Cyflogwyr yn dymuno mwy o gefnogaeth i recriwtio staff gyda phroblemau iechyd meddwl
Yn ôl Comisiwn Hawliau’r Anabl (DRC), gall ymdrechion Llywodraeth y DU i gael un miliwn o’r bobl hynny sy’n hawlio budd-dadliadau yn ôl i’r gwaith yn methu oni bai bod cyflogwyr yn cael mwy o gymorth i recriwitio a chadw staff gyda phroblemau iechyd meddwl.
Mae ymchwil ar ran y comisiwn gan GfK NOP wedi canfod nad oedd gan dau draean o’r 850 busnes bychan a chanolig (SMEs) a holwyd ar draws Cymru unrhyw weithdrefnau ar gyfer rheoli staf gyda phroblemau iechyd meddwl.
Datgelodd yr arolwg hefyd fod rheolwyr yn llai bodlon i gynnig addasiadau yn y gweithle i staff newydd gyda phroblem iechyd meddwl nag oeddynt i staff presennol. (Gall addasiadau yn y gweithle gynnwys gweithio amser-fflecsi i rywun na all deithio yn ystod oriau brig neu amser i ffwrdd ar gyfer ymweld â chynghorydd neu psychiatrist.
Canfu’r arolwg fod y busensau bychain a chanolig (SMEs) yn dymuno mwy o gymorth i reoli staff sydd yn datblygu problemau iechyd meddwl. Dywedodd 81% y byddent yn croesawu llinell-gymorth tra y dywedodd dros dau-draean (68%) y byddai cynghori un ar un yn cynorthwyo’u gweithwyr.
Mae’r Comisiwn Hawliau Anabl nawr wedi cyhoeddi cynllun sydd yn galw ar y llywodraeth i ddarparu:
•llinell gymorth rhad ac am ddim ar gyfer cyflogwyr sydd yn darparu cyngor ymarferol ar gefnogi staff gyda phroblem iechyd meddwl
•‘therapi-llefaru’ sydd wedi’i brofi a’i noddi gan y llywodraeth ar gyfer gweithwyr a phroblem iechyd meddwl
•mwy a gwell hyfforddiant ar gyfer staff JobcentrePlus
•ymgyrchoedd yn galluogi cyflogwyr i rannu arfer da a gwell mynediad i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl at hyfforddiant yn y sgiliau hynny y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
Am fwy o wybodaeth, ewch i:www.drcgb.org/newsroom