Bydd Cynhadledd Adferiad yn lansio prosiectau iechyd meddwl allweddol ar gyfer Cymru
Bydd Cynhadledd 2006 Hafal ar adferiad iechyd meddwl sydd i’w gynnal yn y Pafiliwn, yn Llandrindod y dydd Iau yma (16 Tachwedd) yn gweld lansio prosiectau allweddol i wella bywydau pobl gyda salwch meddwl difrifol ar draws Cymru, gan gynnwys:
• Prosiect Troseddwyr ag Anhwylder Meddwl (Mentally Disordered Offenders (MDO) Project) newydd Hafal, a gyllidir gan Comic Relief, a fydd yn cynnwys recriwtiaid o Swyddog Datblygu MDO i wella gwasanaethau, cyflwyno hyfforddiant a darparu gwybodaeth ar gyfer y grŵp archolladwy yma.
• Prosiect “Cam Nesaf” (Next Step) Hafal, a gyllidir gan y Loteri Mawr, a fydd yn cyflwyno Rhaglen Adferiad unigryw Hafal i gannoedd o gleientiaid newydd ar draws Cymru.
Yn ystod y diwrnod bydd cyhoeddiad “1 mewn 100” amlieithyddol yn cynnig cyngor ar sgitsoffrenia i bobl Cymru yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill hefyd yn cael ei lansio, fel y bydd Glasbrint Tai Hafal, yn cynnig ffordd ymlaen i gomisiynwyr mewn gwella tai i bobl gyda salwch meddwl difrifol.
Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Mae Cynhadledd Adferiad eleni yn mynd i fod yn llawn o ddigwyddiadau, lansiadau a cherrig milltir. Bydd nifer o brosiectau newydd yn cael eu cyhoeddi, ac mae ein Fforymau Defnyddwyr a Chynhalwyr yn addo i fod yn fwy o ddigwyddiadau nag yn y blynyddoedd ynghynt. Bydd y diwrnod yn dod â phobl broffesiynol allweddol y byd iechyd a chleientiaid a chynhalwyr ynghyd o ar draws Cymru mewn ymgais i gyflwyno ein neges: sef bod y rhaid i adferiad fod yn ffocws gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.”
Bydd y Cynhadledd Adferiad, a noddir gan Janssen-Cilag, hefyd yn cynnwys arddangosfeydd byw, dadl fyw, cerddoriaeth byw a chelfyddyd fyw. Bydd 22 arddangosfa ryngweithiol, wedi eu staffio, yn darparu gwybodaeth a chyngor ar eiriolaeth, tai, hyfforddiant a gwasanaethau cynhalwyr. Bydd gwybodaeth a chyhoeddiadau hefyd ar gael, a man cefnogaeth yn darparu gwybodaeth gyfrinachol a chyngor oddi wrth staff arbenigol yn rhedeg drwy’r dydd.