Arolwg yn datgelu cyflwr ‘annymunol’ wardiau iechyd meddwl
Arolwg yn datgelu cyflwr ‘annymunol’ wardiau iechyd meddwl
Dengys arolwg gan yr elusen iechyd meddwl, Mind, bod 56 y cant o bobl oedd wedi aros ar ward iechyd meddwl yn ddiweddar wedi rhoi gradd annymunol neu annymunol iawn i’r ward honno.
Dengys yr elusen hefyd bod bron un ym mhob tri (29 y cant) o’r rhai a holwyd yn anfodlon â chyflwr y wardiau, gyda 28 y cant yn anfodlon gyda’r lefelau glanweithdra.
Mae’r arolwg, oedd yn rhan o adroddiad ar effaith yr amgylchedd ar ein hiechyd meddwl (Building Solutions: improving mental healthcare environments) yn cefnogi adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gofal Iechyd y llynedd, a ddangosodd bod safonau glanweithdra yn llawer is mewn ysbytai iechyd meddwl nac mewn unedau dwys. 58 diwrnod yw hyd yr arhosiad arferol mewn ysbyty ar gyfer claf mewnol iechyd meddwl – bron 12 gwaith yn hirach na chleifion gyda salwch corfforol.
Fel mater o frys, mae Mind wedi galw am i wardiau iechyd meddwl gael eu troi’n amgylcheddau mwy therapiwtig, sy’n canolbwyntio ar gefnogi adferiad.
Mae’r elusen wedi gwneud yr argymhellion canlynol:
• Dylai defnyddwyr gwasanaeth fod yn rhan o gynllunio ysbytai newydd
• Dylai’r lefelau uchaf o lanweithdra gael eu cynnal yn y wardiau
• Dylai pob claf gael mynediad i fannau gwyrdd
• Dylai pob man cysgu fod yn rhai un rhyw
• Dylid cymryd camau brys i ddelio â lefelau trais ar wardiau
• Mae angen i wardiau a’u cyfleusterau fod yn bleserus ac yn ysgogol, gydag amrywiaeth dda o weithgareddau.
I ddarllen yr adroddiad, ewch i: www.mind.org.uk