Mesur Diwygio ar gyfer Iechyd Meddwl 2006: Briff

Mesur Diwygio ar gyfer Iechyd Meddwl 2006: Briff
Ddydd Gwener, 20fed Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Fesur Diwygio ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae’r Mesur yn cynnig newidiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Cymru a Lloegr) sy’n rheoli’r drefn o dderbyn pobl i ysbyty seiciatrig yn erbyn eu hewyllys, eu hawliau tra y byddant yn yr ysbyty, a’u rhyddhad o’r ysbyty ac ôl-ofal.

Yma, rhown grynodeb o’r newidiadau a gynigir gan y Llywodraeth yn ei Fesur Diwygio, a’r ymateb a’r pryderon o’r gymuned iechyd meddwl…

Yr hyn a gynigir gan y Llywodraeth/Barn y gymuned iechyd meddwl

Triniaeth Gymunedol dan Oruchwyliaeth

Mae’r Llywodraeth eisiau cyflwyno Triniaeth Gymunedol dan Oruchwyliaeth (TGO) ar gyfer cleifion yn dilyn cyfnod o gael eu cadw mewn ysbyty. Bydd yn golygu y gall cleifion fyw yn eu cymunedau dan bwerau’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Dim ond pobl “fyddai’n berygl i’w hiechyd neu eu diogelwch eu hunain neu eraill pe na baent yn parhau i dderbyn triniaeth ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty” all gael eu hystyried ar gyfer TGO.

Nid yw llawer o bobl o’r gymuned iechyd meddwl yn gwrthwynebu’r syniad o TGO ar gyfer y rheiny sydd eisoes wedi derbyn triniaeth mewn ysbyty mewn egwyddor. Ond, mae llawer yn credu y dylai’r pwerau i gyfyngu ymddygiad y rhai sy’n destun gorchymyn triniaeth gymunedol gael eu diffinio’n glir a’u cyfyngu’n bennaf i gydsyniad i dderbyn triniaeth. A dim ond am gyfnodau amser penodol y dylent gael eu gorfodi.

Diffiniad o anhwylder meddwl

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno diffiniad newydd, symlach o anhwylder meddwl drwy’r Ddeddf gyfan, i’w wneud yn “haws i’w ddefnyddio” ac fel bod y diffiniad yn “cwmpasu pob anhwylder ac anabledd meddwl yn symlach”.

Er nad ydynt yn gwrthwynebu diffiniad symlach o anhwylder meddwl, mae nifer yn teimlo y dylai amodau llym a chaeth fod ynghlwm ar gyfer gorfodaeth. Un pryder mawr yw bod y Llywodraeth yn bwriadu cael gwared ar y rhan fwyaf o’r eithriadau o’r Ddeddf bresennol sy’n atal ymddygiad fel ‘ymddygiadau anfoesol’ neu ‘gwyriad rhywiol’ rhag cael eu hystyried fel anhwylder meddwl.

Prawf triniaeth

Ar hyn o bryd, gellir cadw cleifion ar gyfer triniaeth dan adran 3 y Ddeddf os yw’r driniaeth yn debygol o leddfu neu atal eu cyflwr rhag gwaethygu (y ‘prawf triniaeth’). Mae’r Llywodraeth yn cynnig cael, yn ei le, gofyniad na all unigolyn gael ei gadw ar gyfer triniaeth oni bai bod y driniaeth briodol ar gael (prawf ‘triniaeth briodol’).

Mae’r beirniaid yn dweud bod y prawf ‘triniaeth briodol’ yn rhy amwys ac felly’n amhriodol ar gyfer ei ddefnyddio wrth ystyried gorfodaeth. Os bydd unigolyn yn cael eu cadw ar gyfer triniaeth, rhaid i’r driniaeth honno gynnig budd therapiwtig i’r unigolyn.

Perthynas Agosaf[b]

Mae’r Llywodraeth eisiau ymestyn yr hawl i gleifion wneud cais i lys sirol i ddisodli eu perthynas agosaf (PA). Bydd y darpariaethau ar gyfer pennu PA yn cael eu diwygio i gynnwys partneriaid sifil. Hefyd, bydd y claf, ymarferwr iechyd meddwl cymeradwyedig (AMHP), unrhyw berthynas i glaf, ac unrhyw un sy’n byw gyda chlaf, yn gallu gwneud cais i lys sirol i ddisodli’r PA.

Bydd rhai cleifion yn pryderu bod yn rhaid iddynt fynd drwy’r llysoedd sirol i gael gwared ar eu PA, gan y gall hyn fod yn broses hir, llawn straen.

[b]Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl

Ar hyn o bryd, mae gan bobl a gaiff eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl hawl i gael Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl i adolygu eu hachos ar ôl 6 mis o gael eu cadw dan orfodaeth. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cymryd pŵer gwneud gorchymyn fydd yn eu galluogi i amrywio’r cyfyngiad amser ar gyfer cyfeirio uniongyrchol gan reolwyr ysbyty i’r Tribiwnlys.

Croesawyd pwerau newydd fydd yn galluogi’r Llywodraeth i leihau’r amser cyn y gall claf gael Tribiwnlys. Ond, mae rhai wedi galw hefyd am fwy o bwerau i’r Tribiwnlys o ran defnyddio pwerau gorfodi neu driniaeth bellach.

Rolau proffesiynol

Mae’r Llywodraeth yn ehangu’r grŵp o ymarferwyr a all gymryd rôl y gweithiwr cymdeithasol cymeradwyedig (GCC) a swyddog meddygol cyfrifol (SMC) yn y Ddeddf Iechyd Meddwl. Dan y newidiadau a gynigir, bydd y GCC yn cael ei ddisodli gan Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwyedig (GIMPC), gyda’r rôl yn cael ei agor i fyny i grŵp ehangach o weithwyr proffesiynol fel nyrsys neu therapyddion galwedigaethol. Bydd y SMC yn cael ei ddisodli gan rôl y Goruchwyliwr Clinigol (GC) a bydd y rôl, sydd fel arfer yn cael ei chymryd gan seiciatrydd ymgynghorol, yn cael ei agor i weithwyr proffesiynol fel seiciatryddion, seicolegwyr, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol. Cynigir hefyd y gall y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol (yn hytrach na’r SMC) wneud penderfyniadau am driniaeth.

Mae llawer wedi mynegi eu pryder y dylai’r rolau hyn gael eu rheoleiddio a chael adnoddau da, gyda hyfforddiant priodol yn cael ei gynnig.

Yr hyn nad yw’r Llywodraeth yn ei gynnig:
Nid yw’r Llywodraeth yn cynnig hawliau cilyddol newydd i gleifion i gydbwyso elfennau gorfodi’r Ddeddf.

Barn y gymuned iechyd meddwl:
Teimlir yn gyffredinol y dylai fod yna hawl cyfreithiol i gleifion gael y triniaethau y byddant yn gofyn amdanynt yn wirfoddol cyn i’w salwch waethygu i’r pwynt pan allai gorfodaeth fod yn angenrheidiol.

Materion Cymru

Un o’r prif faterion ar gyfer pobl yng Nghymru yw sut y byddai’r diwygiadau hyn yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: “Mae gan Lywodraeth y Cynulliad raglen gadarn i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, sy’n cael ei chefnogi gan Hafal a sefydliadau defnyddwyr eraill. Mae yna berygl gwirioneddol y bydd y Mesur newydd yn tarfu ar y rhaglen hon, ac y gallai, gyda’i sylw ar ehangu gorfodaeth, danseilio’r bartneriaeth rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol sydd mor hanfodol i wasanaethau iechyd meddwl llwyddiannus.”
.”

Rhagor o wybodaeth

I ddarllen y Mesur Diwygio, cliciwch yma.

I ddarllen ymateb y Gynghrair Iechyd Meddwl, sef clymblaid o 78 sefydliad, gan gynnwys Hafal, sy’n cydweithio i sicrhau deddfwriaeth iechyd meddwl gwell, cliciwch yma.

I gael gweld y newyddion diweddaraf am y Mesur Diwygio, ewch i www.iechydmeddwlcymru.net