |
Mae astudiaeth ddiweddar gan dîm o wyddonwyr o Brifysgol Caergrawnt, Prifysgol Cologne a Choleg Imperial Llundain wedi datgelu dull newydd posibl o roi diagnosis cynnar o sgitsoffrenia.
Ar hyn o bryd, mae diagnosis cynnar o’r anhwylder meddwl yn seiliedig ar gyfweliad ac arsylwad, gyda gofyn i’r claf ddangos symptomau am o leiaf chwe mis. Fel rhan o’r astudiaeth, aeth y tîm ymchwil ati i ddadansoddi hylif yr ymennydd (serebro-sbinal) o dros 152 o wirfoddolwyr. O’r 152 yma, roedd 54 wedi derbyn diagnosis o sgitsoffrenia yn ddiweddar, roedd 70 yn iach ac roedd 28 yn derbyn rhyw fath o driniaeth. Cawsant eu synnu wrth ganfod lefelau uchel o glwcos yn hylif yr ymennydd a sbinol y grŵp o 54 o wirfoddolwyr sy’n dioddef o sgitsoffrenia. Gobeithir y bydd y marcwyr biolegol hyn yn eu galluogi i ddatblygu triniaethau newydd cynnar neu cyn ymddangosiad symptomau ar gyfer sgitsoffrenia a allai hyd yn oed roi diwedd ar symptomau’r clefyd. Dywedodd Dr Elaine Holmes o Goleg Imperial Llundain: “Gallai’r ymchwil yma fod yn bwysig iawn yn y ffordd rydym yn delio â sgitsoffrenia. Mae’n dangos y gallwn ni nawr weld y newidiadau sy’n digwydd cyn iddynt ddatblygu i fod yn broblem fawr.” |