Mudiadau iechyd meddwl Cymreig yn ymgasglu yn y Senedd ar gyfer diwrnod salwch meddwl y byd

Mudiadau iechyd meddwl Cymreig yn ymgasglu yn y Senedd ar gyfer diwrnod salwch meddwl y byd
Croesawodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons y defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl ynghyd â chynrychiolwyr o fudiadau statudol a gwirfoddol i’r Senedd ar ddydd Mawrth i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Daeth y digwyddiad cynyddu ymwybyddiaeth â’r partneriaid allweddol mewn darparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ynghyd – gan gynnwys Hafal – prif elusen Cymru ar gyfer pobl gyda salwch meddwl difrifol, yr asiantaeth Genedlaethol Arweiniad ac Arloesoldeb dros Ofal Iechyd, Create a’r Wales Alliance for Mental Health.

Yn siarad am thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni: “Adeiladu Ymwybyddiaeth – Lleihau Risg: Salwch Meddwl a Hunanladdiad”, dywedodd Dr Brian Gibbons: “Mae hunanladdiad dipyn yn uwch ymhlith pobl sydd â salwch meddwl, ac fe’i cysylltir hefyd gyda chamddefnydd cyffuriau ac alcohol, aruniged cymdeithasol, diweithdra a chwalu’r teulu.

“Trwy wella ein gwasanaethau iechyd meddwl a thrwy hyrwyddo gwell iechyd meddwl ar gyfer yr holl boblogaeth rwy’n gobeithio y gallwn weld y nifer o bobl sydd yn cyflawni hunan laddiad yn parhau i ddisgyn”.

Ynghyd â diolch i’r holl bartneriaid am eu hymroddiad i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, cymerodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y cyfle hefyd i lansio dau fesur newydd sydd wedi eu hanelu at wella iechyd meddwl a budd.

Mae’r cyntaf o’r rhain, “Gweithredu mewn Iechyd Meddwl yng Nghymru”, yn ganllaw ymarferol yn dangos pa declynnau gwella gwasanaeth sydd ar gael i’r rhai hynny sydd yn ymwneud â rheoli a darparu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion.

Cyflwynwyd Cynllun Gweithredu ar Iechyd Meddwl Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ymgynghoriad yn ystod y diwrnod. Dywedodd Dr Brian Gibbons: “Mae hwn yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a budd holl boblogaeth Cymru ac yn ceisio lleihau’r stigma a gwahaniaethu sydd yn gysylltiedig gydag iechyd meddwl a hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol.”