Diffygion Trychinebus” yn ffactor yn hunanladdiad Bronllys |
Crogodd Sylvan Money ei hun drwy ddefnyddio llinyn ei gŵn nos, bum niwrnod yn unig ar ôl cael ei derbyn i Ysbyty Bronllys. Roedd hyn yn dilyn dwy ymgais i ladd ei hun yn ystod yr wythnosau blaenorol, a chael ei hanfon i Adran Argyfwng Ysbyty Gyffredinol Henffordd ar ôl dioddef gorddos .
Yn dilyn yr hunanladdiad, mynegwyd pryderon am ddiffygion yr amserlen gwylio hunanladdiad, oedd yn golygu nad oedd Sylvan yn cael ei goruchwylio am gyfnod o amser, methiant i gymryd llinyn gwn nos Sylvan oddi arni, a methiant i dynnu pwynt clymu y gallai unigolyn ei ddefnyddio i grogi eu hunain. Daeth yr ymchwiliad troseddol dwy flynedd i’r farwolaeth i’r canlyniad nad oedd tystiolaeth ddigonol i ddwyn cyhuddiadau dynladdiad unigol neu gorfforaethol. Fodd bynnag, bydd yr Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad yn dilyn y cwest i doriadau posibl o amodau Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Bydd ymateb manwl yn dilyn yn fuan gan deulu Sylvan Money … |