£30 miliwn i wella cyfleusterau iechyd meddwl de Cymru

£30 miliwn i wella cyfleusterau iechyd meddwl de Cymru
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Brian Gibbons wedi cyhoeddi heddiw rhaglen £30 miliwn i wella cyfleusterau iechyd meddwl yn ardal Ymddiriedolaeth GIC Bo Morgannwg, sydd cynnwys Castell-nedd-Port Talbot, Penybont a gorllewin Bro Morgannwg. Bydd yr arian yn mynd tuag at amryw o wasanaethau gan gynnwys canolfannau gofal dyddiol newydd a chyfleusterau gofal a ddylai fod ar agor erbyn haf 2009.

Yn siarad am y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion sydd wedi’i hadolygu ac a lawnsiwyd mis Hydref diwethaf, dywedodd Dr Gibbons: “Yn hanfodol i’r rhaglen weithredu a’r FfGC yw’r anghenraid i weithio’n agos gyda sefydliadau Fictoriannaidd a’u hamnewid hwy gyda llety sydd yn addas i bwrpas.”