AS yn galw am “fuddsoddiad sylweddol” mewn gofal iechyd meddwl mewn carchardai

AS yn galw am “fuddsoddiad sylweddol” mewn gofal iechyd meddwl mewn carchardai
Mae adroddiad a ryddhawyd ddoe (7 Tachwedd) gan Grŵp Seneddol Hollbleidiol dros Iechyd Carchardai Llywodraeth y DU yn galw am “fuddsoddiad sylweddol” mewn gofal iechyd meddwl mewn carchardai.

Gwelodd y grŵp, a ymwelodd â phedwar carchar, gan gynnwys CEM Caerdydd, bod prinder seiciatryddion yn gweithio mewn carchardai, yn ogystal â phroblemau wrth drosglwyddo carcharorion i ysbytai seiciatrig.

Drwy alw’r system bresennol yn “amlwg gamweithredol”, mae’r Grŵp Hollbleidiol yn galw am fwy o gefnogaeth ar gyfer pobl sydd mewn perygl o droseddu, yn ogystal â gwelliannau i’r cynlluniau cyfeirio o lysoedd a chysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd meddwl y tu mewn a’r tu allan i’r carchardai.

Dywedodd Fabian Hamilton, Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ac AS Llafur dros Ogledd Ddwyrain Leeds: “Rhaid gwella cynlluniau cyswllt a chyfeirio llysoedd fel bod troseddwyr gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cyfeirio i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol a thuag at ofal a thriniaeth gan y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Os bydd achos yn cael ei ddwyn yn erbyn rhywun, rhaid i wybodaeth berthnasol am gyflwr meddyliol y troseddwr fod ar gael i’r llysoedd.”

Roedd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr elusen iechyd meddwl Hafal, yn croesawu’r adroddiad, ac yn dweud: “Mae salwch meddwl mewn carchardai yn broblem gynyddol. Dyna pam ein bod wedi sicrhau nawdd i benodi Swyddog Datblygu Troseddwyr gydag Anhwylder Meddwl, fydd yn gweithio’n agos gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru – gan gynnwys carchardai – i wella cynlluniau cyfeirio a datblygu gwasanaethau cefnogi effeithiol ar gyfer troseddwyr gydag anhwylder meddwl.

“Mae Hafal yn parhau i lobïo Llywodraeth Cynulliad Cymru am arian ar gyfer swyddi eraill, ac mae’r adroddiad hwn yn amlwg yn cefnogi ein cais.”

Mae The Mental Health Problem in UK HM Prisons – adroddiad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol am Iechyd mewn Carchardai ar gael gan Kate Archer (Ysgrifenyddes): kate@butlerkellyltd.co.uk